Mynediad am ddim i'r Eisteddfod i rai o deuluoedd Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
EisteddfodFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Bydd rhai o deuluoedd Gwynedd yn gallu hawlio tocynnau am ddim i faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £150,000 o gymorth ariannol er mwyn i deuluoedd incwm is y sir gael mynediad am ddim am ddiwrnod.

Y llynedd, bu honiadau fod "nifer o docynnau" am ddim i'r Brifwyl wedi'u hawlio gan bobl nad oedd yn gymwys i'w cael. Fe gafodd y mater "ei setlo" yn ddiweddarach.

Mae Cyngor Gwynedd wedi atgoffa pobl sy'n gymwys i wneud eu cais cyn gynted ag sy'n bosib.

Bydd teuluoedd cymwys yn gallu archebu tocyn "un tro" y bydd modd ei ddefnyddio ar gyfer diwrnod o'u dewis.

Fe fydd hefyd modd hawlio taleb bwyd gwerth £10 y pen i'w wario ar y maes, yn ôl Cyngor Gwynedd.

Pwy fydd yn gymwys?

Bydd tocynnau ar gael i'r rheiny sy'n byw yng Ngwynedd ac yn derbyn unrhyw un o'r canlynol:

  • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (sail incwm);

  • Cymhorthdal Incwm;

  • Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm);

  • Credyd Treth Plentyn (gydag incwm trethadwy blynyddol o ddim mwy na £16,190);

  • Credyd Pensiwn (Gwarant);

  • Cymorth o dan Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999;

  • Credyd Cynhwysol ar yr amod bod gan yr aelwyd incwm a enillir net blynyddol o ddim mwy na £7,400;

  • Unigolion sy'n derbyn gostyngiad Treth Cyngor (ar sail incwm).

Dywedodd llefarydd fod trefniadau yn cael eu gwneud i gynnig tocynnau am ddim i eraill o fewn y sir hefyd, gan gynnwys teuluoedd sy'n maethu, pobl ifanc sydd wedi gadael gofal, ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor hefyd yn cynnal tripiau i'r Eisteddfod i'w haelodau.

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y Brifwyl yn cael ei chynnal ar faes ym Moduan, Pen Llŷn yr wythnos nesaf

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, ei bod yn bwysig "rhoi cyfleon i bobl leol na fyddai'n gallu mynychu fel arall i ddod i fwynhau popeth sydd gan yr ŵyl i'w gynnig".

"Rydw i'n falch iawn ein bod wedi gallu cydweithio â'r Eisteddfod a Llywodraeth Cymru er mwyn estyn y croeso i amrediad o wahanol bobl i brofi diwylliant Cymraeg draddodiadol a chyfoes mewn awyrgylch gyffrous a chynnes," meddai.

"Byddwn yn annog pawb sy'n gymwys i gymryd mantais o'r cynnig gwerth chweil yma."

'Ddim yn digwydd yn aml'

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a'r Aelod Cabinet sy'n arwain ar raglen waith taclo tlodi ar draws Adrannau'r Cyngor, fod yr argyfwng costau byw wedi bod yn anodd i lawer o bobl yr ardal.

"Dwi'n gwybod bydd llawer o rieni a fyddai wrth eu bodd yn cael mynd a'u plant i'r wŷl ond yn ei chael yn anodd ei fforddio ar hyn o bryd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nia Jeffreys nad oedd y cyfle i brofi "cyfleon ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol" yr Eisteddfod ar y stepen ddrws yn digwydd yn aml

"Dydi cael Eisteddfod Genedlaethol - a'r holl gyfleon ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol - ar garreg ein drws ddim yn digwydd yn aml.

"Felly mae'n wych fod y cyfle yma ar gael i blant a phobl ifanc ar gael i brofi'r digwyddiad unigryw, hwyliog a Chymreig yma yn rhad ac am ddim.

"Dwi'n ffyddiog bydd cyfle fel hyn yn rhoi blas i'r rheiny na fyddai'n ystyried dod i'r Eisteddfod yn arferol ac yn creu cenhedlaeth o Eisteddfodwyr y dyfodol."

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am docyn drwy'r cyngor yw 12:00 ddydd Iau 3 Awst.