Cau canolfan monitro carthion am Covid wedi deufis

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dyn yn arbrofi ar ddŵr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd monitro carthion yn un dull gafodd ei ddefnyddio yn ystod y pandemig i dracio Covid

Mae cynllun i fonitro carthion yng Nghymru er mwyn dod o hyd i olion haint Covid wedi dod i ben ddeufis ar ôl i ganolfan newydd gael ei agor.

Cafodd y Rhaglen Monitro Dŵr Gwastraff Cenedlaethol ei ehangu i gynnwys canolfan ym Mangor ym mis Mai ond bellach, mae'n cael ei gau gyda thua 20 o swyddi'n cael eu colli.

Dywedodd Prifysgol Bangor eu bod yn siomedig am y penderfyniad i ddod â'r prosiect - a oedd yn costio £4.4m y flwyddyn - i ben.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn wynebu dewisiadau ariannol anodd.

Roedd monitro carthion yn un dull cafodd ei ddefnyddio yn ystod y pandemig i dracio Covid, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu'r cynllun ers 2020.

'Angen yr arbenigedd'

Wrth agor y ganolfan newydd ym mis Mai dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Rwy'n falch iawn ein bod, trwy'r cyfleuster newydd anhygoel a'r tîm yma, yn gallu defnyddio'r hyn rydym wedi'i ddysgu i gael mewnwelediad amhrisiadwy a fydd yn ein helpu i ymateb i afiechydon trosglwyddadwy eraill nawr ac yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn agor y ganolfan newydd ym mis Mai

Gwnaeth y Llywodraeth dorri'r cyllid i'r prosiect ddeufis yn ddiweddarach ar 24 Gorffennaf.

Dywedodd Prifysgol Bangor: "Rydym yn naturiol yn siomedig bod ein gwaith gyda'r Rhaglen Monitro Dŵr Gwastraff Cenedlaethol i Gymru wedi dod i ben, ond rydym yn diolch i gydweithwyr o Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am eu cefnogaeth yn y gorffennol."

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, AS Plaid Cymru: "Os y byddwn mewn sefyllfa eto lle mae clefyd yn lledaenu ar draws Cymru, byddwn angen eu harbenigedd i fonitro lledaeniad y clefyd."

Daeth monitro carthion am Covid i ben yn 2022 yn Lloegr.

'Sefyllfa ariannol anodd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae monitro dŵr gwastraff wedi rhoi data gwell a gwybodaeth i ni yn ystod y pandemig ochr yn ochr â'n systemau gwyliadwriaeth arferol.

"Rydym wedi cefnogi'r Canolfan Ymchwil Dŵr Gwastraff ac rydym yn diolch i'r tîm am eu cefnogaeth a'u gwaith wrth ddatblygu'r dechnoleg.

"Rydym yn wynebu sefyllfa ariannol hynod o anodd eleni - yr anoddaf ers datganoli - ac mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd i leddfu'r pwysau eithriadol ar y gyllideb."