Merched Cymru'n colli i'r UDA mewn gêm gyfeillgar

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Uchafbwyntiau: Merched UDA 2-0 Merched Cymru

Roedd dwy gôl hwyr gan Trinity Rodman yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i'r UDA yn erbyn Cymru mewn gêm gyfeillgar yn San Jose.

Gyda Merched Cymru'n chwarae eu gêm gyntaf erioed y tu allan i Ewrop, fe wnaethon nhw'n dda i gadw pencampwyr y byd allan am dros 75 munud.

Ond rhwydodd yr eilydd Rodman o wrthymosodiad, cyn sicrhau'r fuddugoliaeth gydag ergyd wych o ymyl y cwrt cosbi i gornel uchaf y rhwyd.

Hon oedd gêm olaf yr UDA cyn iddyn nhw deithio i Gwpan y Byd, ble mae disgwyl iddyn nhw fod yn ffefrynnau i amddiffyn y tlws a enillon nhw yn 2019 a 2015.

Rheolwr Cymru'n 'hapus'

Roedd Cymru wedi dangos ymdrech amddiffynnol arwrol i gadw'r tîm cartref rhag sgorio cyhyd, yn enwedig yn absenoldeb eu capten Sophie Ingle, eu prif seren Jess Fishlock, a'r cefnwr Rachel Rowe.

Fe wnaeth hynny olygu eu bod yn treulio'r rhan fwyaf o'r gêm ar y droed ôl, er iddyn nhw ddangos ambell i fflach yn ymosodol.

Ond fe ddywedodd y rheolwr Gemma Grainger ei fod hi'n "hapus" gyda'r perfformiad ar y cyfan, a hynny wrth i'r garfan baratoi ar gyfer eu hymgyrch gyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn yr hydref eleni.

Byddai perfformiad cryf yn y gystadleuaeth honno'n rhoi gwell siawns iddyn nhw gyrraedd rowndiau terfynol twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf, a hynny yn Euro 2025.