Peter Ormerod: Diffynnydd yn 'ofnus' pan wthiodd y cyn-athro

  • Cyhoeddwyd
Llun o Peter Ormerod o flaen coedwig.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Peter Ormerod wedi ymddeol o ddysgu mewn ysgolion yn Sir Gâr

Roedd diffynnydd mewn achos dynladdiad yn teimlo'n "ofnus" pan wthiodd dyn a fu farw'n ddiweddarach, mae llys wedi clywed.

Bu farw'r cyn-athro Peter Ormerod, 75, o "anaf nad oedd modd goroesi" ar ôl cael ei wthio ger tafarn yn Sir Gâr.

Mae'r llys eisoes wedi clywed bod Hywel Williams wedi cyfaddef gwthio Mr Ormerod ym Mhorth Tywyn, ond dywedodd ei fod yn ceisio amddiffyn ei hun wrth wneud hynny.

Mae Mr Williams, 40, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad, ac mae'r achos yn parhau.

'Teimlo'n ofnus'

Ar bedwerydd diwrnod yr achos, fe roddodd y diffynnydd, Hywel Williams o Gaerdydd, dystiolaeth yn ei amddiffyniad.

"Roeddwn i'n teimlo'n ofnus a gwthies i fe," meddai, gan honni ei fod yn weithred o amddiffyn ei hun.

Mae Mr Williams, 40, yn gyfarwyddwr teledu i BBC Cymru ac yn gweithio ar opera sebon Pobol y Cwm.

Disgrifiad o’r llun,

Hywel Williams yn Llys y Goron Abertawe

Roedd Mr Williams ym Mhorth Tywyn ar noson 24 Medi yn ymweld â'i fam.

Roedd y ddau ohonynt wedi bod allan am fwyd cyn mynd i dafarn y Portobello Inn, ble dechreuodd y ddau siarad gyda Mr Ormerod.

Nid oedd Mr Williams a Mr Ormerod yn adnabod ei gilydd cyn noson honno. Cafodd y ddau ddyn ddadl yn y dafarn ynghylch gwleidyddiaeth ac annibyniaeth i Gymru.

Clywodd y llys bod Mr Williams wedi gadael y dafarn i geisio osgoi parhau'r sgwrs gyda Mr Ormerod.

Er hynny, aeth Mr Ormerod allan at Mr Williams, oedd ar y pryd yn anfon neges destun i gydweithiwr. Yn ôl Mr Williams roedd yn teimlo dan fygythiad gan Mr Ormerod.

'Meddwl y byddai'n codi'n syth'

Dywedodd Mr Williams iddo gael sgwrs gyda Mr Ormerod y tu allan i'r dafarn. Roedd y ddau ddyn wedi rhegi ar ei gilydd wrth barhau i ddadlau.

Dywedodd Mr Williams, o edrych yn ôl ar y digwyddiad, mai'r pethau gorau y gallai fod wedi'i wneud fyddai cerdded i ffwrdd.

Yn ôl Mr Williams, ei fwriad oedd amddiffyn ei hun pan wthiodd Mr Ormerod, gan honni bod Mr Ormerod wedi camu tuag ato.

Dywedodd: "Roeddwn i'n teimlo'n ofnus a gwthies i fe… Roeddwn i'n meddwl y byddai'n codi'n syth…"

Ffoniodd Mr Williams y gwasanaethau brys o fewn munud i'r digwyddiad, a chyfaddef gwthio Mr Ormerod.

Dywedodd wrth y llys: "Drïes i wneud popeth i helpu."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ger Tafarn y Portobello ym Morth Tywyn oedd lleoliad y digwyddiad

Mae'r llys eisoes wedi clywed bod Mr Williams wedi dweud wrth ei fam tra bod Mr Ormerod ar y llawr: "Beth bynnag Mam. Doedd e methu dod amdana i fel yna."

Mae Mr Williams yn honni nad yw'n cofio dweud y geiriau hynny, ond yn cydnabod ei fod wedi dweud hynny ar ôl gweld fideo o'r digwyddiad.

Disgrifiodd i'r rheithgor ei fod yn teimlo adrenalin ac wedi cynhyrfu.

Dywedodd: "Dydw i erioed wedi bihafio fel yna o'r blaen."

Mae Mr Williams yn gwadu'r cyhuddiad o ddynladdiad. Mae'r achos llys yn parhau.

Pynciau cysylltiedig