Cyngres Europa: B36 Tórshavn 2-1 Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Jazz RichardsFfynhonnell y llun, CPD Hwlffordd
Disgrifiad o’r llun,

Cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Jazz Richards, yn arwain allan Hwlffordd ar Ynysoedd y Ffaro

Mae gobeithion Ewropeaidd Hwlffordd yn parhau i fod yn fyw wedi iddyn nhw golli o un gôl ar Ynysoedd y Ffaro nos Iau.

Roedd tîm Tony Pennock wedi sicrhau eu lle yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa yn dilyn eu buddugoliaeth ar giciau o'r smotyn yn erbyn KF Shkëndija o Ogledd Macedonia.

Ond roedd sialens arall yn wynebu'r tîm rhan amser o Sir Benfro wrth deithio i ogledd Cefnfor yr Iwerydd.

Roedd arwydd cynnar o faint yr her i Hwlffordd wrth i Oscar Borg orfod clirio'r bêl o'r llinell gôl ym munud cynta'r gêm.

Ond daeth y gôl agoriadol i'r tîm cartref wedi ond 10 munud wrth i Hannes Agnarsson sgorio o groesiad Johansen yn dilyn symudiad da.

Ni ddisgynnodd pennau'r ymwelwyr, serch hynny, wrth dyfu fewn i'r gem wrth i'r hanner fynd yn ei flaen.

Daeth cyfle gorau'r ymwelwyr o'r hanner wedi 38 munud ond methodd Ben Fawcett â throsi cic rhydd Rhys Abbruzzese i'r rhwyd.

Haneru mantais

Ond parhau i weld ychydig iawn o'r bêl wnaeth Hwlffordd wrth i'r ail hanner ddilyn patrwm tebyg i'r cyntaf.

A thalodd uchafiaeth B36 ar ei ganfed pan ddyblon nhw eu mantais wedi awr o chwarae.

Ffynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Cyn-chwaraewr Fulham, Martell Taylor-Crossdale, oedd sgoriwr gôl Hwlffordd gan rhoi gobaith gwirioneddol ar gyfer yr ail gymal.

Andrass Johansen oedd y sgoriwr y tro hwn, wrth i dasg yr ymwelwyr edrych hyd yn oed fwy anodd.

Daeth cyfle i Hwlffordd wedi 76 munud ond aeth ergyd Kai Whitmore yn syth at Mattias Lamhauge yn y gôl.

Ond yn fuan wedyn llwyddodd Martell Taylor-Crossdale i haneru mantais y tîm o Ynysoedd y Ffaro drwy ddarganfod cornel isa'r rhwyd ar yr ail gynnig.

Drwy oroesi rhagor o bwysau hwyr gan B36 fe lwyddodd tîm Tony Pennock i gadw'r gêm yn fyw ar gyfer yr ail gymal.

Bydd honno'n cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau nesaf, 3 Awst.

'Gwarth llwyr'

Yn dilyn y gêm nos Iau fe wnaeth y rheolwr Tony Pennock a'r clwb fynegi dicter ynglŷn â thactegau brwnt maen nhw'n honni i'r gwrthwynebwyr eu defnyddio, gan gynnwys anfon staff hyfforddi B36 Tórshavn i wylio sesiwn ymarfer Hwlffordd.

Mewn neges ar Twitter dywedodd Pennock: "Gwarth llwyr. Y cae heb ei ddyfrio am ein sesiwn ymarfer neithiwr! Y peli a gyflenwyd fel brics!

"Sawl staff hyfforddi wedi'u gwisgo mewn siacedi staff diogelwch yn ein gwylio'n ymarfer, a'r ystafell newid wedi'i gloi'n gyfleus hanner amser! Dim cynrychiolydd UEFA i'w weld yn unrhyw le."

Ychwanegodd y clwb ei fod yn "embaras" fod y tîm methu cael mynediad i'r ystafell newid am bum munud yn ystod hanner amser.

Pynciau cysylltiedig