Cwpan Pêl-rwyd y Byd: Sri Lanka 56-68 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Phillipa Yarranton yn chwarae yn erbyn Sri LankaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Cymru trechu Sri Lanka mewn gornest agos er mwyn ennill lle yn y rownd nesaf

Mae Cymru wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghwpan Pêl-rwyd y Byd wrth drechu Sri Lanka brynhawn Sul.

Roedd Cymru ar y blaen yn y chwarter cyntaf o 17-11, a bu'n rhaid i'r tîm ymladd yn galed er mwyn cadw'r fantais yna, gan barhau i arwain o 30-22 erbyn hanner amser.

Llwyddodd Cymru i ddal eu tir yn y trydydd chwarter gyda'r sgôr yn sefyll ar 50-44.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Cymru'n gorffen yn drydydd yng Ngrŵp C, ac fe fyddan nhw'n wynebu'r tri thîm gorau o Grŵp D yn y rownd nesaf.

Bydd y tîm yn wynebu enillwyr y Cwpan Byd diwethaf, Seland Newydd, ddydd Llun, cyn mynd ymlaen i chwarae Uganda a Trinidad a Tobago.

Pynciau cysylltiedig