Croeso 'arbennig' yn Nyffryn Clwyd i ffoaduriaid o Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Sveta a Lisa
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Lisa (dde) heb ddychwelyd i Wcráin ers dechrau'r rhyfel

Diwedd y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth Lisa a'i mam ffoi i Gymru o ddinas Dnipro yn Wcráin.

Ar y pryd, y gred oedd mai trefniant tymor byr fyddai hyn, ond dros chwe mis yn ddiweddarach mae'r ddwy wedi ymgartrefu ym mhentref Rhewl ger Rhuthun.

Maen nhw ymhlith 7,000 o ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd Cymru ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin.

Mae dros 3,000 o'r rheiny wedi cael llety fel rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin, gyda Llywodraeth Cymru yn parhau i alw ar bobl i gynnig llety.

20 oed oedd Lisa pan ddechreuodd ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Roedd hi'n astudio busnes ym Mhrifysgol Dnipro ar y pryd, yn gweithio fel model ffasiwn ac fel tiwtor mewn ysgol fodelu.

Pan adawodd Lisa a'i mam, Sveta, Wcráin doedd dim brwydro lle'r oedd hi'n byw, ond erbyn hyn mae taflegrau yn cael eu tanio gerllaw.

Mae Sveta wedi mynd yn ôl i Wcráin am ychydig wythnosau, meddai, gan fod gymaint o hiraeth ganddi am ei theulu.

Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn cyfnod prawf llwyddiannus, mae Lisa a'i mam yn gweithio mewn caffi yn Ninbych

Mae'r ddwy bellach wedi dod o hyd i waith mewn caffi yn Ninbych.

Dywedodd Eifion Howatson, perchennog y caffi: "Roedd hi [Lisa] a'i mam wedi dechrau dod i'r caffi, ac ar ôl clywed bod y ddwy yn dod o Wcráin, fe wnaeth mam siarad efo sponsor y ddwy ac aeth pethau yn eu blaenau o fanna.

"Daeth Lisa a Sveta yma ar gyfnod prawf, ac yma maen nhw ers hynny."

'Cwsmeriaid wrth eu boddau'

Yn ôl Mr Howatson, prin iawn oedd Saesneg y ddwy pan ddechreuon nhw weithio yn y caffi.

"Mae hi [Lisa] wedi dod ymlaen leaps and bounds, a Sveta ei mam hefyd," meddai.

"Mae Lisa wedi bod yn 'neud cwrs coleg, ac yn siarad Saesneg yn dda iawn bellach, well na fi weithiau!"

Ychwanegodd: "Mae hi'n dechrau dysgu Cymraeg rŵan hefyd, yn dod allan efo rhai geiriau Cymraeg, ac mae'r cwsmeriaid wrth eu boddau efo'r ffaith ei bod hi'n trio dysgu'r iaith."

Disgrifiad o’r llun,

Lisa (ail o'r chwith), Sveta (ail o'r dde) a'r cwpl sy'n rhoi llety iddyn nhw

Mae'r ddwy wedi cael llety fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin gyda theulu ym mhentref Rhewl, gyda chynnig iddyn nhw aros cyn hired â sydd angen a hynny am ddim.

Yn ôl Lisa mae'r croeso gan bobl Sir Ddinbych wedi bod yn arbennig, ac maen nhw'n hynod o ffodus o fod wedi cael llety gan deulu mor ofalgar.

"Mae Nic a Richard fel ail deulu i mi... fel nain a thaid... dwi mor falch eu bod nhw'n rhan o'm mywyd," meddai.

"Mae pobl Cymru yn wên i gyd. Mae cwsmeriaid a phobl o gwmpas o hyd yn gofyn 'sut wyt ti?'.

"Dwi erioed wedi dod ar draws neb sy'n dweud pethau cas. Mae pawb yma mor garedig, mor neis."

Disgrifiad,

Draw ar Ynys Môn, dyma Nataliia a Sofia o Wcráin yn siarad am ddysgu Cymraeg

Rwsieg ydy mamiaith Lisa, ond ers y rhyfel mae hi, fel nifer o Wcrainiaid yn gwrthod ei siarad gan droi yn bennaf at Saesneg a Wcreineg.

Mae hi hefyd yn dysgu Cymraeg, ac yn gobeithio cael astudio mewn prifysgol yng Nghymru.

"Diolch. Bore da. Croeso." meddai. "Dyna'r oll sydd gen i ar hyn o bryd."

Ar y cownter coffi, mae Lisa yn falch o gael dangos rhestr o gyfieithiadau Cymraeg ac Wcraineg i eiriau dydd-i-ddydd. Taflenni arbennig ydyn nhw sydd wedi eu creu gan y Mentrau Iaith.

Adra 'go iawn' ydy Wcráin wrth gwrs, ond am rŵan mae ei noddfa yn Nyffryn Clwyd.

Pynciau cysylltiedig