Cyngres Europa: Hwlffordd 1-1 B36 Torshavn

  • Cyhoeddwyd
Kai WhitmoreFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Hwlffordd yn dda gan fynd a'r gêm i amser ychwanegol

Mae Hwlffordd allan o Ewrop ar ôl colli yn erbyn B36 Torshavn o Ynysoedd y Ffaro yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.

Ar ôl colli o 2-1 oddi cartref yn y cymal cyntaf, roedd Hwlffordd yn gwybod y byddai'n rhaid ennill yn Stadiwm Dinas Caerdydd os am unrhyw obaith o gyrraedd y rownd nesaf.

Roedden nhw eisoes wedi bod mewn sefyllfa debyg yn y rownd gyntaf yn erbyn Shkendija o Ogledd Macedonia, gan ennill yng Nghaerdydd ar giciau o'r smotyn er iddyn nhw golli'r cymal cyntaf.

Hannes Agnarsson o Torshavn gafodd gyfle cyntaf y noson ond fe wnaeth golwr Hwlffordd, Zac Jones, arbed yn gyfforddus.

Amddiffynnodd Hwlffordd yn dda, ac fe darodd Kai Whitmore y bêl dros y trawst o gic gornel, cyn i Martell Taylor-Crossdale weld peniad yn mynd heibio i'r gôl.

Ben Fawcett sgoriodd gôl agoriadol y gêm yn yr ail hanner, gan daro ar y postyn pellaf yn dilyn cyffyrddiad gan Tyrese Owen.

Fe wnaeth hyn roi'r ddau dîm yn hafal ar draws y ddau gymal, felly aeth y gêm i amser ychwanegol.

Ond yn anffodus methodd y tîm o Gymru â dal gafael ar eu mantais, gyda Jann Benjaminsen yn cipio'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr gyda chic o'r smotyn dadleuol, ar ôl i'r dyfarnwr benderfynu bod Fawcett wedi llawio.

Y sgôr terfynol oedd 1-1 gyda Hwlffordd yn colli 2-3 ar draws y ddau gymal.

Mae'r golled yn golygu bod pob un o dimau Cymru allan o gystadlaethau Ewropeaidd eleni bellach, gyda'r Seintiau Newydd yn cael eu curo nos Fawrth gan Swift Hesperange o Lwcsembwrg.

Yn rownd gyntaf y gystadleuaeth roedd Pen-y-bont wedi colli i FC Santa Coloma o Andorra, a Chei Connah wedi eu trechu gan KA Akureyri o Wlad yr Ia.

Gyda'r un o glybiau Cymru wedi llwyddo i fynd heibio'r ail rownd ragbrofol, mae hefyd bron yn sicr bellach y bydd cynghrair y Cymru Premier yn colli un o'u pedwar safle Ewropeaidd ar gyfer tymor 2025/26.

Pynciau cysylltiedig