'Chwaraewyr rygbi â risg uwch Alzheimer's a dementia'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bu Meredydd James yn rhan o ymchwil i effaith cyfergydion ar gyn-chwaraewyr rygbi

Mae ymchwil newydd gan wyddonwyr yng Nghymru yn dangos bod cyfergydion niferus yn gadael eu hôl ar ymennydd chwaraewyr rygbi flynyddoedd ar ôl iddyn nhw ymddeol o'r gamp.

Ar ôl dioddef cyfergydion, mae'n ymddangos bod y llif gwaed i'r ymennydd yn lleihau, ac fe allai hyn gynyddu'r risg o ddementia ac Alzheimer's flynyddoedd wedyn.

Mewn astudiaeth sy'n cael ei disgrifio fel un "arloesol", fe aeth gwyddonwyr adran niwrofasgwlar Prifysgol De Cymru ati i gymharu iechyd 20 o gyn-chwaraewyr rygbi sydd bellach yn ei 60au a'u 70au, gyda dynion o oed tebyg wnaeth erioed chwarae'r gamp.

Roedd pob un o'r chwaraewyr rygbi wedi treulio o leiaf 20 mlynedd yn chwarae'r gêm.

'Fel 'na oedd hi'

Un o'r rheiny oedd Meredydd James a chwaraeodd 400 o weithiau i dîm Pen-y-bont ar Ogwr.

Bu'n gapten ar y clwb am dri thymor, gan chwarae mewn pedair rownd derfynol o gwpan Undeb Rygbi Cymru yn olynol. Erbyn hyn mae'n 72.

Yn chwarae yn y rheng flaen, fel prop, mae Meredydd yn cofio'r ergydion.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Meredydd James [chwith] yn chwarae yn y rheng flaen ac mae'n cofio effeithiau'r ergydion ar ei gorff bryd hynny

Dywedodd: "O'dd dim sôn am concussion pan o'n i'n chwarae, yn fy amser i. Sponge, dŵr oer, sblash, sychu a mynd 'mlaen gyda'r gêm. Dim bai ar neb, fel 'na oedd hi.

"Roedd yn gêm gorfforol. Pan o'n i'n chwarae roedd cael yr hit (yn y sgrym) mor bwysig, i gael y corff, traed, breichiau yn y lle cywir. Pan nes i feni oedd y corff wedi blino ar ôl cael ei bwno gymaint."

Fe gymrodd Meredydd ran yn yr ymchwil ar ôl sylweddoli ar ychydig o ddirywiad ei hun.

"Pan o'n i'n troi'n 60 roedd pethau'n dechrau newid oherwydd o'n i ddim yn cofio am bethau, cystal â 'ny. A falle tamed bach o balans hefyd. Odd pethe'n dechre dod mewn i hala bach o ofid."

'Mae'n rhaid i bobl wrando a newid'

Mae astudiaeth Prifysgol De Cymru'n bwrw goleuni ar y modd y mae cyfergydion yn gallu amharu ar wybyddiaeth cyn-chwaraewyr.

Fe gynhaliwyd nifer o asesiadau yn edrych ar symptomau sy'n gysylltiedig â chyfergyd gan gynnwys profion gwaed, profion llif gwaed i'r ymennydd a phrofion gwybyddiaeth.

Un fu â rhan flaenllaw yn yr ymchwil oedd Dr Tom Owens, sy'n ddarlithydd gwyddorau biofeddygol ym Mhrifysgol De Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Tom Owens mae'n debygol fod cyfergydion yn achosi lleihad mewn llif gwaed i'r ymennydd

Dywedodd: "O'n i wedi gweld bod chwaraewyr oedd wedi ymddeol o'r gêm, efo hanes o gyfergyd, yn dioddef o rywbeth sy'n cael ei adnabod fel mild cognative impairment.

"Ma' hwn yn meddwl bod y ffyrdd y mae'r ymennydd yn gallu meddwl, cofio gwybodaeth a defnyddio'r wybodaeth yn iselach ac yn waeth na phobl sydd heb hanes o gyfergyd neu chwarae rygbi.

"Y risg tu ôl i mild cognitive impairment yw bod pobl yn dioddef o ffurf eraill o glefyd er enghraifft fel Alzheimer's a dementia... mae'r ffaith ni wedi gweld mild cognitive impairment yn y chwaraewyr yma yn cynyddu'r risg o nhw'n dioddef o glefydau fel hyn."

Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn cael eu cyhoeddi yng nghylchgrawn Experimental Physiology, ac maent wedi canfod beth sy'n debygol o achosi'r problemau, sef lleihad mewn llif gwaed i'r ymennydd oherwydd gostyngiad mewn lefelau ocsid nitrig.

Mae'r cemegyn yma'n allweddol i alluogi rhydwelïau i ymlacio er mwyn cludo ocsigen a glwcos i'r ymennydd.

Yn ôl Dr Tom Owens: "Mae'r ymchwil yma'n uniongyrchol ac yn arbennig gan fod ni wedi gweld y ffyrdd mecanyddol tu ôl i'r mild cognitive impairment, felly ni 'di gweld bod y rhydwelïau sydd yn helpu gwaed i drafeilu at yr ymennydd - mae'r gwaed yn trafeilu yn iselach, ac mae llai o ocsigen yn cael ei ddarganfod yn yr ymennydd hefyd.

"Mae hefyd llai o nitric oxide yn y rhydwelïau sydd yn meddwl bod y rhydwelïau eu hunain ddim yn gweithio mor dda â gallen nhw fod."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr asesiadau yn cynnwys profion gwaed, profion llif gwaed i'r ymennydd a phrofion gwybyddiaeth

Mae'r tîm ymchwil yn cydnabod bod yna wendidau i'r ymchwil, gan gynnwys nifer bychan y sampl a dibyniaeth ar gof unigolion o'r cyfergydion wnaethon nhw ddioddef.

Ond mae'r tîm hefyd yn pwysleisio y gall y canfyddiadau yma fynd ymhell y tu hwnt i rygbi - i gampau eraill fel bocsio neu bêl-droed.

Gallent hefyd gael eu hymestyn i astudio'r gwahaniaeth rhwng menywod a dynion sy'n chwarae campau fel hyn.

Mae Meredydd James yn sicr bod ymchwil o'r fath yn hanfodol.

"Mae'n rhaid i bobl, fel Undeb Rygbi Cymru wrando ac felly newid y rheolau i wella sefyllfa'r gêm," meddai.

"Mae'n bwysig bod chwaraewyr yn cael eu hedrych ar eu hôl, mae iechyd yn bwysig dros ben."

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael cais am sylw.