'Hurt' gorfod aros yn yr ysbyty ar ôl gwella

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywed Harri Roberts ei bod hi'n "hurt" na chafodd fynd adref oherwydd prinder gofalwyr

Mae dyn o Abertawe dreuliodd fis yn yr ysbyty er ei fod wedi gwella ar ôl cael sepsis yn dweud ei bod hi'n "hurt" na chafodd fynd adref oherwydd prinder o ofalwyr.

Fe ddatblygodd Harri Roberts sepsis ar ôl damwain yn Gran Canaria, ac fe dreuliodd dros bedwar mis yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

Er ei fod yn barod i adael yr ysbyty ganol mis Mawrth, bu'n rhaid iddo aros yn yr ysbyty heb angen tan ddiwedd mis Ebrill oherwydd bod dim gofalwyr ar gael.

"Roedd yn rhwystredig iawn, achos roeddwn i'n teimlo fy mod i ddim yn gallu gwneud y pethau fyswn i wedi gallu 'neud fel arall," meddai.

Mae adroddiad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, sy'n rhybuddio bod cleifion yn aros yn yr ysbyty am ddyddiau neu wythnosau yn hwy nag sydd angen, yn awgrymu nad ydy stori Harri yn unigryw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwasanaethau iechyd a gofal yn wynebu heriau cymhleth a sylweddol ond eu bod yn buddsoddi mewn cefnogi recriwtio a chadw staff gofal yng Nghymru.

'Aros oedd y peth gwaethaf'

Roedd Mr Roberts yn yr ysbyty am amser hir gan fod ei gyflwr yn "ddifrifol iawn" - ond gorfod aros i fynd adref oedd "y peth gwaethaf," meddai.

"Roedd o'n anodd iawn cael y gwasanaethau. Roedd angen dau berson, er enghraifft, i mi gael o'r gwely a rhoi fi 'nôl yn y gwely - ac i gael dau berson efo'i gilydd, roedd hynny'n beth eithaf anodd i wneud."

Roedd tri chlaf arall yn yr ystafell yn yr ysbyty gyda Mr Roberts.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harri Roberts yn yr ysbyty am fis yn hwy nag oedd ei angen

"Roedd yna gyfnodau o sawl diwrnod ar y tro pan oedd y pedwar ohonom ni just yn aros i bobl ddod o hyd i ofalwyr ac ati, er mwyn ein cymryd ni adref."

I Mr Roberts, roedd y profiad yn un rhwystredig.

"Roeddwn i'n teimlo ma' pethau fel ffisiotherapi ddim yn gallu bod cystal ag oeddwn i wedi gobeithio. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud llawer o bethau fy hun.

"Felly roedd o'n anodd iawn achos roeddwn i'n teimlo doeddwn i ddim yn gallu gwella mor gyflym ag y byddwn i fel arall."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y profiad effaith negyddol ar ffisiotherapi Mr Roberts, meddai

Mae recriwtio mwy o ofalwyr yn allweddol, meddai Mr Roberts.

"Mae isio i'r llywodraeth bwysleisio llawer iawn mwy gwerth y gofalwyr.

"Pe bai nhw'n gallu newid y system yna a chael pobl allan yn gynt, yna wrth gwrs bydda 'na lai yn blocio'r system."

'Sefyllfa amhosib'

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhybuddio fod y pandemig wedi cael effaith ar drosglwyddo cleifion ond bod diffygion oedd yn bodoli ymhell cyn Covid-19 wedi gwaethygu.

Mae'r adroddiad yn dweud bod diffyg gofal cymdeithasol yn golygu bod teuluoedd a gofalwyr di-dâl yn cael eu gadael mewn "sefyllfa amhosib".

Mae'n dweud bod y prinder staff yn arwain at brinder o ambiwlansys i ymateb i alwadau 999 gan eu bod yn ciwio y tu allan i adrannau brys yn aros i drosglwyddo cleifion mewn ysbytai heb gwelyau.

Mae'r pwyllgor yn galw am weithredu ar unwaith i fynd i'r afael â'r amser y mae cleifion yn sownd yn yr ysbyty ar ôl gwella o salwch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna broblemau gyda throsglwyddo cleifion cyn y pandemig, medd y pwyllgor

"Y tu ôl i bob achos o oedi wrth drosglwyddo gofal mae person nad yw wedi cael y gofal a'r cymorth sydd ei angen arnynt i'w galluogi i ddychwelyd adref, neu i symud i lety priodol," meddai'r Aelod o'r Senedd Russell George, cadeirydd y pwyllgor.

