Tomos Parry: Fy ngwreiddiau yn Ynys Môn yn ysbrydoliaeth
- Cyhoeddwyd
"Mae'n reit ddwfn ynof fi i goginio efo cynnyrch o'r môr mewn ffordd reit syml dros dân. Os fyddech chi'n gofyn i rywun sy' wedi tyfu fyny yng nghanol Llundain, dwi ddim yn meddwl fyddai nhw efo'r cysylltiad yna i'r môr a'r mynydd. Dwi'n meddwl fod o'n reit gryf ynof fi."
Mae'r cogydd Tomos Parry o Ynys Môn yn diolch i'w wreiddiau a'i fagwraeth ger y môr am ei steil arbennig o goginio.
Wedi ei lwyddiant gyda bwyty seren Michelin Brat a Brat@Crimson Arch yn Llundain, mae Tomos yn agor bwyty newydd o'r enw Mountain yn Soho ym mis Gorffennaf 2023, sy' wedi ei ysbrydoli gan dirwedd a diwylliant Cymru.
Meddai mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw: "Mae o am Gymru i gyd - y de a'r gogledd.
"Mae Brat bob tro wedi bod efo dylanwad mawr o Wlad y Basg, ddim yn y bwyd yn unig ond yn agwedd y bobl, y tirwedd a dwi'n gweld y lle yn reit debyg i Gymru mewn ffordd.
"Mae'r bobl (yng Ngwlad y Basg) efo iaith a diwylliant eu hunain ac mae'r tirwedd yn reit debyg. Efo Mountain mae dylanwad hefyd o Catalan - mae'r iaith Catalan yn reit syml a lot o debygrwydd efo'r Gymraeg.
"Os ti'n sbio ar fwyd Catalan mae 'na ymadrodd Mar y montana ac mae'n meddwl 'môr a mynydd'. Mae'n steil o fwyd o Catalan sy'n reit unigryw.
"Mae'r berthynas rhwng y môr a'r mynyddoedd yn reit unigryw, ti'n gweld o yng ngogledd Cymru. Mae mynyddoedd reit wrth ymyl lan y môr ac mae'r bwyd wedi cael ei ddylanwadu gan hynny."
Magwraeth
Mae'r cogydd yn diolch i'w gefndir am ei ysbrydoli yn ei yrfa: "Pan o'n i'n tyfu fyny yn Ynys Môn wrth ymyl Biwmares roedd pob un swydd haf yn gweithio mewn caffis. Do'n i ddim yn meddwl llawer am y peth ar y pryd ond o'n i bob amser yn enjoio'r coginio - defnyddio mussles o afon Menai a'r oysters.
"Ond 'nes i ddim meddwl dyna beth fyddwn i'n gwneud. Pan 'nes i ddechrau coginio ar ôl prifysgol 'nes i ddechrau cael fy nenu i goginio dros dân ac oedd hynny i 'neud efo lle 'nes i dyfu fyny wrth lan y môr ac yn y mynyddoedd. O'n i bob tro yn neud campfires.
"Ti'n gweld o mewn llefydd fel Patagonia, mae 'na gogyddion enwog yno a fel 'na maen nhw'n coginio. Mae o'n reit dwfn o ran gwreiddiau ynof fi, tyfu fyny efo'r cynnyrch ffantastig yn y mynyddoedd yng Nghymru ac yn y môr rownd Cymru. Mae'n rili inspiring."
Cynnyrch Cymru
A'r bwriad yn y bwyty newydd yw i ddefnyddio dipyn o gynnyrch Cymru, rhywbeth mae Tomos yn angerddol amdano: "Bydd lot o gynnyrch o Gymru - 'da ni'n defnyddio lobsters o Ynys Môn a Phen Llŷn ac bydd rheina'n dod yn uniongyrchol ato ni.
"Yn tyfu fyny yn Ynys Môn mae lobster yn rhan mawr o'r diwylliant a'n rili pwysig i economi Ynys Môn. Ddim i fod yn rhy wleidyddol ond roedd perthynas da efo Ynys Môn gyda Ewrop ond mae Brexit wedi effeithio pethau.
