Ceredigion: Dedfryd 27 mlynedd am dreisio tair menyw

  • Cyhoeddwyd
Saul Rowan HenveyFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu bod tystiolaeth o batrwm troseddu Saul Henvey wedi argyhoeddi rheithgor o'i euogrwydd

Mae dyn 47 oed o Geredigion wedi ei garcharu am dreisio tair menyw yn y sir o fewn dwy flynedd.

Fe gafodd Saul Rowan Henvey, o ardal Tregaron, ddedfryd o 21 mlynedd o garchar, a chwe blynedd ymhellach ar drwydded, wedi i Lys y Goron Abertawe ei gael yn euog ym mis Mawrth o bedwar cyhuddiad o dreisio.

Bydd yn rhaid iddo dreulio dau draean o'r ddedfryd dan glo cyn cael ceisio am barôl.

Fe fydd ei enw hefyd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes ac mae gorchymyn amhenodol yn ei atal rhag mynd yn agos at y dioddefwyr.

Edrych eto ar honiad blaenorol

Fe gafodd ei arestio ar 7 Mai 2021, yn dilyn cyrch heddlu yn ardal Llanbedr Pont Steffan, ar amheuaeth o dreisio menyw y diwrnod cynt yr oedd newydd ei chyfarfod yn y dref.

Roedd wedi ei thywys i ardal goediog tu allan i'r dref a dweud wrthi ei fod yn ei charu cyn ymosod arni.

Fel rhan o'r ymchwiliad i'r achos, fe edrychodd yr heddlu o'r newydd ar honiad tebyg yn erbyn Henvey ym mis Mai 2019.

Yn yr achos hwnnw, dywedodd y dioddefwr bod Henvey wedi dechrau sgwrsio gyda hi pan roedd ar ben ei hun yng ngardd ei chartref yn Llambed.

Fe wnaeth ei pherswadio i'w adael i mewn i'w thŷ ble gwnaeth ei threisio yn ddiweddarach yr un diwrnod.

Am rai misoedd wedi'r ymosodiad, fe wnaeth Henvey barhau i ddylanwadu ar y fenyw cyn iddi ofyn am gymorth swyddogion trais yn y cartref, a gysylltodd yn eu tro â'r heddlu ym mis Ionawr 2020.

Ffynhonnell y llun, Clonc 360
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddlu wedi rhybuddio gyrwyr i beidio â chodi teithwyr ar ochr y ffordd wrth iddyn nhw chwilio am ddyn oedd wedi ymosod ar fenyw ar gyrion Llambed

Ni fu'n bosib symud ymlaen gyda'r achos hwnnw ar y pryd ond o edrych yn ôl fe welodd yr heddlu bod ymddygiad Henvey yn debyg i'r hyn a gafodd ei adrodd gan y dioddefwr yn yr achos mwyaf diweddar.

Yna, yn sgil y cyhoeddusrwydd wedi i Henvey gael ei gyhuddo mewn cysylltiad â'r ymosodiad yn y goedwig, fe aeth menyw arall at yr heddlu yn honni bod rhywun wedi ei threisio yn ardal Llanddewi Brefi rhwng Mawrth ac Ebrill 2021.

Roedd Henvey wedi ymweld â'r fenyw, oedd ar ben ei hun, a'i pherswadio i adael iddo aros gan ddweud ei fod yn ddigartref. Ar ddau achlysur, fe ddihunodd y fenyw ganol nos a darganfod fod Henvey'n ei threisio wrth iddi gysgu yn ei gwely.

Doedd dim cysylltiad rhwng y tri dioddefwr.

Troseddau 'erchyll'

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi croesawu'r ddedfryd ddydd Gwener gan obeithio y bydd yn "dod â rhyw gysur i'r dioddefwyr a chaniatáu iddyn nhw symud ymlaen gyda'u bywydau".

Dywedodd arweinydd yr ymchwiliad heddlu, y Ditectif Arolygydd Adam Cann: "Mae'r achos yma wedi dangos pwysigrwydd mynd at yr heddlu os rydych yn dioddef trais neu ymosodiad rhyw.

"Oherwydd diffyg tystiolaeth addas, ni fu'n bosib i ni yn wreiddiol i sicrhau cyfiawnder i'r dioddefwr cyntaf. Fodd bynnag fe wnaeth gweithredoedd a phatrwm troseddu Henvey olygu ein bod yn gallu profi patrwm a argyhoeddodd reithgor o'i euogrwydd."

Ychwanegodd bod y dioddefwyr wedi amlygu "nerth, cryfder a phenderfynoldeb" er effaith y troseddau "erchyll, treisgar" yn eu herbyn i helpu'r heddlu "sicrhau ei fod dan glo ble ni all wneud yr un peth i fenywod eraill".