Sesiwn Fawr Dolgellau: Atgofion Ywain Myfyr
- Cyhoeddwyd
"Cerddoriaeth yn byrlymu ar y stryd ac ymhob twll a chornal."
Dyna yw Sesiwn Fawr Dolgellau i Ywain Myfyr, un o sefydlwyr yr ŵyl ac un o'r rhai fydd yn cael ei urddo â'r wisg werdd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd am ei gyfraniad i Ddolgellau a cherddoriaeth Gymraeg.
 strydoedd Dolgellau'n croesawu Sesiwn arall rhwng 20-23 Gorffennaf 2023, Ywain Myfyr fu'n hel ambell atgof gyda Cymru Fyw.
Perfformio gyda Gwerinos
Yn ogystal â bod yn un o drefnwyr yr ŵyl ers y Sesiwn Fawr cyntaf yn 1992, mae Ywain Myfyr hefyd yn gerddor ac mae wedi perfformio gyda'r band roc-gwerin, Gwerinos, fel rhan o arlwy'r ŵyl dros ugain o weithiau.
Meddai: "Mae'n debyg o'n i'n tyfu fyny yn Nolgellau a wastad wedi meddwl bod y sgwâr yn rwla arbennig.
"Wrth gwrs pam nath Sesiwn Fawr gychwyn ddaru Gwerinos gael cyfle i chwarae yn y Sesiwn Fawr gynta, roedd hynny yn uchelgais personol.
"Mi ddaru ni chwarae yn bob un a oedd ar y sgwâr tan 2002. Oedd hynny yn brofiad bendigedig."
Pob Sesiwn fel aduniad teuluol
Band arall lleol sydd wedi perfformio droeon yn Sesiwn Fawr Dolgellau yw Sŵnami ac mae gitarydd y band, Ifan Ywain, yn fab i Ywain Myfyr.
Profiad arbennig iddo oedd pan wnaeth Sŵnami a Gwerinos berfformio yn yr ŵyl rai blynyddoedd yn ôl.
"Maen nhw wedi cymryd ein lle ni rŵan dydyn! Ac wedi hen basio fi!" chwarddai Ywain Myfyr.
"A dweud y gwir, rhyw bedair blynedd yn ôl ddaru ni chwara' ar yr un noson ac oedd hwnnw yn sbesial, oedd o'n sbesial i fi 'de ond dwi'm yn siŵr am Ifan!
"Llynedd hefyd, roedd y mab arall, Gruff, yn cymryd rhan mewn amball i sesiwn lenyddol. Cyn bellad a mae'r teulu yn y cwestiwn, mae o fel rhyw fath o aduniad blynyddol!"
Tynnu'r plwg ar Alan Stivell
Mae gan bob trefnydd gŵyl atgof o dro trwstan, a thro trwstan oedd "yn teimlo yn eithaf dychrynllyd ar y pryd" a gafodd Ywain Myfyr wrth iddo ddisgwyl ei arwr o Lydaw, Alan Stivell a'i fand i'r llwyfan yn 2003.
Eglura: "Fel un ddaru dyfu i fyny yn y 70au mi ddaru Alan Stivell ddod o Lydaw ar y pryd a jest chwyldroi petha' yng Nghymru. Oedd o'n chwarae roc Celtaidd ac yn arwr i'r rhan fwya' o nghenhedlaeth i yng Nghymru, o'r syniad yna ddoth bandiau fel Ac Eraill a Edward H."
"Nôl yn 2005 ddaru ni lwyddo i gael Alan Stivell i gytuno i ddod i Sesiwn Fawr. Oedd yna un ar y pwyllgor oedd yn siarad Llydwaeg, ddaru hi â'i gŵr sy'n Lydawr fynd i faes awyr Manceinion i nôl Alan Stivell a mi ddaru nhw gyrraedd, ond mi ddaru nhw ffonio wedyn a dweud, 'Wel mae'r band wedi cyrraedd ond dydi eu gêr nhw ddim.'
"Adeg hynny oeddan ni ar Y Marian ac o'n i'n rheoli'r llwyfan ac yn cydweithio efo Steve Rooster Davies oedd yn gweithio i'r Stereophonics. Dyma Steve yn deud, 'Wel 'dan ni mewn gŵyl, os na fedrwn ni gael y petha' maen nhw isio fan hyn, allwn ni ddim cael nhw yn nunlla.'
