Cyhuddo pedwar wedi digwyddiadau ger gwesty yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i 241 o geiswyr lloches ymgarefu yng Ngwesty Parc y StradeFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i geiswyr lloches ddechrau cyrraedd Gwesty Parc y Strade yn fuan

Mae pedwar o bobl wedi cael eu cyhuddo yn dilyn nifer o ddigwyddiadau ger Gwesty Parc y Strade yn Llanelli ddydd Sul.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod un dyn, 32, wedi'i gyhuddo o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a bod â chyffuriau yn ei feddiant, un ddynes 52 wedi'i chyhuddo o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a dau arall - un ddynes 36 a dyn 31 - wedi'u cyhuddo o rwystro gwaith yr heddlu.

Mae'r pedwar yn dod o ardal Llanelli ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn y llys yn ddiweddarach.

Does neb wedi cael ei arestio ers ddydd Sul, medd y llu.

Mae swyddogion yn parhau ar y safle er mwyn sicrhau protestio heddychlon.

Dywed llefarydd eu bod yn parhau i drafod gyda'r ddwy ochr ac yn cynnig sicrwydd i'r gymuned.

Ddydd Llun fe wnaeth Prif Weinidog Cymru alw ar y Swyddfa Gartref i fod yn fwy agored gyda'r cyhoedd ynglŷn â'r cynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli.

Dywedodd Mark Drakeford fod hyder pobl ynghylch y mater "wedi ei niweidio'n fawr".

Mae'r cynlluniau wedi rhannu barn yn lleol, gyda rhai trigolion yn anhapus gyda'r cynlluniau i ddod â 241 o geiswyr lloches i'r dref, ac eraill wedi bod yn dangos eu cefnogaeth i'r rheiny fydd yn dod.