Cymro wedi gorffen taith gerdded o amgylch y DU

  • Cyhoeddwyd
Chris Lewis a Kate BarronFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Croesodd Chris Lewis y llinell derfyn gyda'i bartner Kate Barron, ei fab Magnus, a'i gi

Mae cyn-awyrfilwr wedi cerdded 19,000 o filltiroedd o amgylch y Deyrnas Unedig gan godi £500,000 yn y broses.

Gwnaeth Chris Lewis, 43, o Abertawe dechrau ei daith o draeth Llangynydd ar 1 Awst 2017 - bron chwe blynedd yn ôl.

Croesodd Mr Lewis y llinell derfyn ddydd Sadwrn gyda'i bartner Kate Barron, ei fab Magnus, a'i gi Jet.

"Cymerodd yn hirach na wnes i erioed ddychmygu," dywedodd Chris a fu'n codi arian i elusen y lluoedd arfog SSAFA wrth gerdded.

Ychwanegodd: "Mae'r daith gerdded hon wedi adfer fy ffydd mewn dynoliaeth... Rwyf wir mor falch ac ar ben fy nigon."

'Daeth yn ffordd o fyw'

Penderfynodd Mr Lewis gerdded wedi iddo ddioddef orbryder ac iselder ar ôl gadael y fyddin.

Tair blynedd i mewn i'r dasg cwrddodd Mr Lewis â Ms Barron yn yr Alban a phenderfynodd hi adael ei swydd fel athrawes yn Llundain er mwyn ymuno â Mr Lewis ar y daith.

Yn 2022 croesawodd y pâr eu mab Magnus.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kate Barron y bydd yn deimlad rhyfedd i beidio cerdded pob diwrnod

"Rydw i wedi bod yn cerdded am bron tair blynedd nawr ac mae hyn wedi dod yn ffordd o fyw i ni," dywedodd Ms Barron

"Dwi'n credu bydd codi mewn cwpwl o ddiwrnodau heb y teimlad bod angen symud ymlaen ar hyd yr arfordir pob dydd yn deimlad rhyfedd.

"Dwi'n teimlo mor falch ohonon ni. Rydyn wedi gweithio'n galed ar hyn."

Dywedodd Mr Lewis: "Mae chwe blynedd yn amser hir a dwi'n credu mwy na unrhywbeth mae'n dod yn ffordd o fyw yn hytrach nag antur.

"Wnes i gyflawni'r hyn oeddwn am ei wneud ac mae hynny'n addewid gwnes i i fy hun amser hir yn ôl. Mae popeth yn wers os gadewch iddo fod. Peidiwch â gadael i bethau eich bwrw i lawr, dysgwch ohonynt a symudwch ymlaen.

Pynciau cysylltiedig