Maes yr Eisteddfod 'yn anhygoel' er disgwyl gwynt a glaw

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Betsan Moses
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r maes yn un "anhygoel" yn ôl y prif weithredwr, Betsan Moses

Mae prif weithredwr yr Eisteddfod yn hyderus y bydd y maes ym Moduan yn gallu gwrthsefyll y tywydd garw sydd i'w ddisgwyl ar ddechrau'r Brifwyl.

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd Betsan Moses fod y paratoadau munud olaf yn Llŷn ac Eifionydd yn "dod at ei gilydd".

Oherwydd costau byw uwch, dywedodd fod rhai newidiadau wedi eu cyflwyno ond y bydd y maes yn "teimlo'r un peth ag arfer".

Mae misoedd o waith wedi bod ar y trefniadau teithio, meddai, ac fe wnaeth ymateb i alwad am hyrwyddo busnesau lleol gan ddweud fod y Brifwyl "yn rhoi 'nôl i'r gymuned".

Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym dros rannau o Gymru ddydd Sadwrn, gan gynnwys yn Llŷn ac Eifionydd.

Mae disgwyl glaw nos Wener a ddydd Sadwrn hefyd.

Ond, roedd Betsan Moses yn hyderus fod y maes "yn anhygoel".

"Ar waetha'r glaw mae'n faes sy'n sychu'n gyflym iawn. Mae'n faes agored a'r tir o fewn ychydig oriau yn gallu sychu.

"Felly, hyd yn oed os cawn ni law, dros nos fe fydd y maes yn sychu."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhywfaint o fwd i'w weld wrth i'r paratoadau munud olaf gael eu cwblhau fore Gwener

"Mae'n faes hyfryd a hwylus," ychwanegodd.

"Mae'r 48 awr ola'n wastad yn un ble mae pob dim yn dod at ei gilydd.

"Paratoadau munud ola sy'n digwydd nawr ond mae pob dim yn ei le a thwtio yn digwydd heddiw."

'Gorfod gwneud newidiadau'

Gyda chostau byw uwch yn effeithio ar bawb dros y flwyddyn ddiwethaf, dydy'r Eisteddfod ddim yn eithriad.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y maes yn teimlo'r un peth ag arfer er gwaethaf rhai newidiadau oherwydd costau uwch, dywedodd Betsan Moses

Dywedodd Betsan Moses fod costau "wedi mynd drwy'r to".

"Mae'n anodd iawn ar y diwydiant gwyliau ar hyn o bryd, felly ry'n ni wedi edrych ar ein blaenoriaethau ni a gorfod bod yn greadigol er mwyn gwireddu ein gobeithion ni," dywedodd.

"Ond rwy'n credu pan ddewch chi i'r maes ei fod e'n teimlo'r un peth ag arfer, ond ry'n ni wedi gorfod gwneud newidiadau."

"Ry'n ni hefyd yn ymwybodol bod costau yn anodd ar bobl i ddod mewn felly ro'n ni'n benderfynol ein bod ni'n cadw'r tocyn mor isel â phosib," ychwanegodd.

"Felly'r tocyn bargen cynnar yr un ag yr oedd e 10 mlynedd yn ôl.

"Ry'n ni hefyd wedi bod yn cydweithio gyda'r cyngor sir i sicrhau bod teuluoedd ar incwm isel yn gallu mynychu'r maes i gael y profiad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae arwyddion o groeso wedi eu gosod ar hyd yr ardal, gan gynnwys yr un yma ym Motwnnog

Wrth ymateb i'r galw ar yr Eisteddfod i hyrwyddo busnesau'r ardal, dywedodd Betsan Moses fod y Brifwyl yn para mwy nag wythnos.

"Ry'n ni'n gweithio mewn ardal am ddwy flynedd felly mae 'na weithgareddau ar hyd yr ardal am ddwy flynedd sy'n codi arian ond sy'n rhoi nôl i'r gymuned.

"Ry'n ni hefyd yn defnyddio busnesau lleol o ran gwireddu'r maes a phob dim ac mae 'na weithwyr lleol yn gweithio gyda ni.

"Ond wrth gwrs mae'r holl fysiau yn gallu mynd â phobl ar daith i Nefyn, Pwllheli, Aberdaron a Chaernarfon ac mae 'na nifer o Eisteddfodwyr yn treulio diwrnod neu ddau yn mynd ar hyd yr ardal.

"Y llynedd yng Ngheredigion, roedd nifer o'r trefi gwyliau yn dweud eu bod nhw yn brysurach na'r norm, felly mae 'na brawf bod yr Eisteddfod yn ei chyfanrwydd nid dim ond y maes ei hun."

Mae arwyddion wedi eu gosod ar gyfer cyrraedd maes yr Eisteddfod ac mae pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle'n bosib.

Wrth holi Betsan Moses ynglŷn â'r trefniadau hynny, dywedodd: "Ry'n ni wedi cydweithio gyda'r heddlu a'r cyngor sir lleol a'r arbenigwyr trafnidiaeth gyda misoedd o waith wedi mynd i wireddu'r cynllun.

"Yr hyn ry'n ni'n gofyn i bawb yw i ddilyn yr arwyddion, peidiwch â dilyn Google! Dyna sy'n bwysig am fod yna gymorth ar hyd y daith i sicrhau bod y llif yn parhau."

Mae'r maes eleni wedi ei leoli ym Moduan rhwng Nefyn a Phwllheli, a'r cyfan yn dechrau ar ddydd Sadwrn 5 Awst ac yn cloi ar nos Sadwrn 12 Awst.

Pynciau cysylltiedig