'Annerbyniol' talu llai i ofalwyr na staff iechyd

  • Cyhoeddwyd
Diana Davies [dde] a Branwen Richards
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Branwen Richards [dde] y byddai'n hoffi gweld mwy o gydnabyddiaeth am waith gweithwyr gofal

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw am gyflogau ac amodau cyfartal i weithwyr gofal cymdeithasol sy'n cyflawni'r un swyddogaethau â staff y gwasanaeth iechyd.

Mae Helena Herklots hefyd yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fuddsoddi mwy mewn gofal cymdeithasol.

Yn ôl ffigyrau swyddogol bydd tua £874m yn cael ei wario gan gynghorau Cymru ar wasanaethau cymdeithasol i bobl dros 65 oed yn 2023/24, ac mae disgwyl i bwysau ar y sector gynyddu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "cydnabod y rôl anhygoel y mae gweithwyr gofal yn ei chwarae ac rydym wedi ymrwymo i wella amodau gwaith a'i gwneud yn yrfa fwy deniadol".

Ymgais recriwtio newydd

I fynd i'r afael â heriau recriwtio mae un asiantaeth yn y gogledd yn edrych ar ddull mwy creadigol o ddenu gweithwyr i'r maes.

Mae Gofal Seibiant yn edrych ar ôl pobl yn eu cartrefi yng Ngwynedd a Môn, ac maent wedi ail-feddwl y ffordd maen nhw'n recriwtio'n lleol.

Ers dechrau'r flwyddyn mae'r cwmni wedi trawsnewid hen ambiwlans i swyddfa symudol, ac mae'r cerbyd yn teithio ar draws cymunedau er mwyn codi ymwybyddiaeth am y swyddi sydd ar gael.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r swyddfa symudol yma'n teithio i gymunedau er mwyn codi ymwybyddiaeth am swyddi gofal

"Dwi'n meddwl bod 'na stigma efo'r maes gofalu, dwi ddim yn meddwl bod lot o bobl yn gwybod yn union be mae gofalwr yn ei wneud," meddai Huw Williams, rheolwr recriwtio Gofal Seibiant.

Ychwanegodd ei fod yn gyson yn gorfod esbonio beth oedd gwaith gofalwr wrth gwrdd â phobl.

Dywedodd hefyd bod cyfnod Covid wedi cael effaith andwyol ar y sector a nifer wedi gadael y maes.

Disgrifiad o’r llun,

"Dylse rôl gofalu gael ei chymryd fel rôl broffesiynol," dywedodd Huw Williams

"'Da ni fel cwmni wedi codi cyflogau'n ddiweddar i ddenu pobl, a denu'r bobl iawn sy'n bwysig.

"Ond fel y gwn pawb - medrwch chi weithio mewn archfarchnad a fedrwch chi gael hyn a hyn yr awr. Yn anffodus dyna ddigwyddodd lot yn amser Covid - lot o gwmnïau'n colli pobl i'r archfarchnadoedd yma.

"Mae'n bwysig, dylse rôl gofalu gael ei chymryd fel rôl broffesiynol, ddim gwahanol i rywun yn rhoi gofal yn ysbyty... mae 'na gap mawr yn y cyflogau," ychwanegodd.

'Ofnadwy o bwysig i deuluoedd'

Mae Branwen Richards wedi bod yn gweithio fel gofalwr yn y gymuned yng Ngwynedd am tua chwe blynedd.

Mae'n ymweld â Diana Davies yn Llanberis bedair gwaith y dydd - i'w chodi yn y bore ac i'w gweld amser cinio, amser te a gyda'r nos.

"Mae'n ofnadwy o bwysig i'r teulu a'r unigolyn, i'r teulu gael amser iddyn nhw eu hunain a gwneud yn siŵr bod yr unigolyn yn hapus adre," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Branwen Richards bod ei gwaith yn allweddol er mwyn cadw pobl allan o ysbytai

Dywedodd bod y gwaith yn allweddol i gadw pobl allan o'r ysbyty a'u cadw nhw yn eu cartrefi yn ddiogel ac yn iach.

"Ma' 'na rai pobl wedi bod yn yr hospital am chwe mis a 'da ni wedi gallu dod â nhw adre a ma' nhw mor hapus," meddai.

Ymhlith y pethau sy'n rhoi boddhad iddi ydy "gweld gwynebau pobl yn y bore, bo nhw'n hapus gweld chi, gwneud yn siŵr bo nhw'n lan a bo nhw'n barod am y diwrnod a pan ma' nhw'n cael dod adre o'r hospital".

Dywedodd Branwen fod angen newid sawl peth o fewn y sector gan gynnwys gwell cyflogau a mwy o gydnabyddiaeth.

"Fel gofalwyr yn y cartref - mae'r NHS yn grêt wrth gwrs - ond dydy pobl sy'n gwneud gofal adre ddim yn cael gymaint o recognition mewn ffordd."

'Rhaid i ni gael cydraddoldeb'

Yn ôl ffigyrau swyddogol bydd tua £874m yn cael ei wario gan gynghorau Cymru ar wasanaethau cymdeithasol i bobl dros 65 oed yn 2023/24. Mae hyn 13% yn fwy na llynedd.

Bydd pwysau ar y sector hefyd yn cynyddu gan fod disgwyl i nifer y bobl hŷn sy'n byw gyda dementia difrifol gynyddu i 53,700 erbyn 2040.

Mae hynny ddwywaith y nifer o'i gymharu â 2020, yn ôl adroddiad gan Dadansoddi Cyllid Cymru.

Gofal anffurfiol sy'n cael ei ddarparu gan ffrindiau a theulu yw'r ffynhonnell fwyaf o ofal oedolion, a phe tasai hynny'n cael ei dalu amdano fyddai'r gost tua £8biliwn - sef swm tebyg i gyllideb flynyddol y gwasanaeth iechyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o waith gofal yn cael ei ddarparu gan deulu a ffrindiau

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am weld gweithlu'r sector gofal yn cael ei gynnal a'i gefnogi.

"Mae'n dda bod y cyflog byw go iawn yn cael ei dalu ond mae'n annerbyniol os ydych yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol a'ch bod yn gwneud rhywbeth sydd fwy neu lai yr un peth â gwaith rhywun yn y gwasanaeth iechyd, eich bod yn cael llai o dâl," meddai Helena Herklots.

"Mae'n rhaid i ni gael cydraddoldeb yn gyflym, mae'n rhaid i ni wella telerau ac amodau ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu ar draws cymdeithas i annog pobl i weithio mewn maes sy'n broffesiwn gwych."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi buddsoddi £70m i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn parhau i gael o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol.

Ychwanegodd bod "cynnydd sylweddol yn setliad llywodraeth leol 2023-24 yn dangos ein hymrwymiad i gwrdd â'r pwysau ym maes gofal cymdeithasol".

"Rydym yn cymryd camau i broffesiynoli'r sector, gwella statws gofal cymdeithasol a chreu mwy o gyfleoedd dilyniant gyrfa."