Daniel Morgan: Heddlu'r Met yn ymddiheuro i deulu'r ditectif preifat
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Met wedi ymddiheuro i deulu'r ditectif preifat Daniel Morgan, a gafodd ei lofruddio yn Llundain yn 1987.
Fe gafodd Mr Morgan, o Lanfrechfa ger Cwmbrân, ei ladd gyda bwyell mewn maes parcio tafarn yn ne-ddwyrain y ddinas.
Mae'r llu nawr wedi dod i gytundeb gyda'i deulu a chydnabod eu bod yn gyfrifol yn gyfreithiol am fethiannau yn ei hymchwiliad i'w farwolaeth.
Dywedodd Comisiynydd y llu, Syr Mark Rowley eu bod wedi siomi teulu Mr Morgan "droeon ac yn anfaddeuol".
Ychwanegodd bod "llygredd, anallu proffesiynol ac amddiffynoldeb" wedi amharu ar yr achos.
Roedd y teulu, meddai, wedi cael "addewidion a gobaith gwag" yn sgil methiant pum ymchwiliad heddlu wrth i'r llu "flaenoriaethu ei enw da ar draul tryloywder ac effeithioldeb".
Er gwaethaf yr holl ymholiadau a chwest - sy'n debygol o fod wedi costio mwy na £40m - ni ddaethpwyd â neb o flaen eu gwell dros farwolaeth y tad i ddau.
Yn 2021 daeth panel annibynnol i'r casgliad bod y Met wedi cuddio a gwadu eu methiannau dro ar ôl tro er mwyn gwarchod ei delwedd gyhoeddus, gan ddisgrifio hynny fel "math o lygredd sefydliadol".
Ym marn y panel, dan arweiniad y Farnwes Nuala O'Loan, roedd hynny'n golygu bod hi'n annhebygol y byddai unrhyw un yn cael ei erlyn yn llwyddiannus.
Dywedodd datganiad y comisiynydd ynghylch y setliad gyda'r teulu: "Ni all unrhyw eiriau wneud yn iawn am y boen a'r dioddefaint sydd wedi bod yn rhan o fywydau'r teulu am fwy na thri degawd, wrth iddyn nhw frwydro am gyfiawnder."
Fe ddisgrifiodd y frwydr honno fel un "na ddylai unrhyw deulu orfod ddioddef".
Ychwanegodd: "Mae eu hymgyrchu di-droi'n ôl wedi datgelu methiannau lluosog a systemig o fewn y llu yma.
"Maen nhw wedi egluro sut yr erydwyd eu ffydd mewn plismona. Dyw fy ymroddiad personol i fynd i'r afael â llygredd o fewn y llu yma pan gymrais yr awenau fel comisiynydd heb fod yn gryfach."
'Taith hir a blinderus i'r teulu'
Yn eu datganiad hwythau, dywedodd y teulu bod y setliad yn dilyn "proses cymodi ffurfiol" yn sgil y posibilrwydd o ddwyn achos sifil yn erbyn Comisiynydd Heddlu'r Met yn sgil methiannau'r llu.
Dywedodd y datganiad eu bod "wedi gallu dod i setliad oedd yn foddhaol i'r ddwy ochr... gan gynnwys cydnabyddiaeth o gyfrifoldeb ar ran y comisiynydd mewn cysylltiad ag ymddygiad ei swyddogion mewn ymateb i'r llofruddiaeth".
Ar gais y teulu, ni fydd termau'r cytundeb yn cael eu datgelu.
Dywedodd cyfreithiwr ar eu rhan, Raju Bhatt wrth raglen Today BBC Radio 4: "Mae wedi bod yn daith hir a blinderus i'r teulu...
"Syr Mark Rowley sydd â'r anrhydedd amheus o fod y nawfed comisiynydd y bu'n rhaid iddyn nhw eu goddef dros y tri degawd a hanner ers llofruddiaeth Daniel Morgan.
"Daeth pob un o'r rhagflaenwyr hynny i gynrychioli diffyg dewrder a gonestrwydd cyson a mynych yn rhengoedd uchaf y Met."
Ychwanegodd y dylai'r Met a'r cyhoedd fod yn "ddiolchgar" i'r teulu "am ddatgelu'r drwg wrth galon y corff yma".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd1 Awst 2019