Cwmni fodca yn un o'r rhai sy'n tyfu gyflymaf yn y DU

  • Cyhoeddwyd
fodca
Disgrifiad o’r llun,

Mae busnes Au Vodka o Abertawe bellach yn werth oddeutu £150m

"Ein huchelgais yw bod yn gwmni ungorn cyntaf Cymru," medd cwmni Au Vodka o Abertawe.

Er bod y DU wedi magu nifer o fusnesau ungorn - busnesau newydd sydd wedi cyrraedd gwerth $1bn - mae Cymru'n dal i aros am y cwmni cyntaf.

Ond mae Au Vodka ar ei ffordd - dyma un o'r cwmnïau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU.

Mae'r busnes "yn werth o leiaf £150m", yn ôl Rhestr Gyfoethog y Sunday Times, gan osod y cyd-berchnogion Charlie Morgan, 27, a Jackson Quinn, 29, ymhlith y 35 o bobl gyfoethocaf o dan 35 oed yn y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jackson Quinn a Charlie Morgan ymhlith y 35 o bobl gyfoethocaf o dan 35 oed yn y DU

"Mae hi wedi bod yn gorwynt am siŵr o fod y pum mlynedd ddiwethaf," meddai Jackson Quinn wrth BBC Radio Wales Breakfast.

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod pawb fwy na thebyg yn meddwl ein bod ni wedi dod yn gwmni llwyddiannus dros nos ond mae'n debyg nad ydyn nhw'n gwybod ei bod wedi cymryd bron i naw mlynedd erbyn hyn."

Dechreuodd y cwmni fodca â blas drwy werthu 2,000 o'u poteli euraidd nodedig ym mariau Abertawe.

Mae'r ddau ddyn yn dweud bod cymorth a chyngor mentora eu rhieni yn y blynyddoedd cynnar wedi bod yn hynod bwysig - tad Charlie Morgan yw Martin Morgan, un o gyfarwyddwyr clwb pêl-droed Dinas Abertawe a pherchennog Gwesty Morgan's yn y ddinas.

Mae'r amrywiaeth o flasau, o Black Grape i Bubblegum, bellach i'w gweld ar silffoedd y rhan fwyaf o archfarchnadoedd ar ôl i'w poblogrwydd "ffrwydro'n fawr", yn ystod clo cyntaf y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae bod yng Nghymru o fudd yn hytrach nag yn broblem," medd y perchnogion

Wrth gael ei holi am yr heriau dywedodd Charlie Morgan: "Rydyn ni'n chwarae mewn cae lle mae chwaraewyr byd-eang ynddo.

"Felly, ma' gennych chi gwmnïau fel Diageo, Ciroc, Bacardi gyda'u poteli o Grey Goose... mae'r cwmnïau hynny i gyd yn ennill mwy na £10bn yr un, tra rydyn ni'n ddau fachgen ifanc o Abertawe yn ceisio cystadlu ar y llwyfan byd-eang hwnnw.

"Mae yna'n bendant heriau ac mae'n bendant yn anodd ond rydyn ni'n credu bod sefydlu ein hun yn Abertawe a bod yng Nghymru o fudd yn hytrach nag yn broblem.

"Rydyn ni'n sŵn mawr yn Abertawe ac mae pawb yn siarad amdanon ni, ond pe baen ni yn Llundain neu Efrog Newydd neu ddinas fwy, efallai na fydden ni mor bwysig.

"Rydyn ni'n meddwl ei bod hi'n bwysig cadw Au yn Abertawe wrth i ni dyfu i fod yn fusnes mwy rhyngwladol."

Canolbwyntio ar yr UDA

Gan gyflogi 63 o bobl - y mwyafrif wedi'u lleoli yn ei bencadlys yn Abertawe - mae'r cwmni wedi agor swyddfeydd newydd yn ddiweddar yn Amsterdam yn yr Iseldiroedd ac Atlanta yn yr Unol Daleithiau.

Gyda 25% o fusnes Au Vodka yn allforion, marchnad America yw lle mae'r cwmni "yn mynd i fod yn canolbwyntio egni ac adnoddau", yn ôl Jackson.

