Dewi Llwyd i gyflwyno rhaglen Hawl i Holi am y tro olaf

  • Cyhoeddwyd
Dewi Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dewi Llwyd bod dim wedi rhoi mwy o foddhad iddo "nag ymweld â chymunedau ar hyd a lled Cymru"

Mae'r darlledwr Dewi Llwyd yn paratoi i gyflwyno rhaglen Hawl i Holi ar BBC Radio Cymru am y tro olaf, wedi 15 mlynedd wrth y llyw.

Fe gyflwynodd ei rifyn cyntaf erioed o'r rhaglen o Ganolfan Bro Aled, Llansannan, a dyna hefyd leoliad ei rifyn olaf sy'n cael ei ddarlledu'n fyw nos Iau 6 Gorffennaf.

Bydd yn cadarnhau yn ystod y rhaglen pwy fydd ei olynydd fel cyflwynydd Hawl i Holi.

Fe fydd yn parhau i fod yn rhan o dîm cyflwyno Dros Ginio ar Radio Cymru.

Dywedodd y darlledwr, oedd hefyd yn arfer cyflwyno rhaglenni Newyddion S4C a Pawb A'i Farn: "Ar hyd yr holl flynyddoedd o ddarlledu 'does dim wedi rhoi mwy o foddhad imi nag ymweld â chymunedau ar hyd a lled Cymru, a chlywed cynulleidfaoedd yn cyfrannu'n huawdl ar bynciau o bob math.

"Mae cyfarfod â chymaint o gymeriadau doeth a difyr gan roi cyfle iddyn nhw leisio barn wedi bod yn fraint."

'Trosglwyddo'r awenau i'r genhedlaeth nesaf'

Ychwanegodd: "Mae hefyd wedi bod yn gyfle i groesholi rhai o'n gwleidyddion amlycaf ni ar adeg o ddadlau tanbaid, pan oedd gwir angen trafodaeth gyhoeddus, agored."

"Mae fy niolch yn fawr iddyn nhw, ac yn wir i bawb sydd wedi bod ynghlwm â'r rhaglen mewn unrhyw fodd.

"Ond wedi pymtheng mlynedd o grwydro, daeth yn bryd imi gamu i'r naill ochr, i ddarlledu ychydig yn llai aml, ac i drosglwyddo'r awenau i'r genhedlaeth nesaf.

"Yn naturiol heb wrandawyr ffyddlon fyddai'r rhaglen ddim wedi para cyhyd, a 'dwi'n edrych ymlaen at fod yn eich plith chi yn yr Hydref."

Y panelwyr yn Llansannan nos Iau fydd cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, AS Plaid Cymru Hywel Williams, cyn-Gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd Sian Eirian a'r Cynghorydd Mostyn Jones.

Pynciau Cysylltiedig