Bethan Rhys Roberts yw cyflwynydd newydd Hawl i Holi

  • Cyhoeddwyd
Bethan Rhys Roberts

Bethan Rhys Roberts yw cyflwynydd newydd rhaglen Hawl i Holi ar ôl i Dewi Llwyd gyhoeddi ei fod yn ildio'r awenau wedi 15 mlynedd.

Fe gyflwynodd ei raglen olaf ar Radio Cymru o Lansannan nos Iau - yr union leoliad y gwnaeth gyflwyno'i rifyn cyntaf.

Dywedodd y bu'n "fraint" ymweld â chynulleidfaoedd ar hyd Cymru a rhoi cyfle iddynt leisio'i barn.

Ond dywedodd ei bod yn bryd "trosglwyddo'r awenau i'r genhedlaeth nesaf".

Disgrifiad,

Wrth basio'r awenau wedi 15 mlynedd o gyflwyno Hawl i Holi, Dewi Llwyd fu'n edrych nôl dros ei gyfnod wrth y llyw

Ar ddiwedd ei raglen olaf o Ganolfan Bro Aled nos Iau, fe gyhoeddodd Dewi Llwyd mai Bethan Rhys Roberts fydd yn ei olynu o'r hydref.

Mae Bethan yn wyneb cyfarwydd fel un o brif gyflwynwyr Newyddion S4C ac mae i'w chlywed yn aml fel cyflwynydd rhaglenni Bore Sul a Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.

Dywedodd Bethan: "Mae gan Hawl i Holi le arbennig iawn yn y sgwrs genedlaethol ac mae hi wir yn fraint i fod â rhan yn llywio'r trafod hwnnw ar BBC Radio Cymru.

"Dwi'n edrych ymlaen at gyfarfod cynulleidfaoedd ar draws Cymru i wneud yn siŵr bod y farn ar lawr gwlad yn cael ei chlywed yn glir.

"Mae Dewi wedi gwneud hynny'n feistrolgar dros y blynyddoedd ac fe fydd hi'n her fawr iawn i gamu i'w 'sgidiau."

Gallwch wrando ar rifyn olaf Hawl i Holi gyda Dewi Llwyd wrth y llyw yma.

Pynciau Cysylltiedig