Taliadau ar gyfer lletya ffoaduriaid o Wcráin yn codi i £500

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ffoaduriaid ar y ffin â Gwlad PwylFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 6,500 o ffoaduriaid gyda noddwyr yng Nghymru wedi ffoi o Wcráin, meddai gweinidogion

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd taliadau i bobl sy'n lletya ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru yn cynyddu o £350 i £500 y mis o fis Ebrill ymlaen.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, fod y cynnydd yn cydnabod "caredigrwydd anferth" ac effaith yr argyfwng costau byw ar westeion.

Bydd y cynnydd yn y taliadau, sy'n cael ei gwneud gan gynghorau lleol, yn costio £2.5m.

Dywed gweinidogion fod 6,500 o ffoaduriaid gyda noddwyr yng Nghymru wedi ffoi o Wcráin ers dechrau'r rhyfel flwyddyn yn ôl.

Fis diwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r canolfannau croeso sydd wedi bod yn gartref i ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru yn cau.

'Trugaredd'

Bydd cynghorau yn derbyn cyfran o £2m gan y llywodraeth i helpu mwy o ffoaduriaid Wcráin i symud i lety tymor hwy.

Dywedodd Ms Hutt: "Mae pobl o bob cwr o Gymru wedi cynnig helpu, ac wedi dangos trugaredd gwirioneddol ac wedi bod ar gael i helpu teuluoedd y bu rhaid iddynt adael eu cartrefu.

"Rwyf mor falch o'r noddfa rydyn ni'n ei darparu, ac mae llawer o'n gwesteion wedi dweud wrthon ni pa mor ddiolchgar ydyn nhw am y cymorth mae Cymru wedi'i gynnig.

"Nawr, wrth i ryfel Putin barhau, yn anffodus, rhaid inni sicrhau bod ein gwesteion yn gallu dod o hyd i lety tymor hwy.

"Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith o symud ein gwesteion ymlaen o'n llety cychwynnol yn raddol."

Cyhoeddodd y gweinidog fod 'Tocyn Croeso' sy'n rhoi mynediad fisa i drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i Wcreiniaid am chwe mis, hefyd yn cael ei estyn i'r flwyddyn ariannol nesaf.

Pynciau cysylltiedig