Marwolaethau tân Abertawe: 'Dim amgylchiadau amheus'

  • Cyhoeddwyd
Y teulu EsmaelFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Muhammad Esmael (canol) gyda'i dad Naemat Lawa Esmael (dde), ei fam Sharmeen a'i frawd a'i chwaer

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio yn achos tad a mab a fu farw yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe y penwythnos diwethaf.

Bu farw Naemat Lawa Esmael, 51, a'i fab tair oed, Muhammed yn y digwyddiad yn ardal West Cross y ddinas.

Clywodd y gwrandawiad yn Abertawe bod dim tystiolaeth o unrhyw amgylchiadau amheus.

Dydy achos y tân heb ei gadarnhau eto ac mae ymchwiliad yr heddlu a'r gwasanaeth tân yn parhau.

Wrth agor y cwest, fe gydymdeimlodd crwner dros dro Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, Colin Phillips, â theulu Mr Esmael, oedd yn briod ac yn dad i dri o blant.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ystafell wely yn yr eiddo yn ardal West Cross, Abertawe yn wenfflam erbyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd

Fe gafodd y gwasanaethau brys adroddiadau bod y tŷ ar dân am 13:19 ddydd Sadwrn, ac erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd un o'r ystafelloedd gwely yn wenfflam.

Daethpwyd o hyd i gorff Muhammed, ac fe gofnodwyd ei fod wedi marw am 14:00.

Roedd Mr Esmael yn gorwedd ar lawnt blaen y tŷ. Fe gafodd ei gludo i'r ysbyty, ble y bu farw ddydd Llun.

Mae casgliadau cychwynnol archwiliadau'n awgrymu fod sawl un o'i organau wedi methu, ei fod wedi cael llosgiadau i 81% o arwynebedd ei gorff, a'i fod wedi cael anafiadau anadliad difrifol.

Fe gafodd y cwest ei ohirio tan 9 Ionawr 2024.

Ymdrechion cymunedol

Cafodd angladdau Muhammed a'i dad eu cynnal ddydd Iau ym mosg Abertawe a'r ganolfan gymunedol Islamaidd ar Heol San Helen y ddinas.

Mae apeliadau lleol eisoes wedi codi dros £40,000 i gefnogi gweddw Mr Esmael, Sharmeen, a'i ddau blentyn arall.

Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliwyd angladdau Naemat Lawa Esmael, 51, a'i fab tair oed, Muhammed, ddydd Iau

Fe ddarllenodd brawd Mr Esmael, Masood Lawa Esmael, ddatganiad ar ran y teulu yn dweud fod Muhammed yn "dod â heulwen ble bynnag yr aeth."

Dywedodd llefarydd ar ran cymuned Gwrdaidd Abertawe eu bod "yn unedig fel cymuned, ac yn cefnogi ei gilydd."

Yn dilyn y gwasanaeth, fe gafodd arch Mr Esmael ac arch ei fab eu cludo i faes awyr Heathrow er mwyn eu claddu yn Irac.

Pynciau cysylltiedig