"Mae rhyddhau claf heb gymorth priodol yn gosod gofynion afresymol ar deuluoedd a gofalwyr di-dâl, yn peri risgiau i ddiogelwch yr unigolyn, ac yn cynyddu'r tebygolrwydd o dderbyn i'r ysbyty eto.

"Mae argyfwng y gweithlu gofal cymdeithasol a diffyg capasiti gwasanaethau gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn un o brif achosion oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty.

"Oni chymerir camau radical i ddiwygio'r ffordd y caiff gofal cymdeithasol ei ddarparu a'i wobrwyo ac y telir amdano, nid ydym yn debygol o weld unrhyw newid gwirioneddol," meddai.

'Annerbyniol'

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan sefydliadau ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

"Dyw rhannau sylweddol o'n capasiti ddim ar gael i ni," dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wrth y pwyllgor.

Dywedodd fod hynny wedi arwain at gleifion yn aros heb gymorth am "gyfnodau hir iawn o amser".

"Mae lefel y gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig i'r cleifion hynny yn annerbyniol," ychwanegodd Mr Killens tra'n addo gwelliannau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cleifion yn aros am "gyfnodau hir iawn," medd Mr Killens

"Mae yna broblem enfawr ar hyn o bryd gyda llif drwy ysbytai, a gellir gweld hynny'n weddol hawdd wrth fynd heibio rhai o'r adrannau damweiniau ac achosion brys a gweld yr ambiwlansys y tu allan - mae'n eithaf llwm ar hyn o bryd," meddai Nicky Hughes o Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru.

Dywedodd undeb y meddygon BMA Cymru fod oedi cyn rhyddhau cleifion yn cael effaith andwyol ar allu ysbytai i gynnig rhai triniaethau oherwydd prinder gwelyau.

Dywedodd y BMA fod y "broblem hir sefydlog a pharhaus" yn golygu bod dros 1,000 o lawdriniaethau'n cael eu canslo ledled Cymru bob mis.

Argymhellion

Mae'r adroddiad yn cydnabod ei bod yn anodd mesur maint llawn y broblem ar hyn o bryd oherwydd bod y canllawiau casglu data wedi eu newid gan Lywodraeth Cymru ar ddechrau'r pandemig.

Cyflwynwyd canllawiau newydd am ryddhau cleifion ac mae Llywodraeth Cymru ac Uned Gyflawni'r GIG wedi 'ailosod system' ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ym mis Mawrth 2022.

Mae'r adroddiad yn croesawu hynny ond yn dweud bod angen diweddariad ynglŷn â pha mor effeithiol y mae wedi bod, ac a ydy wedi llwyddo i leihau nifer y bobl sy'n sownd yn yr ysbyty am yn hirach nag sydd ei angen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae heriau'r gweithlu yn parhau i fod yn broblem ar draws pob sector," meddai'r llywodraeth

Mae'r pwyllgor wedi gwneud cyfanswm o 25 o argymhellion gan gynnwys:

  • Gwella recriwtio gofal cymdeithasol yn ogystal â chyflogau ac amodau gwaith gweithwyr gofal cymdeithasol;

  • Cyflwyno rhagor o hyfforddiant dementia i staff y GIG a allai ddod i gysylltiad â phobl sy'n byw gyda dementia;

  • Cyflwyno canllawiau newydd i fyrddau iechyd sy'n blaenoriaethu anghenion tai cleifion sydd ar fin cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

'Buddsoddi'n helaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, fel gweddill y DU, wedi gweithio'n hynod o galed i ymateb i ystod gymhleth o heriau parhaus ac arwyddocaol sy'n effeithio ar ryddhau pobl o'r ysbyty.

"Rydym yn buddsoddi'r swm uchaf erioed mewn gwasanaethau iechyd a gofal i fynd i'r afael â'r heriau hyn ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd adref cyn gynted â phosib gyda gofal priodol.

"Mae heriau'r gweithlu yn parhau i fod yn broblem ar draws pob sector, yn enwedig ym maes gofal cartref, ac rydym yn buddsoddi'n helaeth i gefnogi recriwtio a chadw staff gofal yng Nghymru."