Gohirio graddio a graddau oherwydd boicot marcio prifysgolion

  • Cyhoeddwyd
GraddioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn "cydnabod fod y myfyrwyr sydd wedi'u heffeithio yn siomedig ac yn poeni"

Ni fydd rhai myfyrwyr yn gallu graddio ar amser, a rhai ddim yn derbyn eu canlyniadau terfynol pan yn graddio, oherwydd gweithredu diwydiannol.

Wrth i ddarlithwyr foicotio marcio ac asesu, cadarnhaodd Prifysgol Caerdydd bydd rhai myfyrwyr yn derbyn gradd annosbarthedig "am y tro".

Credir mai'r rheiny fydd yn cael eu heffeithio'n fwyaf yw myfyrwyr sy'n astudio'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn disgwyl i 70 o fyfyrwyr weld eu graddio yn cael ei ohirio.

Mae undebau prifysgolion wedi bod yn streicio yn sgil cytundebau dros dro, tâl a phwysau gwaith ers 2019.

Dydd Mercher fe lansiodd llywydd newydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddeiseb yn galw am ddod â'r anghydfod i ben.

Mewn datganiad gyda'i chyd-swyddogion sabothol, dywedodd Angie Flores Acuña fod y tarfu yn cynrychioli "methiant arall i fyfyrwyr".

Dywedon nhw fod cefnogaeth gan fyfyrwyr i'r rhai sy'n streicio wedi bod yn "uchel a chlir", gan ychwanegu: "Mae gan Brifysgol Caerdydd y pŵer i alw am ddiwedd ar yr anghydfod hwn trwy gefnogi'n gyhoeddus ailagor y trafodaethau.

"Drwy sefyll yn ôl a gwneud dim byd, mae Prifysgol Caerdydd yn methu myfyrwyr sy'n gorffen gyda gradd dros dro [neu] heb raddau, er gwaethaf gweithio mor galed drwy gydol y cyfnod digynsail hwn."

'Effaith sylweddol ar gynlluniau myfyrwyr'

Dywedodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn "cydnabod fod y myfyrwyr sydd wedi'u heffeithio yn siomedig ac yn poeni".

Bydd mwyafrif y myfyrwyr blwyddyn olaf yn derbyn gradd wedi ei farcio, ond bydd eraill ddim.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 80% o aelodau undeb UCU ym Mhrifysgol Caerdydd o blaid mynd ar streic

Dywedodd y brifysgol mewn datganiad: "Rydym yn ymwybodol fod y sefyllfa yn cael effaith sylweddol ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

"Rydym hefyd wedi'n siomi i weld effaith y gweithredu diwydiannol hyn ar adeg pan ddylai ein myfyrwyr fod yn dathlu diweddglo llwyddiannus i'w profiad prifysgol ac edrych ymlaen at eu camau nesaf."

Ychwanegodd y byddai seremonïau graddio yn mynd yn eu blaen yn ddiweddarach yn y mis, ond y gall myfyrwyr eu gohirio tan 2024 os ydyn nhw'n dymuno.

"Fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i gael gwaith ein myfyrwyr wedi ei farcio cyn gynted â phosib, tra'n cynnal safonau academaidd, a byddwn yn darparu'r marciau llawn cyn gynted â phosib.

"Rydym yn cysylltu â chyflogwyr a phrifysgolion eraill i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod ein myfyrwyr yn gallu dechrau eu gyrfaoedd neu ymgymryd ag astudiaethau pellach."

Dywedon nhw fod y Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y gall myfyrwyr rhyngwladol wneud cais i ymestyn eu fisa myfyriwr tra'u bod yn aros am eu canlyniadau.

Mae llinell gymorth hefyd yn cael ei ddarparu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai myfyrwyr wedi cefnogi staff sydd ar streic

Yn y cyfamser, dywedodd Prifysgol Abertawe na fyddai "grŵp bach" - llai na 70 o fyfyrwyr allan o gyfanswm o 2,500 - yn gallu graddio ar amser o ganlyniad i'r oedi wrth farcio ac asesu.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn gweithio'n ddiwyd i sicrhau bod canlyniadau dyfarniadau'n cael eu cadarnhau'n brydlon i bob myfyriwr."

Beth am brifysgolion eraill?

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth y bydd 99.8% yn derbyn gradd wedi'i gadarnhau erbyn y seremonïau graddio ddiwedd y mis.

Ychwanegodd llefarydd: "Bydd gweddill y myfyrwyr yn gymwys i raddio gyda gradd er anrhydedd, ond efallai y bydd dosbarth eu gradd yn cael ei adolygu'n ddiweddarach."

Ond dywedodd prifysgolion eraill na fydd myfyrwyr yn cael eu heffeithio.

Dywedodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bod yr "holl fyfyrwyr wedi derbyn eu canlyniadau terfynol ac mae'r holl ddigwyddiadau graddio yn mynd rhagddynt fel y cynlluniwyd," gyda Phrifysgol Met Caerdydd hefyd yn datgan fod pob myfyriwr sy'n gymwys i raddio "i wneud hynny gyda'u dosbarth gradd llawn".

Ychwanegon nhw: "Nid oes unrhyw fyfyriwr wedi cael eu graddio wedi'i ohirio o ganlyniad i'r boicot marcio ac asesu."

Dywedodd Prifysgol Bangor: "Gan weithio'n agos gydag Undeb y Myfyrwyr, mae'r brifysgol wedi sicrhau profiad graddio di-dor i'n myfyrwyr, gan alluogi iddynt gwblhau eu graddau yn amserol gyda dosbarthiadau gradd cywir, er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil y boicot marcio ledled y DU."

Mae'r BBC wedi gofyn am sylw gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol De Cymru.