Dathlu 900 mlynedd o bererindod i Eglwys Gadeiriol Tyddewi
- Cyhoeddwyd
Mae dathliadau arbennig yn cael eu cynnal yn Nhyddewi er mwyn dathlu 900 mlynedd o bererindod i'r eglwys gadeiriol yno.
Bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yn yr Eglwys Gadeiriol ynghyd â thaith gerdded, oll er mwyn dathlu bywyd Dewi Sant.
900 mlynedd yn ôl, ym 1123, cafodd y safle ei gydnabod fel man pererindod wedi i'r Pab Callixtus II ddatgan bod dwy bererindod i Dyddewi yn gyfartal ag un daith i Rufain.
Arweiniodd hyn at gynnydd yn y nifer o bobl fu'n teithio i Dyddewi ac mae cannoedd o filoedd o bobl yn parhau i ymweld â'r safle bob blwyddyn.
Bydd y gwasanaeth dwyieithog, a fydd yn cael arwain gan Archesgob Cymru, yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 25 Gorffennaf, sef diwrnod Gwledd Sant Iago, nawddsant pererinion.
Bydd holl esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn bresennol yn ogystal â chynrychiolwyr ffydd eraill.
Muriau llawn hanes
Bydd cerddoriaeth a gomisiynwyd ar gyfer y dathliadau'n cael eu perfformio gan gynnwys Cyfod Bererin a gyfansoddwyd gan Meirion Wynn Jones gyda geiriau gan Dr Sarah Rowland Jones, Deon Tyddewi.
Mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen Bwrw Golwg, BBC Radio Cymru, dywedodd Meirion Wynn Jones: "Ges i'r gwahoddiad gan y Deon Sarah Rowland Jones, aeth hi ati i greu testun, Cyfod Bererin.
"Ac wedyn wnaeth hi ofyn i mi gyfieithu darn o'r testun fel bod o'n macaronic (cyfuniad o ieithoedd) wedyn, sydd wrth gwrs yn ein hatgoffa o destunau yr Oesoedd Canol, lle oedd darnau yn aml yn symud rhwng Saesneg a Lladin.
"Felly yn y darn bydd y byrdwn neu'r cytgan yn y Gymraeg a'r pennill yn y Saesneg. Rydw i wedi trio creu darn gweddol syml sydd ddim yn rhoi straen ar y cerddorion, achos dwi'n gwybod o brofiad beth ydi o i gael darn comisiwn sydd yn ben tost i bobl.
"Mae dyn yn cofio am yr holl gerddoriaeth sydd wedi seinio tu fewn i furiau rhywle mor hanesyddol â Thyddewi, ac wrth gwrs mae rhywun yn gorfod ystyried dylanwad y blaengan (plainsong) y siant Gregoraidd, ac mae hynny yn help mawr i symud ymlaen a chreu yn y ganrif yma."
Dywedodd Dr Sarah Rowland Jones, Deon Tyddewi, "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu pobl o bell ac agos ar gyfer y gwasanaeth naw canmlwyddiant arbennig hwn sy'n nodi uchafbwynt ein blwyddyn o ddathlu Dewi Sant.
"Byddwn yn diolch am ddyn sy'n parhau i ysbrydoli pererinion ar ôl 900 mlynedd o gydnabyddiaeth ryngwladol.
"Mae ei athrawiaeth - Byddwch lawen, cadwch y ffydd, a gwnewch y pethau bychain - yn parhau yn gwmpawd moesol grymus ar gyfer pobl o bob ffydd a dim ffydd, yn arbennig wrth i ni edrych am ein ffordd drwy gyfnodau ansicr bywyd."
Roedd yn rhaid canslo un rhan o'r dathliadau - ailgread o bererinion yn cyrraedd Tyddewi o'r môr - ddydd Sadwrn, ond ddydd Sul bydd taith gerdded arbennig yn olrhain ôl troed pererinion gyda straeon yn cael eu hadrodd ar y ffordd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2023