Llwyddiant Wrecsam yn hwb y 'tu hwnt i bob breuddwyd'

  • Cyhoeddwyd
Chris Evans - Cadeirydd Saith Seren
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na wefr yn Wrecsam yn ddiweddar, meddai Chris Evans

Mae llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cael effaith y "tu hwnt i bob breuddwyd" ar y ddinas, yn ôl rhai o fusnesau'r ardal.

Ar ôl llwyddo i sicrhau dyrchafiad mi fydd y clwb yn dechrau'r tymor newydd yn y Gynghrair Bêl-droed ddydd Sadwrn.

Tra bod perchnogion enwog y clwb - Ryan Reynolds a Rob McElhenney - wedi sicrhau cynulleidfa fyd-eang i'w stori, mae economi'r ddinas wedi elwa o'r profiad hefyd.

Mae rhai busnesau a noddwyr y clwb wedi derbyn llu o archebion newydd, ac mae busnesau Cymraeg y ddinas wedi gweld diddordeb yn cynyddu hefyd.

Yng nghanol y ddinas mae un o hoelion wyth y gymdeithas Gymraeg wedi elwa wrth i lygaid y byd droi tuag at lwyddiannau tîm y Cae Ras.

Saith Seren ydy canolfan Gymraeg y ddinas. Ar waliau'r bar mae lluniau o'r Cae Ras a chrysau Wrecsam wedi'u harwyddo gan dimau'r gorffennol, ochr yn ochr â baneri Cymru a phortreadau o Dafydd Iwan ac Elin Fflur.

"Mae 'na yn sicr wefr bositif o gwmpas Wrecsam ers i Ryan a Rob brynu'r clwb," meddai cadeirydd Saith Seren, Chris Evans.

"Mae yna fwy yn dod i mewn cyn ac ar ôl y gêm. Wnaethon ni ffrydio llawer o'r gemau'r tymor diwethaf, yn anffodus fydd yr opsiwn yna ddim gennym ni eleni ond bydd 'na dal llawer o gefnogwyr, a rhai cefnogwyr timau oddi cartref, fydd yn ymweld â Wrecsam.

"'Da ni wedi gweld nifer ohonyn nhw yn dod yma cyn ac ar ôl y gêm. Felly mae wedi bod yn hwb mawr i ni yn Saith Seren, ac yn hwb mawr i bobl Wrecsam yn gyffredinol."

Rhywbeth sy'n anoddach i'w fesur ydy effaith y perchnogion ar ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg. Ond mae Chris Evans yn gweld y cynnwrf ar stepen drws Saith Seren, ac yn ei waith bob dydd.

Mae'r defnydd o'r Gymraeg gan Reynolds a McElhenney "yn plesio yn fawr", meddai Mr Evans.

"Dwi'n athro mewn ysgol Gymraeg yn Wrecsam ac mae wedi cael effaith ar y plant, dwi'n meddwl, gweld rhywun fel Rob McElhenney yn dysgu'r Gymraeg."

'Dal i binsio ein hunain'

"Dydyn nhw [Ryan a Rob] ddim wedi bod mewn yn yr adeilad eto - maen nhw wedi bod tu allan yn ystod y pared diwedd tymor i ddathlu dyrchafiad.

"Roedden nhw tu allan ar fws yn canu Hen Wlad Fy Nhadau, ac roedd hwnna yn foment bythgofiadwy i fi a nifer o bobl eraill. Atgof i'w drysori.

"Mae beth maen nhw wedi gwneud i Wrecsam tu hwnt i bob breuddwyd. Da ni dal i binsio ein hunain i wneud yn siŵr bod o'n wir."

Ar gyrion y ddinas mae cwmni Net World Sports wedi agor warws newydd yn ddiweddar.

Mae buddsoddiad gwerth £60m yn Wrecsam gan y cwmni wedi dod ar adeg cyffrous i'r ddinas.

