Y Brifwyl â 'rôl i'w chwarae' i hybu busnesau lleol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Stryd Fawr Pwllheli

Mae gan yr Eisteddfod "rôl i'w chwarae" i sicrhau bod busnesau lleol Llŷn ac Eifionydd yn ffynnu dros gyfnod y Brifwyl.

Dyna farn yr economegydd Dr Edward Jones, sy'n galw ar yr Eisteddfod i hyrwyddo busnesau'r ardal.

Yn ôl Dr Jones mae yna botensial i'r Eisteddfod roi hwb i economi'r cymunedau yn ardal y maes ym Moduan.

Dywed yr Eisteddfod bod yr "effaith economaidd ar yr ardal yn ystod yr wythnos yn unig yn enfawr, heb sôn am y cyfnod hyd at yr ŵyl".

O Gricieth i Bwllheli a Nefyn - mae cymunedau ar draws Pen Llŷn ac Eifionydd yn barod i groesawu'r torfeydd i Eisteddfod Genedlaethol 2023.

Mae'r Eisteddfod yn gyfle i rannu a mwynhau rhan bwysig o ddiwylliant Cymru - ac yn ôl Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor mae'n cynrychioli cyfle economaidd hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eisteddfodwyr yn tueddu i dreulio'r ŵyl ar y maes, medd Dr Edward Jones

"Mae yna botensial i'r Eisteddfod gael effaith bositif ar economi leol ardal Pen Llŷn ac Eifionydd," dywedodd.

"Gyda disgwyl dros 150,000 o bobl, os yw hyd yn oed canran o'r rheiny yn gadael y maes i grwydro trefi a phentrefi cyfagos bydd hynny'n hwb mawr.

"Ond ni'n gwybod bod pobl yn gallu aros ar y maes yn unig. Felly dwi'n galw ar yr Eisteddfod i hysbysebu'r hyn sydd ar gael yn yr ardal ehangach, gan gynnwys y busnesau, fel bod pobl yn gwybod bod y llefydd yma yn bodoli achos mae yna lot o fusnesau arbennig yn yr ardal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r baneri a'r fflagiau i fyny ym Mhwllheli ond mae gobaith na fydd y strydoedd mor wag â hyn yn ystod yr Eisteddfod

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fe ddywedodd Prif Weithredwr y Brifwyl, Betsan Moses, fod yr Eisteddfod yn "fwy na dim ond y maes ei hun".

"Dwi'n credu'r hyn sy'n bwysig i'w gofio yw nad wythnos yn unig yw'r Eisteddfod," meddai.

"Ry'n ni'n gweithio mewn ardal am ddwy flynedd felly mae 'na weithgareddau ar hyd yr ardal am ddwy flynedd sy'n codi arian ond sy'n rhoi nôl i'r gymuned.

"Ry'n ni hefyd yn defnyddio busnesau lleol o ran gwireddu'r maes a phob dim ac mae 'na weithwyr lleol yn gweithio gyda ni.

Disgrifiad o’r llun,

Betsan Moses: "Y llynedd yng Ngheredigion, roedd nifer o'r trefi gwyliau yn dweud eu bod nhw yn brysurach na'r norm"

"Ond wrth gwrs mae'r holl fysiau yn gallu mynd a phobl ar daith i Nefyn, Pwllheli, Aberdaron a Chaernarfon ac mae 'na nifer o Eisteddfodwyr yn treulio diwrnod neu ddau yn mynd ar hyd yr ardal.

"Y llynedd yng Ngheredigion, roedd nifer o'r trefi gwyliau yn dweud eu bod nhw yn brysurach na'r norm, felly mae 'na brawf bod yr Eisteddfod yn ei chyfanrwydd nid dim ond y maes ei hun."

Ychydig filltiroedd o faes yr Eisteddfod mae tref Pwllheli ble mae'r paratoadau ar gyfer y brifwyl wedi'u cwblhau.

Ond gyda'r llwybr swyddogol i'r maes yn cyfeirio Eisteddfodwyr i ffwrdd o'r dre', y cwestiwn nawr yw a fydd torfeydd yr Eisteddfod yn ymweld?

"Dwi'n wir yn gobeithio bydd pobl yn dod i Bwllheli," meddai Linda Thomas, sy'n rhedeg siop Felin Fwyd yn y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Linda Thomas yn gobeithio gweld digon o eisteddfodwyr yng nghanol Pwllheli yn ystod y dyddiau nesaf

"Dwi'n gobeithio bydden nhw'n dod i weld be sydd gennym ni i gynnig.

"Mae pobl wedi mynd i gymaint o drafferth i addurno'r lle felly mae'n werth gweld a dwi'n gobeithio bod nhw yn dod i gefnogi'r siopau yma."

Dros y ffordd o siop Ms Thomas mae busnes Lois Llywelyn. Dydy hi methu agor ei siop yn ystod yr Eisteddfod, ond mae'n dweud iddi elwa yn barod oherwydd y Brifwyl.

"Mae'r Eisteddfod wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar fy musnes i mewn ffordd cwbl annisgwyl," meddai.

"Nes i ddylunio sticer Eisteddfod i fynd ar ffenest y siop ac ar ôl rhoi o fyny gwnaeth busnesau eraill yn y dref ddechrau gofyn am un. Felly dwi 'di gallu gwerthu nhw i bobl ar draws Pwllheli sydd wedi dod â hwb mawr i'r busnes.

"Dwi'n gobeithio bydd pobl yn mentro draw yma o'r maes. Er dwi methu agor mae yna lot o fusnesau da yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymweliad yr Eisteddfod â'r fro eisoes wedi bod o fudd i fusnes Lois Llywelyn

Ar arfordir gogleddol Pen Llŷn, pellter tebyg o faes yr Eisteddfod â Phwllheli, mae Nefyn. Yna mae rheolwr cwmni Cwrw Llŷn hefyd yn gobeithio gweld busnesau'n elwa o'r Eisteddfod.

Dywedodd Iwan ap Llyfnwy: "Dwi wir yn gobeithio neith pobl fynd o gwmpas y lle, cefnogi'n tafarndai cefn gwlad ni, siopau lleol, prynu cynnyrch lleol, ymweld â'r ardal a gadael maes yr Eisteddfod ambell i ddiwrnod.

"Yn yr wythnos diwethaf byddwn i'n dweud bod ein harchebion ni wedi dyblu o leiaf. Heddiw, er enghraifft, mae tri fan llawn cegiau wedi mynd.

"Un sydd ar ddiwrnod arferol. Felly ni'n gobeithio am wythnos debyg eto wythnos nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n argoeli i fod yn wythnos dda i fragdy Cwrw Llŷn yn Nefyn, yn ôI Iwan ap Llyfnwy

Mewn ymateb i sylwadau Dr Jones, fe ddywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod wedi gweithio gyda chymunedau yn Llŷn, Eifionydd ac Arfon ers 2019, a bod "llu o weithgareddau lleol ar hyd a lled y dalgylch" wedi cyfrannu at yr economi leol.  

"Gyda hyd at 170,000 o ymwelwyr yn dod i'r Eisteddfod eleni, a nifer fawr ohonyn nhw'n aros yn ein cymunedau ar draws y fro, mae'r effaith economaidd ar yr ardal yn ystod yr wythnos yn unig yn enfawr, heb sôn am y cyfnod hyd at yr ŵyl," dywedodd.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda sefydliadau byd busnes lleol a chenedlaethol a'r Fenter Iaith leol er mwyn cyrraedd y gymuned fusnes er mwyn cynnig cyfleoedd iddyn nhw hyrwyddo eu busnesau i'n cynulleidfaoedd ni."