Carchar i ddyn o Ben-y-bont a ffilmiodd ymosodiad rhywiol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 25 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael dedfryd o 12 mlynedd o garchar a thair blynedd ar drwydded am dreisio un ddynes ac ymosod yn rhywiol ar ddynes arall.
Clywodd y llys bod Steffan Jones mewn un achos wedi twyllo'r ddioddefwraig drwy ei meddwi hi ac yna recordio'r ymosodiad ar ei ffôn i'w ddangos i'r person oedd yn rhannu fflat ag e.
Fe'i cafwyd yn euog o un achos o dreisio a dau o ymosod yn rhywiol.
Bu'n rhaid i'r ddioddefwraig wylio'r ffilm yn ddiweddarach yn y llys wedi iddo ei chyhuddo o ddweud celwydd - ac fe ddywedodd bod yr holl brofiad wedi'i gadael "yn gwbl ddi-werth".
Yn y llys fe ddarllenodd yr erlynydd Heath Edwards ddatganiad gan y ddioddefwraig a oedd yn nodi bod gwylio'r fideo wedi ailagor creithiau a bod yr ymosodiad wedi'i gadael heb "awydd i fyw".
"Fe fydd yr hyn a wnaeth i mi wastad yn effeithio ar fy mywyd," meddai.
Wedi digwyddiad arall dywedodd dynes arall mewn datganiad ei bod wedi'i gadael "yn gragen o'r person oedd hi o'r blaen" wedi'r ymosodiad.
Dywedodd y Barnwr David Wynn Morgan bod y fideo a ffilmiodd Jones yn "ofnadwy" a'i fod yn "ysglyfaethwr rhywiol, yn gelwyddgi ac yn narsisydd" er bod sawl geirda yn nodi fel arall.
Fe gafodd eich gweithredodd, ychwanegodd, effaith fawr ar eich dioddefwyr a gan eich bod wedi pledio'n ddieuog bu'n rhaid iddyn nhw ail-fyw y profiadau hynny.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Andrew Coakley, "Mae Jones yn dreisiwr ffiaidd sydd nawr yn y lle mae'n haeddu bod.
"Rwy'n canmol y dioddefwyr am eu dewrder yn lleisio'u cwynion gan sicrhau euogfarn eu hymosodwr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023