Gwahodd Gŵyl Cerdd Dant i 'ddathlu' Aled Lloyd Davies

  • Cyhoeddwyd
Dr Aled Lloyd DaviesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r cerddor, beirniad ac arbenigwr cerdd dant Dr Aled Lloyd Davies yn 2021 yn 90 oed

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus i drafod gwahodd Gŵyl Cerdd Dant Cymru i'r Wyddgrug er cof am gerddor ac arbenigwr ar y maes.

Y gobaith yw cynnal yr ŵyl yn y dref yn 2024 er cof am y diweddar Dr Aled Lloyd Davies - beirniad ac arbenigwr cerdd dant fu farw yn 2021 yn 90 oed.

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Hywel Wyn Edwards, un sydd wedi bod yn trefnu'r cyfarfod, y byddai gwahodd yr ŵyl i'r Wyddgrug yn fodd o "ddathlu cyfraniad unigryw Aled, nid yn unig i Gymru ond i'r ardal hon ac i'r holl bethau oedd o'n ymwneud â nhw".

Y tro diwethaf i'r ŵyl gael ei chynnal yn y dref oedd yn 1998, ac Aled Lloyd Davies fu'n cadeirio'r pwyllgor gwaith adeg hynny.

'Aled yn ganol yr holl beth'

Dywedodd Mr Edwards fod Aled Lloyd Davies wedi cael effaith fawr ar gorau cyfagos ac ysgolion lleol fel Ysgol Uwchradd Maes Garmon.

Dechreuodd weithio yna yn 1965, gan ymddeol 20 mlynedd yn ddiweddarach yn brifathro.

"Roedden ni'n dysgu yn Ysgol Glan yr Afon, ysgol gynradd Gymraeg yn y dre', ac mi roedd ganddon ni bartïon cerdd dant ac Aled oedd wrth gwrs yn sicrhau y gosodiadau i ni," meddai.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hywel Wyn Edwards fod Dr Aled Lloyd Davies wedi cael effaith fawr ar y gymuned leol

"Ac wrth gwrs o'n cwmpas ni mae yna nifer o gorau wedi bod yn ymwneud â cherdd dant fel Parti'r Ffin yn Wrecsam dan arweiniad Mair Carrington Roberts am flynyddoedd lawer, a chyn hynny Parti'r Ffynnon yn ardal Treffynnon o dan arweiniad Morfudd Maesaleg.

"Ac mi roedd 'na hefyd yn Yr Wyddgrug Parti'r Dreflan oedd yn gwneud mwy o ochr alawon gwerin...

"Ond roedd Aled yn sicr yn ganol yr holl beth i ddweud y gwir."

Cyfarfod cyhoeddus

Bu Aled Lloyd Davies hefyd yn gadeirydd ar ddwy Eisteddfod Genedlaethol gafodd eu cynnal yn Yr Wyddgrug yn 1991 a 2007.

Yn 2004 cafodd ei urddo'n Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru.

Yn enedigol o'r Brithdir, bu'n arweinydd un o bartïon cerdd dant enwocaf Cymru, Meibion Menlli, a sefydlwyd pan oedd yn athro yn Nyffryn Clwyd.

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei chynnal am 19:00 ddydd Mercher 19 Gorffennaf yn festri Capel Bethesda gyda threfnydd yr ŵyl, John Eifion, yn llywio'r noson.

Ychwanegodd Mr Edwards: "Gan obeithio erbyn diwedd y noson y bydd y gwahoddiad yn unfrydol, ac y byddwn ni'n mynd ati i ffurfio pwyllgor gwaith a pwyllgorau ar gyfer meddwl am destunau ar gyfer yr ŵyl gobeithio daw i'r Wyddgrug ym mis Tachwedd y flwyddyn nesa'."