"Felly ddaru ni ofyn am restr a mi ddaru ni gael bron iawn bob dim ac oedd bob dim yn barod, dyma'r band yn cyrraedd a dyma Rooster pan welodd o nhw yn deud, 'They don't want to play'.
"Welish i mo Stivell, roedd o dal yn y gwesty ond fel oeddan ni'n datrys un problem oeddan nhw yn ffeindio problem arall ac un arall...
"Adeg hynny oedd y Sesiwn yn mynd yn fyw ar y teledu a'r bwriad oedd Stivell am 8 ac S4C yn dechrau darlledu o'r Sesiwn Fawr.
"Oeddan nhw no way yn mynd i fod yn barod felly oedd rhaid i fi 'neud penderfyniad a ddaru ni dynnu'r plwg arnyn nhw a rhoi band arall ymlaen.
"A dwi dal ddim yn siŵr iawn be' ddigwyddodd i Stivell, weles i ddim mohono fo yn anffodus.
"Oedd o wedi bodio nôl i Manceinion efo'i delyn ar ei gefn? Dwi'm yn siŵr! Prun bynnag, weles i mo'n arwr a dydi o ddim cweit gymaint o arwr erbyn hyn!"
Hwb i dref Dolgellau
Gŵyl am ddim ar y strydoedd ac yn nhafarndai'r dref oedd Sesiwn Fawr Dolgellau yn y blynyddoedd cynnar, cyn i'r penwythnos dyfu i ŵyl â thocynnau a symud i faes parcio Y Marian.
Erbyn hyn, mae dal angen prynu tocynnau i'r prif gigs ond mae'r ŵyl wedi dychwelyd i leoliadau ar draws y dref; o'r sgwâr i'r tafarndai, o'r clwb rygbi i'r eglwys.
Eleni, mae artistiaid yr ŵyl yn cynnwys Eadyth, Bwncath a Dafydd Iwan. Yn ôl Ywain Myfyr, mae'r ŵyl erbyn hyn yn agosach nac erioed i'r weledigaeth wreiddiol.
"Dwi'n meddwl erbyn rŵan, mi ydan ni yn fwy triw i'r weledigaeth oedd gan y criw yn '92 sef cerddoriaeth yn byrlymu ar y stryd ac ymhob twll a chornal.
"Oedd nifer ohonan ni wedi bod i ŵyliau yn Iwerddon lle mae'r gerddoriaeth mewn caffis, tafarndai, ymhobman. Wedyn oeddan ni isio trio neud wbath tebyg yng Nghymru."
Dros y blynyddoedd mae Sesiwn Fawr Dolgellau wedi denu artistiaid Cymreig a rhyngwladol fel Super Furry Animals, Bob Geldof, Cerys Mathews a Geraint Jarman.
Ond ynghyd â chynnig rhaglen gyffrous, rhan fawr o ethos yr ŵyl yw rhoi hwb economaidd i Ddolgellau; gan ddod â phobl i'r siopau, y llefydd bwyta a'r tafarndai: "Mae de Gwynedd neu Feirionnydd wedi diodda yn economaidd ers blynyddoedd i gymharu efo gogledd y sir, ac yn sicr mae'r Sesiwn Fawr yn rhoi hwb i Ddolgellau beth bynnag. Does yna ddim dwywaith am hynny."
Derbyn i'r Orsedd
Pan ddaw penwythnos Sesiwn Fawr eleni i ben, bydd Ywain Myfyr yn cael ei dderbyn i Orsedd Cymru ym Moduan cyn iddo yntau a'r pwyllgor allu bwrw iddi gyda threfniadau'r ŵyl ar gyfer 2024.
Meddai am yr anrhydedd: "Mae o'n fraint a dwi'n gwerthfawrogi yn fawr y bobl sydd wedi'n enwebu i.
"Mae trefnu Sesiwn Fawr yn hwyl mewn gwirionadd, ydy mae o'n gur yn pen weithia ond mae o'n hwyl a faswn i ddim yn ei 'neud o oni bai am hynny. Mae cael dy werthfawrogi am fwynhau dy hun reit neis dydi."
Hefyd o ddiddordeb: