Dechrau'r gwaith adnewyddu ar gloc eiconig Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Cloc MachynllethFfynhonnell y llun, Cyngor Tref Machynlleth
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd y gwaith adnewyddu yn cymryd tua wyth wythnos i'w gwblhau

Mae gwaith adnewyddu wedi dechrau ar gloc eiconig tref Machynlleth.

Nid yw'r cloc wedi gweithio ers 2020, ac mae eleni'n nodi 150 o flynyddoedd ers dechrau'r gwaith o'i adeiladu.

Mae Cyngor Tref Machynlleth wedi cytuno i wario dros £50,000 i'w drwsio.

Y gobaith yw y bydd y gwaith adnewyddu yn cymryd tua wyth wythnos i'w gwblhau.

Mae'r cloc yn dirnod amlwg 24m o uchder yng nghanol y dref wrth y gyffordd lle mae'r A489 a'r A487 yn cwrdd.

Cafodd ei adeiladu er mwyn dathlu pen-blwydd mab hynaf pumed Marcwis Londonderry, oedd yn byw ym Mhlas Machynlleth.

Roedd Charles Stewart Vane-Tempest yn 21 oed ym mis Gorffennaf 1873, ond oherwydd profedigaeth yn y teulu bu'n rhaid gohirio'r dathlu am flwyddyn, ac felly ni ddechreuwyd y gwaith adeiladu tan fis Gorffennaf 1874.

Pynciau cysylltiedig