Cynnal seremonïau graddio heb farciau terfynol i rai

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr yn graddio yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd yn y brifddinas fore Llun, er bod rhai myfyrwyr heb gael gadarnhad am eu marciau

Fe fydd rhai myfyrwyr yn mynd i seremonïau graddio yr wythnos hon heb gadarnhad am eu marciau terfynol.

Mae boicot marcio ac asesu gan aelodau undeb darlithwyr yr UCU wedi golygu bod darnau o waith heb eu hasesu a rhai graddau heb eu cadarnhau.

Yn ogystal, mae streic wedi ei threfnu i gyd-fynd gyda seremonïau graddio Prifysgol Caerdydd sy'n dechrau ar 17 Gorffennaf.

Dywedodd un myfyriwr y byddai "rhywbeth mawr ar goll ar y diwrnod" wrth iddi baratoi ar gyfer ei seremoni hi ddydd Llun.

Yn ôl llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd mae effaith y boicot wedi ei chrynhoi mewn rhai adrannau academaidd a byddai mwyafrif y myfyrwyr yn graddio gyda'r marciau'n gyflawn.

'Lot wedi penderfynu gohirio'u graddio'

Mae Martha Owen ac Ellie Fitzgerald wedi gorffen cyrsiau pedair blynedd mewn Seicoleg ond yn aros am rai o'u marciau.

Serch hynny mae'r ddwy wedi penderfynu mynd i'r seremoni raddio, yn hytrach nag aros tan flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Martha Owen ac Ellie Fitzgerald wedi gorffen cyrsiau pedair blynedd mewn Seicoleg

"Fydd o yn neis gweld pawb a ballu ond mae 'na lot o fyfyrwyr wedi penderfynu gohirio graddio nhw tan flwyddyn nesa'," meddai Martha.

"Ond 'dan ni 'di dewis peidio achos mae bod efo'ch ffrindiau yn rhan mawr o'r diwrnod.

"Dwi 'di bod yn edrych ymlaen at y diwrnod graddio ers fy mlwyddyn gyntaf, ac mae peidio gwybod be 'dach chi 'di graddio efo yn... bydd 'na rhywbeth mawr ar goll ar y diwrnod."

Mae Ellie hefyd yn edrych ymlaen at ddathlu gyda ffrindiau, ond yn meddwl bod y sefyllfa "mor annheg".

"'Dan ni 'di gweithio mor galed ers pedair blynedd, a 'dan ni just yn cael dim byd allan ohono fo," meddai.

Anghydfod dros gyflogau ac amodau

Mae nifer o farciau terfynol y ddwy ar goll sy'n golygu mai Unclassified sydd ar eu canlyniadau ar hyn o bryd.

Y wybodaeth ddiweddaraf maen nhw wedi derbyn yw na fyddan nhw'n cael eu marciau tan o leiaf fis Medi, ac o bosib mor hwyr â Rhagfyr.

Dywedodd llefarydd ar ran cangen UCU Prifysgol Caerdydd eu bod yn "teimlo'n ofnadwy" dros fyfyrwyr sydd wedi eu heffeithio gan yr anghydfod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai myfyrwyr wedi cefnogi staff sydd ar streic

Mae aelodau o undeb yr UCU mewn 145 o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithredu yn sgil anghydfod dros gyflogau ac amodau.

"Rydyn ni wedi bod yn brwydro ers pum mlynedd bellach, ac fe wnaethon ni edrych ar bob opsiwn arall cyn defnyddio'r 'opsiwn niwclear' o foicot asesu," dywedodd llefarydd.

Ychwanegon nhw ei fod yn "dorcalonnus" bod y cyflogwyr ddim yn fodlon plygu.

Ar ben y boicot, mae aelodau'r UCU yng Nghaerdydd yn streicio i gyd-fynd â seremonïau graddio.

'Da ni'n talu gymaint'

Mae Martha Owen wedi dechrau edrych am swyddi ac mae hi'n gorfod rhoi marc cwestiwn ar y ffurflen nesaf at ganlyniad ei gradd.

"Dwi'n meddwl fod o reit ofnadwy," meddai

Disgrifiad o’r llun,

Roedd llawer o gefnogwyr balch yno ar ddiwrnod mawr y myfyrwyr yng Nghaerdydd ddydd Llun

"'Dan ni'n talu gymaint i fod yn y brifysgol ac ma' cael y gradd yna i roi ar y ffurflen gais yn rhywbeth 'dan ni'n talu am a 'dan ni ddim yn cael gwneud hynna."

Mynd ymlaen i gwrs ymarfer dysgu mae Ellie ac mae hi'n cysylltu'n gyson gyda'r brifysgol newydd.

"'Dan ni'n cael graddio, sy'n neis, ond 'dan ni ddim yn gwybod be' 'dan ni'n cael.

"Ella bod ni 'di failio modiwl a wedyn gorfod mynd nôl i aileistedd fo mewn ella blwyddyn pan 'dan ni mewn swyddi a 'di gorffen cyrsiau post-grad erbyn hynna.

"Mae 'na just gymaint o ansicrwydd o be' 'di dyfodol ni."

Opsiwn i oedi

Dywedodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn gobeithio y bydd holl fyfyrwyr y flwyddyn olaf "yn teimlo y gallent ymuno â ni i nodi penllanw eu taith israddedig" yn y seremonïau, er bod opsiwn i oedi tan flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn "cysylltu â chyflogwyr a phrifysgolion eraill i sicrhau, cyn belled â phosib, bod ein myfyrwyr yn gallu dechrau eu gyrfaoedd neu ymgymryd ag astudiaeth bellach".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 80% o aelodau undeb UCU ym Mhrifysgol Caerdydd o blaid mynd ar streic

Mae myfyrwyr mewn rhai prifysgolion eraill yng Nghymru wedi cael eu taro gan y boicot.

Mae seremonïau graddio Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Aberystwyth hefyd yn digwydd yr wythnos hon.

Dywedodd Prifysgol De Cymru bod pob myfyriwr blwyddyn olaf wedi derbyn eu graddau ac yn gallu graddio, ac yn ôl Prifysgol Aberystwyth bydd 99.8% o fyfyrwyr yn graddio gyda'u marciau terfynol yn gyflawn.

Yn ôl Prifysgol Abertawe, eu hamcangyfrif diweddaraf oedd bod 10 myfyriwr wedi eu heffeithio.

Dywedodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bod pawb yn gallu graddio gyda'u marciau terfynol.