Carcharu giang guddiodd arian mewn cyfrifon crypto
- Cyhoeddwyd
Mae 12 aelod o giang cyffuriau wnaeth werthu mwy na 40kg o gocên ar draws de Cymru i gyd wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Clywodd y llys fod y giang wedi 'glanhau' yr arian a gafon nhw drwy ddefnyddio cyfrifon arian rhithiol.
Ond hyd yma, mae gwerth £153,520 yn parhau heb ei ganfod.
Roedd yr arweinwyr, Amir Khan, 30 oed, a Joshua Billingham, 26, wedi dweud wrth eu teuluoedd i lanhau'r enillion tra'r oedden nhw yn y carchar drwy ddefnyddio cyfnewidfa arian rhithiol Coinbase.
Cafodd Stacey Challenger, 29 oed, a Joshua Collins, 26, hefyd eu carcharu.
'Syfrdanol'
Cafodd Khan ddedfryd o 20 mlynedd a saith mis am droseddau yn cynnwys cynllwynio i gyflenwi cyffuriau gan gynnwys cocên, ecstasi a ketamine, ac am gynllwynio i gyfnewid eiddo troseddol.
Clywodd y gwrandawiad fod gwerth $2.8m (tua £2.1m) wedi pasio trwy gyfrifon arian crypto yn ystod cyfnod y gang yn gwerthu cyffuriau ar draws y de.
Yn y llys dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins wrth Khan fod ei droseddu yn "wirioneddol syfrdanol".
Ychwanegodd fod trosglwyddo'r enillion i arian rhithiol yn golygu ei bod bosibl na fyddai byth yn cael ei ddarganfod.
Cafodd Billingham ddedfryd o 14 mlynedd ac wyth mis.
Dedfryd Collins oedd saith mlynedd ac wyth mis tra bod partner Billingham, Stacey Challenger wedi cael dedfryd o 12 mis am ei rôl yn glanhau mwy na £300,000 a chynllwynio i lanhau arian drwy ddefnyddio arian rhithiol.
Pan aeth yr heddlu i gartref y cwpl yng Nghaerffili fe ddaethon nhw o hyd i fwy na £10,000 ynghyd â pheiriant cyfri arian.
Dywedodd y barnwr: "Pam fod peiriant cyfri arian yn eich meddiant? Roeddech chi'n ddiwaith ac yn byw gyda dyn oedd heb waith."
Clywodd y llys fod mwy na £153,520 wedi cael ei roi mewn waled 'crypto' rhithiol ac nad oedd wedi cael ei ganfod.
Gweddill y dedfrydau
Cafodd wyth aelod arall o'r giang eu dedfrydu yn ystod y gwrandawiad a barodd am ddau ddiwrnod. Y gweddill oedd:
Leon Sullivan - 11 mlynedd a phedwar mis;
Darryl Skym - 10 mlynedd;
Callum Richards - Naw mlynedd a hanner;
Caitilin De Jager (partner Amir Khan) - Pedair blynedd a phedwar mis;
Matthew Dean - Pedair blynedd a thri mis;
Sami Rehman - 18 mis;
Ian Kidley - Dwy flynedd (ond bydd yn cael ei rhyddhau yn fuan gan ei fod wedi bod o dan glo in disgwyl yr achos);
Sidra Khan - Dedfryd o garchar wedi'i ohirio am 18 mis.
Yn achos Caitlin De Jager, clywodd y gwrandawiad iddi osod offer gwrando yn y tŷ roedd hi'n ei rannu gyda Khan gan recordio 600 o sgyrsiau ynglŷn â gwerthu a pharatoi cyffuriau.
Yn ôl ei bargyfreithiwr Andrew Taylor KC fe wnaeth hi hynny i geisio gwarchod ei hun, ac fe brofodd y weithred honno i fod yn help mawr i ymchwiliad yr heddlu.
Gyda dau blentyn ifanc ac yn bartner i un o ddelwyr cyffuriau mwyaf Cymru roedd hi'n "anodd os nad yn amhosibl iddi ddianc o'r bywyd hwnnw", meddai.
Wrth gydnabod y ffaith iddi bledio'n euog yn gynnar dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins bod y ffaith iddi drosglwyddo $170,000 o gyfri crypto pan oedd y rhwyd yn cau am y gang, yn cyfrif yn ei herbyn. Mae'r arian hwnnw yn dal ar goll.
Clywodd y llys fod Sidra Khan yn chwaer fach i Amir Khan a'i bod wedi bod o dan bwysau i gynorthwyo'r giang am resymau teuluol a diwylliannol.
Fe wnaeth y barnwr dderbyn bod ei brawd yn gwneud trosglwyddiadau crypto yn ei henw hi, ac fe gafodd gwerth $2.8m o drafodion eu gwneud drwy ei chyfrif hi.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod y dystiolaeth gref a gafodd ei gyflwyno wedi sicrhau bod giang troseddol wedi eu dwyn i gyfri'.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2022