"'Da ni'n cael lot o gynnyrch o Sir Benfro hefyd ac yn cael gwymon o Câr-y-Môr, fferm wymon yn Nhyddewi sy'n anhygoel.
"Dyma'r lle cynta' yng Nghymru sy'n ffermio gwymon ac mae'n rili ecsiting i ddiwylliant Cymru ond hefyd mae gwymon yn llawn nutrients, mae'n gynaliadwy ac yn fwyd ar gyfer y dyfodol. Dwi'n meddwl fod o'n rhan fawr o sut 'da ni'n mynd i fwyta.
"Mae gynno ni un dish sy'n debyg i omelette ond yn defnyddio crang-gorryn (spider crab) o Sir Benfro - mae'r un dish yma fel symbol o beth 'da ni'n 'neud. Mae'r wyau o un lle, mae'r menyn o rywle sy' 20 milltir i ffwrdd o'r lle, Caws Teifi, mae'r crang-gorryn a'r gwymon yn dod gan Câr-y-Môr.
"Yn yr un dish 'ma mae gynno chi dipyn bach o orllewin Cymru sy'n rili cwl. 'Dan ni'n gweithio'n rili galed i 'neud hynny i ddigwydd."
Uchelgais
Ac mae Tomos yn gobeithio fydd ei steil o goginio yn llwyddiant yn Mountain, yn dilyn adolygiadau anhygoel gan feirniaid bwyd ar gyfer Brat: "Dwi'n teimlo yn nerfus ac yn gyffrous - dwi isho iddo fod yn rhywbeth mae Llundain yn falch i gael, bod o'n ychwanegiad da i Soho.
"Dwi'n cweit licio pan dwi'n mynd i drefi mawr yn y byd lle 'da chi'n gwybod bod pethau wedi adio i'r ddinas a dwi'n gobeithio fydd o'n adio i tapestri Soho."
Beth sy'n gyrru Tomos, sy' dal yn ei 30au, i agor bwyty arall?
Meddai: "Dwi yn gyffrous iawn am progressio - mae fel datblygu perthynas efo ffermwyr a pysgotwyr. I wneud i hynny ddigwydd mae'n rhaid i ti agor mwy o fusnesau i helpu nhw ac i helpu'r tîm ond hefyd i ddod â phobl trwyddo a chreu ecosystem.
"I greu hynny mae'n rhaid chi agor mwy o fusnesau ac mae'n rhaid i'r busnesau fod yn rhai cyffrous ac arloesol.
"I fi dwi wrth fy modd yn gweithio rownd pobl ifanc sy' rili efo'r hunger, mae mor ecsiting i weld pobl ifanc sy'n ysbrydoli fi i fynd i'r lefel nesaf - ond efo agwedd dda.
"Mae'r byd bwyd wedi cael enw drwg - cogyddion sy'n gwaeddi ac amgylchedd gwaith non-progressive, dwi'n ecsited i fod yn rhan o'r genhedlaeth nesaf.
"Yn amlwg mae'n rhaid i fi 'neud pres a dwi wrth fy modd yn creu pethau - dwi'n licio'r balans o fod yn greadigol a bod yn fusnes. Dwi'n meddwl fod y ddau beth mor ddiddorol.
"Hefyd dwi jest yn enjoio coginio bwyd ac yn rili lwcus i allu neud rhywbeth dwi'n enjoio mwy na dim byd."
Mae Tomos wedi cael dipyn o gefnogaeth gan Gymry sy'n dod i fwyta yn Brat: "Mae'n lyfli bod pobl yn dod mewn a siarad Cymraeg efo fi - mae tîm fi o bob gwlad dros y byd, pan maen nhw'n clywed pobl yn siarad Cymraeg mae rhai ddim cweit yn gwybod beth ydy o.
"Mae'n dda i fi allu siarad am yr iaith a lle dwi'n dod o - mae'n dod â rhywbeth gwahanol i'r deialog sy'n digwydd yn y gegin. Mae gynno ni wefan yn Gymraeg a Saesneg - mae'r fwydlen yn ddwyieithog ar y wefan, mae 'na esboniad o lle 'da ni'n cael cynnyrch o.
"Dwi wrth fy modd fod 'na elfen Gymraeg."