Rhybudd am gau rhannau o gamlesi yn sgil toriadau
- Cyhoeddwyd
Fe allai toriadau cyllidebol arwain at gau rhannau o'r rhwydwaith camlesi, yn ôl y corff sy'n eu cynnal a'u cadw.
Bydd y Canal and River Trust (CRT) - a'u cangen Gymreig, Glandŵr Cymru - yn cael 40% yn llai o arian cyhoeddus gan Lywodraeth y DU o 2027 ymlaen.
Mae'r sefydliad yn rhedeg pedair camlas yng Nghymru, yn ogystal â Thraphont Pontcysyllte ger Llangollen, sy'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Dywedodd AS Plaid Cymru dros y gogledd, Llyr Gruffydd, bod y penderfyniad yn un "byr dymor" fydd yn costio mwy i'r pwrs cyhoeddus yn y pendraw.
Ond yn ôl Llywodraeth y DU, roedd y CRT yn gwybod bod gofyn iddyn nhw ddod o hyd i ffynonellau ariannol eraill.
'Cynnal a chadw sylweddol'
Mae'r draphont o waith Thomas Telford ym Mhontcysyllte dros 200 oed ac yn un o leoliadau mwyaf adnabyddus y rhwydwaith camlesi ar draws y DU.
Cafodd ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd yn 2009 ac mae 350,000 o bobl yn ymweld â'r safle yn flynyddol.
Oherwydd ei statws â'i oed, mae edrych ar ôl adeiladau fel hwn sy'n rhan o'n camlesi yn heriol, yn ôl Mark Evans, cyfarwyddwr Glandŵr Cymru.
"Mae angen gwaith cynnal a chadw sylweddol ar ein strwythurau i gyd, ac mae hynny'n costio, gyda'r costau'n cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.
"Yma rydym ni ar uchder o 126 troedfedd felly pan rydym yn gweithio yma mae'r rhaid ystyried yr holl gyfyngiadau o ran treftadaeth.
"Ac mae'r amgylchedd yn hollbwysig i ni yma hefyd. Felly mae 'na gostau ychwanegol i ni eu hystyried."
'Bygwth degawdau o waith'
Mae'r cyllid y bydd Llywodraeth y DU yn ei roi i'r CRT rhwng 2027 a 2037 tua £400m yn llai, sy'n gwymp o 40% mewn termau real, yn ôl yr ymddiriedolaeth.
Tra'u bod yn dweud y byddan nhw'n ceisio lliniaru effaith y toriadau, mae prif weithredwr y corff, Richard Parry, yn dweud y gallai rhannau o'r rhwydwaith orfod cau yn sgil hyn.
"Mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu'r incwm rydym yn ei gael drwy roddion, buddsoddiadau a ffynonellau cyllidebol eraill, ac rydym hefyd yn cynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy'n ein helpu gyda'r gwaith," meddai.
"Ond hyd yn oed gyda hynny, mae penderfyniad y llywodraeth yn gadael bwlch sylweddol yn ein cyllid ac yn peryglu degawdau o waith cynnal ac adfer y camlesi hanesyddol hyn, sy'n agos i galon nifer o bobl."
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, sy'n cynrychioli rhanbarth y gogledd ar ran Plaid Cymru, bod angen buddsoddi yn y camlesi yn hytrach na thorri'u cyllid.
"Oes, mae 'na bwysau ar y llywodraeth hefyd - dwi'n derbyn hynny," dywedodd.
"Ond dwi'n meddwl bod o ddim yn cydnabod yn ddigonol y cyfraniad economaidd, y cyfraniad i iechyd a lles y cyhoedd, a'r cyfraniad amgylcheddol mae'r camlesi yma yn ei wneud.
"Ac felly… buddsoddiad sydd angen ei roi, yn hytrach na'i weld e fel gwariant, achos mae'n dod ag arbedion yn ei sgil e."
Un sy'n byw yng nghysgod Pontcysyllte yw'r Cynghorydd Elfed Morris, sy'n aelod o Gyngor Cymuned Llangollen Wledig.
Mae o'n gweld anfanteision byw ochr-yn-ochr â Safle Treftadaeth y Byd - gan gynnwys y problemau parcio sydd ar stepen ei ddrws.
Ond er hynny, mae'n cydnabod pwysigrwydd y camlesi ac dweud na wnaiff torri eu cyllideb unrhyw les.
"Mae o'n mynd i fod yn broblem aruthrol ar draws y wlad i gyd, ond dwi ddim yn meddwl wneith o effeithio gormod arnon ni yma [ym Mhontcysyllte] - felly dwi'n cael ar ddeall," meddai.
"Ond mae'r gamlas yn bwysig ar draws y wlad i gyd, a dwi'n meddwl bod o'n mynd i effeithio yn arw iawn."
'Rhaid symud at ffynonellau amgen'
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU:
"Ers i'r Ymddiriedolaeth gael ei chreu yn 2012, rydym wedi egluro'n ddiamwys iawn y byddai'n rhaid iddi symud fwyfwy tuag at ffynonellau cyllidebol amgen.
"Hyd yma rydym wedi rhoi £550m iddyn nhw a byddwn yn eu cefnogi gyda £590m arall rhwng nawr a 2037."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd1 Awst 2017