Cyhoeddi enw dyn fu farw ar ôl mynd ar goll o arfordir Môn

  • Cyhoeddwyd
Gareth BowenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd corff Gareth Bowen, 46, ei ganfod ar draeth Rhoscolyn, Ynys Môn

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai corff Gareth Bowen, 46, gafodd ei ddarganfod ar draeth Rhoscolyn yn Ynys Môn ddydd Mercher.

Fe gafodd y dyn o Frychdyn yn Sir y Fflint ei ysgubo allan i'r môr o greigiau Bae Trearddur nos Sadwrn 29 Gorffennaf.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad toc wedi 19:00.

Roedd hofrennydd a badau achub yr RNLI yn rhan o'r chwilio dros y penwythnos cyn dod â'r ymgyrch i ben.

Dywedodd yr heddlu y byddan yn parhau i weithio'n agos gyda'r crwner a bod teulu Mr Bowen wedi cael gwybod.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Gibson: "Rydym yn estyn ein cydymdeimlad at deulu'r dyn yn ystod y cyfnod anodd hwn."