Dynes, 96, wedi aros 11 mis yn yr ysbyty am ofalwr

  • Cyhoeddwyd
Lily
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddywedwyd wrth Lily i ddisgwyl bod yn ôl adref o fewn wythnosau, ond trodd wythnosau yn 11 mis.

"Mae e y teimlad ofnadwy yma o gael eich carcharu."

Mae Lily, 96, yn un o'r bobl yn y DU sy'n sownd mewn ysbyty neu gartref oherwydd aros hir am asesiadau gofal.

Am bron i flwyddyn bu yn yr ysbyty tra bod y cyngor sir yn ceisio dod o hyd i ofalwyr i'w chefnogi yn ei chartref, er ei bod yn "yn ffit yn feddygol".

Ym mis Chwefror roedd o leiaf 1,300 o bobl yng Nghymru yn yr ysbyty er eu bod yn ddigon iach i fynd adref.

Roedd 42% o'r rheiny [552] wedi bod yn barod i adael ers dros fis.

Wrth i Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru ddadansoddi'r ffigyrau ar gyfer BBC Wales Investigates, daethon nhw i'r casgliad fod tua hanner yr achosion am resymau'n ymwneud â diffyg gofal cymdeithasol.

Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) fod y ffigyrau'n dangos "system sydd wedi'i thanariannu'n gronig a'r pwysau y mae cynghorau'n parhau i'w wynebu".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi £70m eleni i wella cyflogau gofalwyr i £10.90 yr awr, er mwyn helpu recriwtio mwy i'r sector.

'Heb gael fy nhraed ar y llawr'

A hithau heb deulu, mae Lily wedi byw yn annibynnol yn ne Cymru ers degawdau.

Ar ôl cael ei derbyn i'r ysbyty ym mis Chwefror 2022 wedi iddi ddal haint, fe ddywedwyd wrthi i ddisgwyl bod yn ôl adref o fewn wythnosau, ond fe drodd wythnosau yn 11 mis.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lily roedd nifer fawr o bobl yn dod trwy'r ysbyty angen y gwely

Fe ddywedodd: "Ces i fy anfon lawr i Ysbyty'r Barri i gael gofal dwys gyda'r physios ac rwy' just wedi bod yn y gwely'n gyson ar wahân i gael fy nghodi weithiau i gadair - dydw i ddim wedi cael fy nhraed ar y llawr o gwbl.

"Roeddwn i'n arfer dweud 'pryd ga'i fynd adref' a byddai'r gweithiwr cymdeithasol yn dweud 'rydym yn brin iawn o staff ar hyn o bryd'."

Ychwanegodd tra roedd hi'n aros, bod nifer fawr o bobl yn dod trwy'r ysbyty angen y gwely.

Ar ôl bron i flwyddyn wnaeth Lily fygwth rhyddhau ei hun o'r ysbyty, cyn i'w chyngor ddod o hyd i becyn gofal.

"Dydw i erioed wedi gadael i fy ysbryd fynd," meddai. "Unwaith y byddwch chi'n dod i lawr fel 'na, mae'n anodd dod yn ôl i fyny yn tydi.

"Felly ro'n i wastad yn gobeithio ryw diwrnod y byddai gofalwyr ar gael ar fy nghyfer ac y gallwn i fynd adref."

'Ffiaidd bod pobl yn dal i aros'

Cafodd Nigel, heddwas wedi ymddeol, ddiagnosis o Sglerosis Ymledol (MS) 12 mlynedd yn ôl.

Arhosodd am dri mis am ofalwyr er mwyn gallu mynd adref i'w gartref ym Mro Morgannwg, a dywedodd eu bod yn hanfodol iddo fyw bywyd annibynnol.

Disgrifiad o’r llun,

Nigel: 'Mae yna bobl yno na allant gael eu llawdriniaethau oherwydd bod y gwelyau'n llawn'

"Hebddyn nhw byddwn i'n sownd yn y gwely drwy'r dydd," meddai.

"Rwy'n meddwl ei fod yn ffiaidd bod pobl yn dal i fod allan yna yn aros am ofalwyr - mae yna bobl yno na allan nhw gael eu llawdriniaethau oherwydd bod y gwelyau'n llawn pobl sy'n aros i fynd adref."

