Daniel Morgan: Ymddiheuriad Heddlu'r Met am beidio datgelu tystiolaeth

  • Cyhoeddwyd
Daniel Morgan a thafarn Golden Lion
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr Morgan ei lofruddio gyda bwyell mewn maes parcio tafarn yn ne-ddwyrain Llundain yn 1987

Mae Heddlu'r Met wedi ymddiheuro am beidio datgelu dogfennau mewn cysylltiad â llofruddiaeth detectif preifat dros 35 mlynedd yn ôl.

Dywedodd y llu fod y dogfennau wedi cael eu darganfod mewn cwpwrdd yn eu pencadlys fis Ionawr eleni.

Cafodd Mr Morgan, o Lanfrechfa ger Cwmbrân, ei lofruddio gyda bwyell mewn maes parcio tafarn yn ne-ddwyrain Llundain yn 1987.

Does neb wedi eu cyhuddo o'i lofruddio.

Cafodd Heddlu'r Met eu cyhuddo o "lygredd sefydliadol" gan banel annibynnol yn 2021 am guddio a gwadu eu methiannau yn yr ymchwiliad.

Mae'r methiant diweddaraf yn "annerbyniol", dywedodd y llu, gan ychwanegu eu bod yn "edifarhau".

Dywedodd y Comisiynydd Cynorthwyol, Barbra Gray eu bod yn "gweithio i ddeall beth sydd wedi digwydd ac unrhyw effaith".

"Ry'n ni'n ymddiheuro i deulu Daniel Morgan ac i'r panel."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Does neb wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth Daniel Morgan, a oedd yn dad i ddau

Cafodd 37 o ddogfennau, ddylai fod wedi eu datgelu i banel dan arweiniad y Farwnes O'Loan, eu darganfod mewn cwpwrdd oedd ar glo yn New Scotland Yard fis Ionawr.

Fe ddechreuodd asesiad ym mis Chwefror, yn ôl y Met.

Fe wnaeth y llu gyfaddef y dylai 23 dogfen ychwanegol fod wedi cael eu rhannu â'r corff sy'n goruchwylio'r heddlu, ddaeth i gasgliad mewn adroddiad ym Mawrth 2022 fod "methiannau sylfaenol" yn y ffordd y maen nhw'n mynd i'r afael â llygredd sefydliadol.

'Yr un hen stori'

Mae teulu Mr Morgan yn credu y gallai llygredd sefydliadol o fewn y llu, ac arafwch i fynd i'r afael â hynny, esbonio'r methiannau wrth ymchwilio.

Mae'r llu wedi ymddiheuro eisoes i deulu Mr Morgan.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alastair Morgan wedi treulio 36 o flynyddoedd yn ymgyrchu dros gyfiawnder i'w frawd

Er nad yw brawd Mr Morgan, Alastair, wedi'i synnu gan y datblygiad diweddaraf, dywedodd nad malais sy'n sail iddo, ond "anallu" a "gwallau".

Wrth siarad â gorsaf BBC Radio London, dywedodd: "Dwi'n anobeithio gyda'r heddlu ond, eto, dyw hyn yn ddim byd newydd i mi.

"Dyw hi ddim fel bod hyn wedi fy ysgwyd i'm seiliau na dim byd felly - mae hi jyst yr un hen stori."

Ers marwolaeth Mr Morgan, mae pum ymchwiliad wedi eu cynnal a chwest sy'n debygol o fod wedi costio mwy na £40m.

Pynciau cysylltiedig