Galw am oedi cyn cyflwyno treth ar dwristiaid

  • Cyhoeddwyd
traeth sir benfroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ychydig dros 2% o ymwelwyr sy'n cyrraedd Prydain o dramor, sy'n dod i Gymru

Mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru i oedi cyn cyflwyno treth dwristiaeth ar ôl i ystadegau newydd ddangos fod llai o ymwelwyr o dramor yn dod i Gymru o gymharu â rhannau eraill o Brydain.

Yn ôl ffigyrau diweddara'r llywodraeth roedd yna 33% o ostyngiad yn yr ymweliadau â Chymru o'i gymharu â 2019.

7% oedd y gostyngiad yn yr Alban, a 26% yn Llundain.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod trethi o'r fath yn gyffredin ar draws y byd ac yn cynrychioli canran fach o wariant ymwelwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rowland Rees Evans yn credu fod ymwelwyr yn fwy gofalus gyda'u harian y dyddiau yma

"Maen nhw'n dal i ddod ond maen nhw'n chwilio am rywbeth am lai o arian," meddai Rowland Rees Evans, perchennog Parc Penrhos yn Llanrhystud.

Mae'n poeni fod hynny'n rhoi mwy o bwysau ar fusnesau sydd eisoes yn gorfod ymdopi gyda chostau cynyddol tanwydd a bwyd.

"Mae pawb yn pryderu am yr economi. Mae cyfraddau llog newydd godi eto chwarter un y cant, mae ynni wedi dod lawr ar hyn o bryd ond ydy e'n mynd i godi eto yn y gaeaf?

"Erbyn y gaeaf falle welwn ni fwy o bobl yn dod allan o'r diwydiant. Mae rhai wedi dod allan yn barod dim ond achos bod nhw methu fforddio rhedeg y busnes."

Mae bob ymwelydd yn cyfri', ond ychydig dros 2% o ymwelwyr sy'n cyrraedd Prydain o dramor, sy'n dod i Gymru.

"Dwi ddim yn gweld gymaint o dramor ag arfer," meddai Alun Davies, rheolwr Rheilffordd y Graig yn Aberystwyth.

Mae'n teimlo bod angen marchnata Cymru'n well.

"Dim ond llywodraeth all 'neud hynny dramor. Allwn ni ddim a neud hynny ein hunain," meddai.

Er hynny, mae'n dweud bod mis Gorffennaf eleni yn cymharu'n ffafriol â'r llynedd o ran niferoedd ymwelwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lloyd Alban yn pryderu am gostau ynni

Mae Lloyd Alban, perchennog Fferm Fantasy yn cytuno. Nid diffyg ymwelwyr yw'r broblem iddyn nhw 'chwaith.

"Dyw hi ddim wedi bod yn rhy ddrwg ond fy mhroblem i yw'r costau sy'n codi o hyd," meddai.

"Costau trydan yw'r peth gwaetha'. Mae costau bwyd hefyd wedi codi tamaid bach ond mae costau ynni yn wael."

'Angen cydweithio gwell'

Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach mae'r cynnydd yn eu costau a'r angen i fod yn gystadleuol yn gwasgu busnesau.

Maen nhw am i lywodraethau Cymru a San Steffan wneud mwy i helpu.

"Ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl y treth twristiaeth," meddai Ben Francis o'r ffederasiwn.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ben Francis mae angen "cydweithio gwell rhwng llywodraethau i ddatblygu a marchnata brand Cymru"

"Dy'n ni ddim yn meddwl taw nawr yw'r amser i gyflwyno treth newydd pan mae nifer yr ymwelwyr yng Nghymru wedi lleihau llawer ers 2019.

Mae'r ffederasiwn hefyd yn dweud bod angen cydweithio gwell rhwng llywodraethau i ddatblygu a marchnata brand Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol bod heriau tymor byr a thymor hir i'r sector twristiaeth o hyd ac yn parhau i weithio'n agos gyda'r diwydiant.

"Rydym yn canolbwyntio ar ledaenu buddion twristiaeth ledled Cymru, gan annog mwy o wariant drwy'r flwyddyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi datgan pryder fod gan Gymru "broffil cymharol fach dramor"

Wrth ymateb i'r alwad i oedi cyflwyno treth dwristiaid, mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn gyffredin ar draws y byd ac yn cynrychioli canran fach o wariant ymwelwyr.

Os caiff y cynllun ei basio gan y Senedd yna awdurdodau lleol fydd yn penderfynu a ydyn nhw am gyflwyno'r doll yn seiliedig ar anghenion eu hardaloedd.