Cymraes yw'r fenyw gyntaf i reoli tîm dynion yn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae Cymraes wedi ei phenodi yn rheolwr dros dro ar Forest Green Rovers - y fenyw gyntaf i reoli tîm dynion yng nghynghrair Lloegr.
Mae Hannah Dingley, sy'n 39 ac o ardal Caerfyrddin, wedi bod yng ngofal academi'r clwb ers 2019.
Mae Dingley'n cymryd yr awenau ar ôl i'r clwb - sy'n Adran Dau - ddiswyddo Duncan Ferguson yn dilyn chwe mis wrth y llyw.
Dingley oedd yr unig fenyw i reoli academi clwb yn y Gynghrair Bêl-droed, ac fe wnaeth hi sefydlu academi i ferched yno yn 2021 hefyd.
Dywedodd: "Dwi'n gyffrous i'r cam nesaf 'ma yn fy ngyrfa.
"Mae'n gyfnod cyffrous mewn pêl-droed. Dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gamu lan a dilyn clwb sydd mor flaengar."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022