O'r cynghorau yng Nghymru a oedd yn gallu darparu ffigyrau, dywedodd y rhan fwyaf ei fod wedi cymryd dros dair wythnos ar gyfartaledd i asesu pobl am gymorth.

Gallai hynny fod yn bobl sy'n aros i adael yr ysbyty, neu'n aros gartref am help.

Roedd gan y rhan fwyaf o gynghorau hefyd enghreifftiau o rywun yn aros dros chwe mis am y gofal yr oedd angen ei roi yn ei le.

Y llynedd bu farw o leiaf 138 o bobl tra'n aros am gymorth o'r fath.

'Asda lleol yn talu'n well'

Dangosodd ymchwil BBC Wales Investigates hefyd fod o leiaf 650 o gontractau gofal wedi'u rhoi'n ôl i gynghorau gan gwmnïau gofal y llynedd, gyda'r rhan fwyaf yn cydnabod fod staffio yn broblem.

Mae Keri Lewellyn yn rhedeg cwmni gofal yn Y Barri. Dywedodd fod nifer fawr o staff wedi gadael ers y pandemig, sy'n golygu does ganddi ond y staff i ofalu am hanner nifer y cleientiaid roedd hi'n arfer ei wneud.

"Yn ystod y misoedd diwethaf rydyn ni wedi cael llawer o ymholiadau gan deuluoedd a oedd yn gwybod bod eu hanwyliaid yn yr ysbyty yn barod i ddod allan, ond yn ôl pob golwg na allen nhw gael pecynnau gofal," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Keri Lewellyn mae Covid wedi effeithio ar y lefelau staffio

"Gafodd rhai ohonyn nhw waith gyda'r GIG a'r sector lletygarwch, ond mae'r [archfarchnad] Asda lleol yn talu £13 heb unrhyw brofiad blaenorol, felly ni allwn gystadlu mewn gwirionedd.

"Mae llawer o'r bobl sy'n gwneud y swydd hon yn ffyddlon iawn - roedd rhai ohonyn nhw ddim eisiau gadael - ond mae pwysau costau byw yn ddiweddar wedi golygu nad ydyn nhw'n gallu gwneud y dewis yna nawr."

Yn ôl dau weithiwr gofal, Rebecca Bevan a Jessica Darch, mae'r system dan bwysau oherwydd diffyg staff.

Dywedodd Rebecca: "Mae'n iawn i ddweud eich bod yn taflu arian i mewn i'r system... ond ar hyn o bryd ni all yr un ohonom weld y gwahaniaeth, felly mae angen i newidiadau mawr ddigwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rebecca (chwith) a Jessica yn gweithio fel gofalwyr yng Nghymru

"Mae gweithwyr gofal, yn gyffredinol, yn cael eu dibrisio.

"Dydyn nhw ddim yn cael eu talu digon am y swydd ry'n ni'n ei gwneud ac rwy'n meddwl bod hynny'n ffactor enfawr o ran pam nad oes digon ohonom allan yno."

'Deall y pryderon'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar lywodraeth Lafur Cymru i "sicrhau ar frys eu bod yn denu a chadw lefel addas o staff er mwyn ymateb i'r broblem ar unwaith".

Dywedodd Andrew RT Davies bod achos Lily yn "annynol ac yn annerbyniol".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg eu bod yn ymddiheuro'n ddiamod i Lily a Nigel, ond nad oedd achosion fel y rhain yn unigryw i'w hardal oherwydd "argyfwng cenedlaethol mewn gofal cartref" ar draws y DU.

Ychwanegodd fod y pandemig a "phrinder staff acíwt" wedi gwneud y sefyllfa'n anoddach, ond bod ymgyrch recriwtio yn golygu mai "llond llaw" o achosion sydd bellach yn gyfrifol am restrau aros.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro fod maint y gofal yr oedd ei angen ar Lily wedi chwarae rhan o ran pa mor hir yr arhosodd yn yr ysbyty, a bod Nigel wedi cael cynnig therapi rheolaidd tra roedd yn yr ysbyty.

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn deall pryderon y ddau glaf, a'u bod yn gweithio'n galed gyda chynghorau i gael pobol adref cyn gynted â phosib.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi £70m eleni i wella cyflogau gofalwyr i £10.90 yr awr, a bod y darlun yn gwella.