'Pwyllgor Senedd Cymru ar Covid yn annigonol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Anna-Louise Marsh-Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna-Louise Marsh-Rees, arweinydd y grŵp Covid-19 Bereaved Families Cymru, wedi bod yn galw am ymchwiliad annibynnol Cymreig

Mae teuluoedd a gollodd berthnasau yn ystod y pandemig yn dweud bod pwyllgor y Senedd ar Covid yn drysu'r mater a hynny wrth i alwadau am ymchwiliad annibynnol barhau.

Dywed Anna-Louise Marsh-Rees, arweinydd grŵp Covid-19 Bereaved Families Cymru, na all pwyllgor sy'n cael ei arwain gan wleidyddion weithredu cystal ag ymchwiliad annibynnol penodol i Gymru.

"Nid yw'n bosib iddo gwmpasu'r holl faterion a sicrhau y manylrwydd sydd ei angen arnom," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran pwyllgor Covid-19 y Senedd, a fydd yn cwrdd am y tro cyntaf wythnos nesaf: "Wrth i waith y pwyllgor fynd rhagddo bydd sawl cyfle i bobl gael dweud eu dweud."

"Ond dyw e ddim yr un fath â chael ymchwiliad i Gymru. Dyw e ddim yn annibynnol a dydyn ni ddim eisiau iddo fod yn wleidyddol," ychwanegodd Ms Marsh-Rees.

Cafodd Pwyllgor Diben Arbennig Covid-19 Cymru ei sefydlu fel rhan o gytundeb rhwng Llafur Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig.

Ei nod yw canfod unrhyw fylchau yn yr hyn sy'n cael ei ddweud am Gymru yn ymchwiliad Covid y DU.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthod galwadau am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru.

Diffyg adnoddau

Mae gan y gyfreithwraig Lucy O'Brien brofiad helaeth o ymchwiliadau cyhoeddus ac adolygiadau barnwrol.

Dywedodd ei bod yn pryderu na fydd gan y pwyllgor seneddol ddigon o adnoddau i graffu'n ddigonol ar y penderfyniadau a gafodd eu gwneud yn ystod y pandemig.

"Byddai gan ymchwiliad cyhoeddus annibynnol ddigon o adnoddau i fynd at dystion, gorfodi tystiolaeth a chynnal gwrandawiadau cyhoeddus," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y gyfreithwraig Lucy O'Brien y byddai gan ymchwiliad gwell adnoddau

"Dywedwch fod ymchwiliad cyhoeddus y DU yn darganfod fod problemau gyda chartrefi gofal yng Nghymru a bod hynny'n rhan o argymhellion y Farwnes Hallett, a fyddai'r pwyllgor seneddol wedyn yn cysylltu gyda chartrefi gofal yng Nghymru i gael tystiolaeth? Dwi'n meddwl bod hynny'n annhebygol oherwydd fydd ganddyn nhw ddim ddigon o adnoddau i wneud hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddan nhw'n darparu sylwebaeth barhaus ar y dystiolaeth a fydd yn cael ei chyflwyno i'r ymchwiliad ac na fyddan nhw'n dyfalu beth fydd casgliadau yr ymchwiliad.

Ychwanegodd Ms O'Brien ei bod wedi'i "synnu" fod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn cynnal ymchwiliad cyhoeddus annibynnol Cymreig.

Dywedodd: "Rydym yn gwybod fod Cymru wedi cymryd llwybr gwahanol iawn i Lywodraeth y DU yn ystod y pandemig ac mewn sawl maes roedd yr ymateb yng Nghymru yn wahanol i weddill y DU. Mae'n syndod i ni o bersbectif cyfreithiol fod y Senedd wedi pleidleisio yn erbyn cael ymchwiliad annibynnol."

Llafur a'r Ceidwadwyr yn cyd-gadeirio

Mae'r pwyllgor yn cael ei gyd-gadeirio gan yr AS Llafur, Joyce Watson a'r AS Ceidwadol ,Tom Giffard.

Mae'r ffaith fod y pwyllgor yn cael ei gyd-gadeirio gan y Ceidwadwyr a Llafur wedi ennyn beirniadaeth gan Blaid Cymru.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor fod y ddwy blaid eisiau "tawelu'r mater" o gael ymchwiliad cyhoeddus a'i "wthio i un ochr.

"Nid dim ond y bylchau mae'n rhaid i ni edrych arnynt, mae'n rhaid i ni edrych ar yr holl faterion Covid yng Nghymru oherwydd mae iechyd wedi'i ddatganoli," ychwanegodd.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fod ei blaid wedi ymrwymo i "alluogi'r pwyllgor i weithio hyd eithaf ei allu fel unrhyw bwyllgor craffu yn Senedd Cymru".

"Yr her yn amlwg i wleidyddion meinciau cefn y llywodraeth yw gwneud yn siŵr eu bod yn cymryd cyfrifoldeb a ddim yn gweithredu fel estyniad o Lywodraeth Cymru," ychwanegodd.