Gwleidyddiaeth: 'Dim blaenoriaeth i fenywod â phlant'

  • Cyhoeddwyd
Bethan Sayed
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl cyn-aelod yn y Senedd mae gan wleidyddiaeth ffordd bell i fynd os am sicrhau fod merched yn cael eu trin yn deg.

Dyw gweithio ym myd gwleidyddiaeth ddim yn iach ac mae'n yrfa sydd bron yn amhosib i ferched sydd â phlant, medd cyn-AS.

Dywed Jenny Willott, cyn AS Canol Caerdydd, ei bod yn gweithio hyd at 100 awr yr wythnos ac y byddai hynny yn "hynod o anodd" i fam.

Dywed Bethan Sayed, a fu'n aelod o Blaid Cymru yn Senedd Cymru, nad yw menywod sydd â phlant yn cael blaenoriaeth.

Daw sylwadau'r ddwy wedi i Mhairi Black AS ar ran yr SNP ddweud bod yr amgylchedd gwaith yn San Steffan yn "gwahaniaethu ar sail rhyw, yn wenwynig ac yn hen ffasiwn".

Mae Ms Black, a gafodd ei hethol yn 2015 pan yn 20 oed, yn ddirprwy arweinydd yr SNP yn San Steffan ac mae wedi dweud na fydd hi'n sefyll eto.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales fore Sul dywedodd Ms Sayed ei "bod yn hynod o anffodus bod Mhairi Black yn gadael. Mae'n ddynes sydd â gwerthoedd, mae'n angerddol ac mae'n fodlon mynegi ei barn. Fe fydd San Steffan ar goll hebddi".

Ffynhonnell y llun, Senedd y DU
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mhairi Black bod amgylchedd gwaith San Steffan yn "rhywiaethol, gwenwynig ac yn hen ffasiwn"

"Dwi'n gallu cydymdeimlo â sylwadau Mhairi ond rwy'n gobeithio ei gweld yn Holyrood ac yn arwain y blaid ryw ddydd," ychwanegodd Ms Sayed.

Dywedodd bod diwylliant y Senedd yn gallu bod yn "wenwynig" petai materion gwleidyddol dadleuol yn cael eu trafod.

Bu Ms Sayed yn aelod yn y Cynulliad a ddaeth wedyn yn Senedd Cymru rhwng 2007 a 2021.

"Ddim yn amgylchedd gwaith arferol'

"Ry'n ni fod i weithio oriau gwaith sy'n cyd-fynd â bywyd teuluol ond dyw hynny ddim yn bosib os ydych am wneud eich gwaith y gorau gallwch chi," ychwanegodd.

Dywedodd Ms Willot a oedd yn AS rhwng 2005 a 2015: "Mae 'na rywbeth sydd ddim yn iach iawn am y diwylliant yn San Steffan, yr oriau hir a thipyn o alcohol i nifer o bobl.

"Dyw e ddim fel amgylchedd gwaith arferol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jenny Willott, a oedd yn AS o 2005 i 2015, mai cymorth ei gŵr a'i galluogodd i gyflawni ei dyletswyddau

Dywed Ms Willott ei bod "fwy neu lai" yn gallu gweithio 90 i 100 awr yr wythnos a hynny am ei bod yn ifanc ond "dyw e ddim yn iach", ychwanegodd.

"Pan mae gennych blant mae bron yn amhosib - mae'n galed.

"Ro'n i ond yn gallu ymdopi gyda chymorth y gŵr - ro'dd e'n edrych ar ôl y plant lot."

Er bod pethau wedi gwella mae'n credu bod yna ddisgwyl o hyd i ferched, yn wahanol i ddynion, newid gyrfa er mwyn edrych ar ôl y teulu.

Pynciau Cysylltiedig