Un enghraifft o'r marchnata oedd talu dros £200,000 i'r seren cyfryngau cymdeithasol Jake Paul i gael 'tatŵ' o botel o Au Vodka ar ei fraich ddyddiau cyn yr ornest focsio fyd-eang yn erbyn Tommy Fury, cyn-gystadleuydd Love Island a hanner brawd y pencampwr pwysau trwm Tyson Fury.

Roedd y tatŵ yn ffug - gwir werth y stynt oedd cael sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae marchnata, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, yn bwysig iawn i'r cwmni

Mae hyrwyddiadau cyfryngau cymdeithasol yn greiddiol i dwf y busnes - o roi car Lamborghini aur am ddim i greu partneriaeth ag enwogion chwaraeon a cherddoriaeth, fel cyn-bêl-droediwr Brasil Ronaldinho a'r bocsiwr Floyd Mayweather, i hyrwyddo eu cynnyrch.

Mae rhai seicolegwyr yn codi pryderon ynghylch diwylliant dylanwadwyr yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl wrth iddynt wthio ffordd o fyw sydd allan o gyrraedd y rhan fwyaf o bobl.

A yw hynny'n bryder i Au Vodka?

Atebodd Charlie Morgan: "Rydym bob amser yn ceisio gwthio cynnwys y mae pobl yn mynd i'w fwynhau ac, yn amlwg, mae gennym ni gynnyrch gwahanol am brisiau gwahanol.

"I ni, mae'n hynod bwysig ein bod ni'n adrodd stori gyffrous ar y cyfryngau cymdeithasol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-gyflwynydd Radio 1, Charlie Sloth, yn bartner busnes ers 2017

Fe wnaeth neges Instagram yn 2017, neges a oedd yn cynnig poteli am ddim o Au Vodka - arwain at y DJ, cynhyrchydd a chyn-gyflwynydd BBC Radio 1 ac 1Xtra, Charlie Sloth, i ymuno fel partner busnes.

Dywedodd Sloth, sy'n byw yn Abertawe pan mae'n byw yn y DU, wrth BBC Radio Wales Breakfast: "Yn amlwg, mae gen i gysylltiadau gwych o fewn y diwydiant cerddoriaeth a thu hwnt.

"Dwi'n meddwl bod gennym ni rhwng y tri ohonom ni weledigaeth a syniad o sut oedd angen i'r brand edrych a beth oedd angen i ni ei wneud i gael y brand i ble y mae e heddiw."

Y stynt marchnata nesaf?

Mae'r perchnogion yn gyndyn o ddweud pa enwogion y maen nhw'n meddwl amdanynt ar gyfer eu hyrwyddiadau cyfryngau cymdeithasol nesaf.

Beth am y pêl-droediwr Eden Hazard?

"Rydyn ni wedi cael ambell i sgwrs, a bod yn deg, am dipyn o ymgyrch oherwydd rydyn ni'n meddwl y byddai'n dipyn o foment viral, ond nid eto," meddai Charlie Morgan.

Ar 23 Ionawr 2013, llwyddodd Abertawe i gael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Chelsea i gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Gynghrair, lle wnaethon nhw gipio'r tlws.

Roedd yr ail gymal yn y rownd gyn-derfynol yn ddadleuol wrth i chwaraewr Chelsea, Eden Hazard, gael ei anfon o'r maes am gicio ball boy wrth iddo geisio hawlio'r bêl.

Charlie Morgan, 17 mlwydd oed ar y pryd, oedd y bachgen hwnnw.

Felly, 10 mlynedd yn ddiweddarach, tybed beth ddigwyddodd ar y noson honno mewn gwirionedd? A oedd Morgan yn gwastraffu amser neu a oedd e wir wedi syrthio ar y bêl?

"Dydw i ddim yn gwybod am hynny, a bod yn deg. Dyna stori ar gyfer diwrnod arall," meddai gyda gwên fach.

Mae un peth yn sicr - nid yw Morgan a Quinn yn gwastraffu amser o ran dyfodol Au Vodka.

Pynciau cysylltiedig