Paraseit yn gohirio ailagor cronfa ddŵr i nofwyr

  • Cyhoeddwyd
Cronfa Ddŵr Llanisien
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd ymgyrch am flynyddoedd gan drigolion lleol i achub cronfa ddŵr Llanisien

Mae presenoldeb paraseit posib yng nghronfa ddŵr yng Nghaerdydd wedi golygu nad oes moddi iddi ailagor yn llawn - a hynny wedi brwydr i achub y safle.

Mae nofio a sesiynau padlfyrddio wedi'u gohirio dros dro yng nghronfa ddŵr Llanisien o ganlyniad i achos posib o gosfa'r nofiwr, sydd heb ei gadarnhau.

Am dros ddau ddegawd fe wnaeth pobl leol wrthwynebu cynlluniau i wagio'r gronfa er mwyn adeiladu cannoedd o dai.

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn gweithio mor gyflym â phosib er mwyn gallu caniatáu mynediad llawn i'r dŵr.

Ychwangodd llefarydd bod safon y dŵr yn parhau i ymddangos yn arbennig wedi monitro cyson.

Mae ymchwiliad i achos o salwch yn gysylltiedig â pharaseit yn y dŵr yn parhau, wedi i grŵp o nofwyr dderbyn gwahoddiad i nofio yno wythnos ddiwethaf cyn i'r gronfa agor yn swyddogol ddydd Gwener.

Mae cosfa'r nofiwr (swimmer's itch) yn derm poblogaidd ar gyfer y cyflwr cercarial dermititis, sy'n effeithio'r croen o ganlyniad i ymateb alergol i baraseit sy'n byw ar falwen ac adar dŵr.

"Rydyn ni wedi gohirio nofio dros dro tra ein bod ni'n aros am gyngor pellach ar le i leoli ein sesiynau nofio dŵr agored - sydd ar hyn o bryd mewn ardal o ddŵr bas - lle mae'r risg o gael eich effeithio gan y math yma o baraseit yn uwch," meddai Vicky Martin, pennaeth atyniadau cyhoeddus Dŵr Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vicky Martin fod Dŵr Cymru'n aros am gyngor pellach cyn ailagor y gronfa yn ôl y bwriad gwreiddiol

Mae hwylio, caiacio a chanŵio yn parhau, ac fe fydd modd i ymwelwyr gerdded o amgylch y gronfa ddŵr a mynd i'r caffi newydd sydd â golygfeydd yn edrych dros y dŵr.

Yn ôl Olympiwr mwyaf llwyddiannus Cymru, Hannah Mills OBE, mae ailagoriad cronfa ddŵr Llanisien a Llysfaen yn "arbennig" ac yn "arwyddocaol iawn" i'r gymuned leol.

Ond fe ychwanegodd bod glendid dŵr yn bwysig er mwyn i bobl allu mwynhau'r atyniad.

Fel aelod ifanc o hen glwb hwylio Llanisien, dywedodd Ms Mills ei bod hi'n "drist iawn" pan gaeodd y gronfa ddŵr yn sgil cynllun i ddatblygu'r safle ac adeiladu tai newydd.

"Fe chwaraeoedd ran fawr yng nghychwyn fy ngyrfa hwylio," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd grŵp o nofwyr wahoddiad i nofio yn y gronfa cyn yr ailagoriad swyddogol oedd i fod i ddigwydd ddydd Gwener

Yn 2001, fe wnaeth dros 600 o bobl fynychu cyfarfod yn gwrthwynebu cynlluniau Western Power Distribution i wagio'r gronfa er mwyn adeiladu tai.

Dechreuodd y gwaith o wagio'r dŵr yn 2010, ond dair blynedd yn ddiweddarach fe werthodd y cwmni'r safle, ynghyd â chronfa Llysfaen, ar ôl i Lywodraeth Cymru atal apêl cynllunio'r cwmni i godi 324 o dai yno.

Gwerthwyd y safle i Celsa Manufacturing UK ac fe ddefnyddiwyd y dŵr o gronfa Llysfaen yng ngweithdy dur Tremorfa.

Yn 2016 daeth y safle i feddiant Dŵr Cymru, a gymerodd brydles am 999 o flynyddoedd, ac fe ddechreuodd y gwaith o ail-lenwi ac adfer y cronfeydd dŵr mewn partneriaeth â phobl leol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Cowie'n falch bod y cronfeydd wedi cael eu hadfer wedi cyfnod maith o ymgyrchu i'w hachub

"Roedd yn 22 o flynyddoedd anodd iawn wrth geisio achub y cronfeydd dŵr," meddai cadeirydd Grŵp Gweithredol Preswylwyr y cronfeydd dŵr, Richard Cowie.

"Tasen i wedi cael punt am bob tro ddywedodd rhywun wrtha'i na fydden ni'n llwyddo i ennill yn erbyn cwmni o America, bysen i'n berson cyfoethog iawn.

"Fe wnaethon ni ddyfalbarhau a llwyddon ni yn y pen draw. Mae'r cronfeydd wedi'u hadfer ac allwn ni ddim fod yn hapusach."

Dywedodd Gwyn Thomas, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Dŵr Cymru: "Rydyn ni wedi gorfod gwneud lot o waith i sicrhau ein bod ni'n dod â'r cronfeydd yma i safon, a sicrhau bod y cynlluniau sydd gyda ni ddim yn cael effaith ar y bywyd gwyllt a chyfoethog o amgylch y safle.

"Fe weithion ni'n agos gyda'r gymuned leol i weld beth oedden nhw eisiau gweld yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae diogelu bywyd gwyllt a natur y cronfeydd yn un o flaenoriaethau Dŵr Cymru, medd Gwyn Thomas

Bydd modd i'r cyhoedd fwynhau'r dŵr a'r holl lwybrau cerdded o amgylch y safle, ond does dim caniatâd i bobl gerdded eu cŵn o amgylch y cronfeydd oherwydd presenoldeb ffyngau prin.

Mae gan gronfeydd dŵr Llanisien a Llysfaen statws safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gan fod ffyngau prin yn tyfu yn yr ardal ac oherwydd presenoldeb nifer o wahanol fathau o adar.

"Rydyn ni'n cymryd ein cyfrifoldeb i weithredu'r safle yma o ddifri'," meddai Mr Thomas. "Un o'r pethau roedden ni'n glir arno wrth agor y safle oedd yr angen i ddiogelu bywyd gwyllt a natur.

"Yn anffodus mae hynny'n golygu na fydd cŵn yn gallu cerdded o gwmpas y safle.

"Ond fe fydd modd mynd â chŵn i'r ganolfan ymwelwyr ac wrth gwrs os oes gan berson gi tywys, fe fydd hawl ganddyn nhw i fynd o amgylch y llyn."

Pynciau cysylltiedig