'Gweld synnwyr o'r diwedd' ar dyrbinau dadleuol Moelfre, Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Clerc Cyngor Betws-yn-Rhos a Llanelian-yn-Rhos, Tom Jones: 'Bysa sylfaen rhain tua maint cae ffwtbol'

Mae cynlluniau dadleuol i osod 20 o dyrbinau gwynt mewn parc ynni yn Sir Conwy wedi eu tynnu yn ôl.

Roedd ymgyrchwyr yn honni fod cwmni Bute Energy yn bwriadu codi'r tyrbinau "anferth" ger pentrefi Llangernyw, Betws-yn-Rhos a Llanfairtalhaearn.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen â'r cynllun oherwydd "ystod o ffactorau" yn ymwneud â'r safle yn dilyn asesiadau diweddar.

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd Gorllewin Clwyd, Darren Millar, bod Bute Energy "wedi gweld synnwyr o'r diwedd".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna ymgyrch yn lleol yn erbyn codi tyrbinau gwynt "anferth"

Roedd gan nifer o bobl leol bryderon am effaith y tyrbinau ar yr ardal wledig a allai fod wedi bod hyd at 250m o daldra, yn ôl rhai.

Fe wnaeth un sy'n byw ger cae lle gallai'r tyrbinau fod wedi cael eu codi gymharu'r sefyllfa â hanes Tryweryn.

Roedd Bute Energy'n dweud y byddai'n gallu cynhyrchu trydan gwyrdd a glân a chynorthwyo targed Llywodraeth Cymru i drydan fod 100% yn adnewyddadwy erbyn 2035.

Ond nos Iau, fe ddywedodd y cwmni eu bod wedi cwblhau gwaith asesu oedd yn "gamau cynnar iawn" ac na fyddai'r cynllun yn parhau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bute Energy yn dweud bod ynni gwynt yn rhan allweddol o ymdrechion i leihau allyriadau carbon

"O ganlyniad i ystod o ffactorau sy'n benodol i safleoedd, yn cynnwys cyfyngiadau ar fynediad, a chyfyngiadau ecolegol a thechnegol, ni fydd y cynnig yn bwrw ymlaen," dywedodd y cwmni.

"Gwyddom fod gan bobl wahanol farnau am seilwaith newydd.

"Ond ledled Cymru, mae yna gytuno cyffredinol bod gan ynni adnewyddadwy ran bwysig o ran ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

"Dengys ymchwil fod yna fwyafrif pendant o bobl yn cefnogi gwynt ar y tir ac maent yn fwy na bodlon gweld seilwaith ynni adnewyddadwy yn eu hardal leol."

Ychwanegodd y cwmni mai gwynt ar y tir yw "un o'r opsiynau cost isaf ar gyfer ynni gwyrdd, glân" a all gael ei ddefnyddio "yn gyflym i ymateb i'r argyfwng hinsawdd".

Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Mawrth, cafodd cyfarfod agored ei gynnal yn Llangernyw i drafod y cynlluniau posib

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd ymgyrchwyr yn erbyn y cynllun posib eu bod "wedi llwyddo".

"Dydy penderfyniad Bute Energy ddim yn dod fel syndod," dywedodd Ross Evans sydd yn llefarydd ar ran elusen cymunedau gwledig CPRW.

"O ystyried cryfder ac undod y gwrthwynebiad lleol, daeth safbwynt y datblygwr yn anghynaladwy. Doedd ganddyn nhw ddim dewis ond tynnu'n ôl."

Cynlluniau 'dinistriol'

Dywedodd yr Aelod Ceidwadol dros Orllewin Clwyd yn y Senedd, Darren Millar, ei fod yn croesawu'r newyddion diweddaraf.

"Rwy'n falch iawn bod Bute Energy wedi gweld synnwyr o'r diwedd ac wedi tynnu eu cynigion ar gyfer fferm wynt ym Moelfre Uchaf yn ôl.

"Byddai'r cynigion ar gyfer tyrbinau anferth hyd at 250 metr o uchder wedi bod yn ddinistriol i'r ardal, yn difetha bywydau a bywoliaeth, ac wedi cael effaith sylweddol a niweidiol ar dirwedd Gogledd Cymru.

"Dim ond mewn mannau lle maen nhw'n mwynhau cefnogaeth gymunedol y dylid adeiladu ffermydd gwynt - nid yw'r lleoliad hwn yn un ohonyn nhw."

Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Tom Jones, Clerc Cyngor Cymuned Betws-yn-Rhos a Llanelian-yn-Rhos bod "yna lawer iawn o wrthwynebiad i'r prosiect yma ond ar y llaw arall mi roedd yna fodd i rai pobl gael cyfle ariannol yn y prosiect hefyd, felly mae yna ddwy ochr iddi".

Gan gyfeirio at uchder tebygol y tyrbeinau dan sylw, dywedodd fod rhai wedi honni bod y sylfaen ar eu cyfer "am fod yr un maint â cae ffwtbol", gan ychwanegu: "Mi fydde fo wedi cymryd lot o dir a wedi bod yn amlwg iawn ar y tirwedd."

Pynciau cysylltiedig