Mordaith Pen Llŷn Aled Hughes

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aled Hughes yn teithio o amgylch arfordir Pen Llŷn

"Mae o wedi bod yn brofiad eithaf emosiynol gweld rwla cyfarwydd o safbwynt hollol wahanol… Does 'na ddim llawer o bobl wedi gweld tu blaen Penrhyn Llŷn fel hyn."

Dyna eiriau Aled Hughes wrth iddo edrych o'r Swnt tuag Ynys Enlli o gwch mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru o flaen Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

Ym Mordaith Pen Llŷn Aled Hughes mae'r cyflwynydd, sy'n wreiddiol o Lanbedrog ger Pwllheli, yn ein tywys ar fordaith ar hyd un o arfordiroedd difyrraf Cymru, ac un sydd yn agos iawn at ei galon.

Mewn dwy raglen radio hanner awr fe ddown i ddysgu am berthynas Llŷn gyda'r môr drwy glywed am hanesion llongwyr, pysgotwyr, syrffwyr, deifwyr, llongddrylliadau'r gorffennol, ac am fyd natur gan bobl ar lawr gwlad yn Llŷn.

Cawn glywed Beti Hughes, gwraig 95 oed o Fwlchtocyn ger Abersoch, yn trafod profiadau ysgytwol ei thad fu'n llongwr ar long y Caernarvon Bay ar ddechrau'r 20fed ganrif, a chawn gymharu hynny a phrofiadau Cai Erith o Aberdaron sy'n gwneud ei fywoliaeth ar foroedd mawr y byd hyd heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o gyfranwyr y fordaith

Plymiwn i waelod y môr i ail ymweld â llongddrylliadau a hen fomiau gyda'r deifiwr Jake Davies ym Mhorth Ysgaden ac fe gawn flas ar sut mae'r môr yn ysbrydoli gwaith yr artist Elin Hughes.

Cawn fynd o ddysgu am gyfoeth byd natur Ynys Enlli, "fy hoff le yn y byd i gyd" fel esbonia Aled Hughes, i gael blas ar ddiwylliant syrffio Llŷn gan Lee Oliver cyn cael hanes Owi Jones, pysgotwr cimychiaid yn Abersoch.

Rhwng yr hanesion amrywiol clywn eiriau a cherddoriaeth bardd a cherddor ifanc o Lŷn, Sioned Erin Hughes a Ceiri Humphreys (Pys Melyn) sy'n ein llywio ar hyd y daith.

"Dwi 'di gweld pethau heddiw ac mae 'na gyd-destun gwell i bob dim," meddai Aled Hughes wrth iddo feddwl am y fordaith anturus o amgylch bro ei febyd.

Gwrandewch ar y bennod gyntaf ar BBC Sounds yma. Bydd yr ail bennod yn darlledu ar ddydd Sadwrn, Awst 5 am 17:00.

Pynciau cysylltiedig