Eisteddfod 2023: Coroni'r Bardd fydd prif seremoni ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Goron yn adlewyrchu ffiniau traddodiadol amrywiol cefn gwlad bro'r Brifwyl

Coroni'r prifardd buddugol fydd prif seremoni Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ddydd Llun a hynny am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd.

'Rhyddid' oedd y testun gosod a'r beirniaid eleni yw Jason Walford Davies, Marged Haycock ac Elinor Wyn Reynolds.

Fe enillodd Jason Walford Davies y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 ar y testun Egni am gerdd yn coffáu Streic y Glowyr 1984-5 - a fe fydd yn traddodi'r feirniadaeth brynhawn Llun.

Y cynhyrchydd gemwaith Elin Mair Roberts o'r Ffôr, ger Pwllheli, sydd wedi creu'r goron eleni.

Roedd y Lôn Goed - y llwybr hanesyddol pwysig ger Chwilog sy'n ffinio Llŷn ac Eifionydd, ac a gafodd ei hanfarwoli yn y gerdd Eifionydd gan R. Williams Parry - yn ysbrydoliaeth iddi hi ac i Stephen Faherty a greodd y gadair.

Disgrifiad o’r llun,

Elin Mair Roberts gyda'r Goron

Fe ddefnyddiodd Elin Mair Roberts ffiniau'r Lôn Goed fel sail i'r goron o arian.

Mae penwisg y goron o ddeunydd gwyrdd yn adlewyrchu "cyfoeth tir yr ardal" ac yn rhan ohoni hefyd mae cennin pedr o aur melyn 18ct.

Mae'r dyluniad hefyd yn adlewyrchu'r "ffiniau rhwng ffermydd a thiroedd, yn ogystal â'r gwrychoedd a'r waliau cerrig a welir yn draddodiadol yn ardaloedd yr Eisteddfod", medd Ms Roberts.

Mae'r Goron yn cael ei noddi gan Gangen Sir Gaernarfon Undeb Amaethwyr Cymru, a theulu Bryn Bodfel, Rhydyclafdy sy'n rhoi'r wobr ariannol o £750, er cof am Griffith Wynne.

Glesni Hendre Cennin fydd yn canu cân y coroni, sef un o ferched teulu cerddorol Hendre Cennin yng Ngarndolbenmaen.

Disgrifiad,

Esyllt Maelor: 'Does gen i ddim geiriau'

Os bydd teilyngdod bydd y bardd buddugol yn cael ei gyfarch gan Y Prifardd Esyllt Maelor - enillydd y goron yn Eisteddfod Ceredigion 2022.

Fel ag sy'n draddodiadol ar ddechrau seremoni y coroni fe fydd cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd - Cernyw, Yr Alban, Iwerddon ac Ynys Manaw - a gorsedd y Wladfa yn cael eu cyflwyno i'r Archdderwydd a'u croesawu i'r Eisteddfod.

Anni Llŷn fydd yn cyflwyno'r Corn Hirlas i'r Archdderwydd sef symbol o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd. Bydd hi'n cael eu hebrwng gan y macwyaid Ben Isaac Hughes a Mabon Wyn Jones.

Bydd y flodeuged a chynnyrch y meysydd - symbol o ddymuniad ieuenctid Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod - yn cael eu cyflwyno gan Nansi Glyn Williams a'u llawforynion Cati Rees Roberts a Llio Gethin.