Carcharu pedwar am gynllwyn cyffuriau yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
CanabisFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys

Yn Llys y Goron Abertawe, mae pedwar o ddynion, gan gynnwys tad a mab o'r un teulu, wedi cael eu carcharu am gyfanswm o dros 20 mlynedd am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau o fferm yn Sir Gaerfyrddin.

Clywodd y llys bod gwerth tua £70,000 o gocên a chanabis wedi ei ddarganfod ar fferm wledig yn ardal Capel Dewi tu allan i Gaerfyrddin.

Fe gafwyd Stephen Leyson, 55 oed, o Fferm Pibwr, Capel Dewi yn euog o fod â gwn yn ei feddiant, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth B a'i ddedfrydu i 11 mlynedd o garchar.

Mi fydd yn treulio hanner y ddedfryd dan glo.

Clywodd y llys ei fod wedi cyfarwyddo'r cynllwyn i gyflenwi cyffuriau gyda'i wraig Lynne o fferm Pibwr.

Cafwyd ei fab Samson, 24 oed, o Fferm Pibwr, yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chyffuriau dosbarth B a'i ddedfrydu i chwe blynedd o garchar.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Samson Leyson wedi ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar a'i dad Stephen Leyson i 11 mlynedd

Dywedodd bargyfreithiwr Samson Leyson, Kevin Seal, bod ei yrfa addawol fel bocsiwr wedi dod i ben yn sgil y dyfarniad.

Fe gyhoeddwyd gwarant gan y Barnwr Catherine Richards, i arestio ei fam, Lynne Leyson, ar ôl iddi fethu ymddangos o flaen y llys i gael ei dedfrydu. Mi fydd hi'n cael ei dedfrydu ar 25 Awst.

Cafwyd Andrew Jenkins, 51 oed, o North Hill Road, Mount Pleasant, Abertawe, ei ddyfarnu'u euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth B a'i ddedfrydu i naw mis o garchar.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ritchie Coleman yn treulio hanner ei ddedfryd o dan glo

Carcharwyd Ritchie Coleman am ddwy flynedd a phedwar mis am gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B. Mi fydd yn treulio hanner y cyfnod dan glo.

Fe arestiwyd y criw yn dilyn cyrch ar Fferm Pibwr ym mis Hydref 2021 pan ddaeth swyddogion â gwarant o hyd i 592 gram o gocên, gwerth rhwng £47,760 a £60,200.

Yn ogystal, daethant o hyd i 1.4kg o ganabis gwerth £15,615, gwerth £17,190 o arian parod a gwn lled-awtomatig.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Stephen Leyson, 55, o Fferm Pibwr, Capel Dewi yn euog o fod â gwn yn ei feddiant

Wrth i'r ymchwiliad ddatblygu, fe arestiwyd dau berson arall, Ritchie Coleman, 33 oed, ac Emma Calver-Roberts, 32 oed, o Vetch Close, Penfro.

Fe blediodd y ddau yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chyffuriau dosbarth B.

Cafodd achos dedfrydu Emma Calver-Roberts ei ohirio tan 25 Awst er mwyn paratoi adroddiadau.

Croesawu'r ddedfryd

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Rhys Jones: "Yr ydym yn croesawu'r ddedfryd a roddwyd heddiw, sy'n ganlyniad ymchwiliad hir a thrylwyr, a hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion a staff cymorth a oedd yn gysylltiedig â'r achos am eu dyfalbarhad a'u hymrwymiad.

"Grŵp troseddu trefnedig yw'r teulu Leyson a geisiodd gwneud arian sydyn drwy werthu llawer iawn o gocên a chanabis i werthwyr is ledled de orllewin Cymru.

"Gobeithiwn fod yr achos hwn yn anfon neges glir ein bod ni'n gweithio'n barhaus i aflonyddu ar gyflenwad sylweddau anghyfreithlon yn ein hardal heddlu ac y byddwn yn erlyn unrhyw un sy'n ceisio lledaenu eu diflastod drwy ein cymunedau er budd ariannol.

"Hoffem sicrhau'r cyhoedd y byddwn ni'n parhau i weithredu ar unrhyw wybodaeth a dderbynnir am gyflenwi cyffuriau."

Pynciau cysylltiedig