Ymchwiliad Covid: Pryderon wedi’u codi am baratoadau Cymru yn 2018
- Cyhoeddwyd
Roedd rhybudd yn 2018 nad oedd Llywodraeth Cymru yn helpu digon gyda chynllunio am bandemig yn y DU.
Clywodd yr ymchwiliad Covid fod yr uwch was sifil, Reg Kilpatrick wedi dweud y gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo Llywodraeth y DU yn fwy nag yr oedd.
Mewn e-bost awgrymodd fod Cymru wedi bod yn aros i Lywodraeth y DU baratoi canllawiau.
Nid oedd un ddogfen ganllaw allweddol wedi newid ers 2011.
Dywedodd Mr Kilpatrick wrth yr ymchwiliad y byddai Cymru wedi bod mewn "sefyllfa well" petai'r cynlluniau wedi eu diweddaru.
"Dwi'n meddwl y bydden ni wedi cael gwell dealltwriaeth o'r risgiau fel yr oedden nhw bryd hynny," meddai.
'Rhagdybiaethau'
Ond mewn cyfeiriad at y ffocws ar ffliw yn hytrach nag ar goronafeirws neu glefydau heintus eraill, dywedodd y gwas sifil "roeddem yn gweithio ar set o ragdybiaethau, a byddai'r cynlluniau hynny wedi bod yn seiliedig ar y rhagdybiaethau hynny".
Anfonwyd yr e-bost, dyddiedig 6 Gorffennaf 2018, at nifer o uwch weision sifil eraill gan gynnwys y Prif Swyddog Meddygol Syr Frank Atherton ac Andrew Goodall, a oedd ar y pryd yn brif weithredwr GIG Cymru ond sydd bellach yn ysgrifennydd parhaol i Lywodraeth Cymru, sef y prif swyddog.
Ysgrifennodd Mr Kilpatrick, a oedd yn gyfarwyddwr llywodraeth leol ar y pryd, am drafodaeth ynghylch adolygiad o gynlluniau am bandemig ffliw yn y DU.
Dywedodd y bu ceisiadau gan Lywodraeth y DU "i ddarparu rhywfaint o fewnbwn ymarferol a chefnogaeth i ddatblygu'r canllawiau".
Dywedodd: "O ystyried mai adolygiad y DU yw hwn, fe wnaethon nhw ofyn yn benodol am rai adnoddau i helpu gyda'r dasg honno sy'n ymddangos yn gais rhesymol.
"O ystyried cyfanswm y capasiti cynllunio brys ar draws GIG Cymru, byddwn yn disgwyl i ni fod yn fwy cydweithredol nag yr ydym ar hyn o bryd."
'Diwyd a gweithgar'
Wrth gael ei holi gan Nia Gowman, sy'n cynrychioli grŵp Covid-19 Teuluoedd dros Gyfiawnder mewn Profedigaeth, gwadodd fod agwedd o ddifaterwch neu hunanfodlonrwydd o fewn Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Mr Kilpatrick, sydd bellach yn gyfarwyddwr cyffredinol adferiad Covid a llywodraeth leol: "Gwn fod y cydweithwyr a gafodd eu copïo i'r e-bost yn hynod ddiwyd a gweithgar, ac yn deall ehangder a phwysigrwydd eu gwaith."
Dywedodd fod rhywfaint o'r pryder wedi bod yn ymwneud â gwaith ar fil seneddol y DU ar gyfer pandemig ffliw, a oedd wedi'i "gwblhau mewn pryd i alluogi'r ddeddfwriaeth i ddod i rym pan oedd angen".
Yn yr ymchwiliad ddydd Llun dywedodd Syr Frank Atherton fod yr e-bost wedi bod yn rhan o ohebiaeth yn trafod pryderon am gynnydd y gwaith, y teimlwyd bod angen eu dwyn i sylw'r gweinidog iechyd ar y pryd.
Dywedodd Syr Frank Atherton fod Mr Kilpatrick wedi bod yn bryderus "nad oeddem yn nodi'n ddigonol yr angen am adnoddau ychwanegol".
Yn ddiweddarach dywedodd Syr Frank Atherton fod y gwaith ar ganllawiau cynllunio pandemig yng Nghymru "i gyd wedi arafu" oherwydd bod adnoddau wedi'u symud i Operation Yellowhammer - gwaith paratoi ar gyfer y posibilrwydd y gallai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Yn gynharach yr wythnos hon fe gyfaddefodd y cyn-Weinidog Iechyd Vaughan Gething fod problemau cynllunio ar gyfer marwolaethau ychwanegol wedi achosi loes i deuluoedd y rhai a fu farw yn ystod Covid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023