Cwpan Pêl-rwyd y Byd: De Affrica 61-50 Cymru

  • Cyhoeddwyd
pel-rwydFfynhonnell y llun, Getty Images

Colli wnaeth tîm pêl-rwyd Cymru o 61-50 yn ei gêm agoriadol yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn Ne Affrica nos Wener.

Roedd y Cymry yn chwarae yn erbyn y tîm cartref, ac roedd hi'n dalcen caled o'r dechrau wedi i Dde Affrica fynd 10 gôl ar y blaen.

Roedd yna ail chwarter gwell i'r Cymry a'r sgôr hanner amser oedd 32-24.

Fe lwyddodd Cymru i ddal eu tir yn rhyfeddol yn erbyn pumed tîm gorau'r byd a'r sgôr terfynol oedd 61-50.

Yn gynharach yn yr wythnos bu'r capten Nia Jones yn sôn am yr ymdrechion mae chwaraewyr rhannol broffesiynol yn gorfod eu gwneud er mwyn cystadlu mewn pencampwriaeth o'r fath.

Mae Cymru yng Ngrŵp C a nos Sadwrn fe fyddan nhw'n wynebu Jamaica - a gipiodd y fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad.

Pynciau cysylltiedig