Roedd y cwmni eisoes yn bartner corfforaethol i'r clwb, ond mae'r galw am grysau Wrecsam ym mhedwar ban byd wedi golygu creu cytundeb newydd hefyd.

Mae Net World Sports bellach yn gyfrifol am ddosbarthu eitemau siop y clwb pêl-droed, ac yn anfon crysau yn gyson i gefnogwyr newydd yn America.

"Mae'r bartneriaeth rhyngom ni a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn meddwl lot i'r bobl sy'n gweithio yma," meddai Sam Williams, un o reolwyr gwerthiant Net World Sports.

Disgrifiad o’r llun,

Mae "mwy nag erioed" o grysau Wrecsam yn cael eu gwerthu, meddai Sam Williams

"Mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn cefnogi'r clwb ers iddyn nhw fod yn fach. Felly maen nhw'n browd iawn o'r ffaith bod gyda ni bartneriaeth gyda'n clwb lleol ni."

Fel llawer o noddwyr y clwb pêl droed, roedd Net World Sports yn cefnogi Wrecsam cyn y cyfnod llwyddiannus diweddar.

Felly mae'r ffocws sydd bellach ar y tîm yn plesio'r cwmnïau sydd wedi meithrin perthynas busnes trwy'r drwg a'r da.

Ychwanegodd Mr Williams: "Mae'r crysau yn gwerthu mwy nag erioed."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Roberts yn gobeithio ehangu ar werthiant y cwrw lleol dramor yn sgil y poblogrwydd

Tafliad carreg o Saith Seren mae bragdy Wrexham Lager, noddwyr hirdymor i'r clwb pêl-droed ac sydd wedi gorfod addasu i'r galwadau uchel am gwrw lleol. 

Newydd ddod 'nôl o America mae'r rheolwr gyfarwyddwr, Mark Roberts.

"Mae'n sicr wedi gwneud gwahaniaeth i'n gwerthiant," meddai Mr Roberts am lwyddiannau'r clwb.

Mae gwylwyr teledu yn yr UDA wedi sylwi ar y cwrw yn ystod y gyfres am Wrecsam ar Disney+.

Ai'r cam nesaf i'r bragdy ydy ehangu gwerthiant i America?

"Watch this space!" gwenodd. "Dwi wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith yno, ac felly'n gobeithio mynd i'r lefel nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd nai Mark, Joss Roberts, fod llwyddiannau'r clwb pêl-droed yn newyddion gwych i noddwyr lleol

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn arbennig, ac ers mis Ionawr, rydym wedi sylwi ar gynnydd mewn gwerthiant, ac mewn traffig i'n cyfryngau cymdeithasol.

"Dwi'n meddwl mai dyna'r positifrwydd sy'n cael ei greu drwy ennill y gynghrair. Yn y gogledd yn benodol, mae tafarndai yn archebu gyda ni rŵan.

"Ac mae'n teimlo fel bod Wrecsam yn dod yn ail dîm i bobl ledled Cymru. Felly maen nhw hefyd eisiau rhoi cynnig ar y cwrw, ar ôl ei weld ar y rhaglen ddogfen. 

"Maen nhw'n dod yn gefnogwyr Lager Wrecsam, sy'n wych i ni," meddai Joss.

Gallai busnesau eraill yn y gogledd, y tu hwnt i ffiniau Wrecsam, elwa hefyd yn ôl economegydd blaenllaw.

Dywedodd Dr Edward Thomas Jones, uwch-ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Bangor, fod y diddordeb byd-eang yn y clwb yn tynnu sylw at yr hyn mae'r ardal yn cynnig.

"Os 'da ni'n meddwl am faint yn fwy o bobl ar draws y byd sydd yn gwybod amdan yr ardal, mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau ar draws gogledd Cymru rŵan gwerthu i'r bobl yma. 

"Maen nhw wedi bod yn ei marchnata am ddim iddynt mewn ffordd, yn gwneud pobl yn ymwybodol am beth sydd gyda ni i gynnig yma yng ngogledd Cymru."