Hillview: Atal cofrestriad ysbyty iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
HillviewFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yn y gorffennol mae ymchwiliadau BBC Cymru wedi datgelu defnydd gormodol o ataliadau ac arfer gwael yn Ysbyty Hillview

Ni fydd gofal iechyd meddwl yn cael ei ddarparu i ferched yn eu harddegau mewn ysbyty preifat yn sgil atal cofrestriad y gwasanaeth.

Mae hyn yn dilyn arolygiad dirybudd o Ysbyty Hillview yng Nglynebwy, Blaenau Gwent gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Nododd yr adroddiad bryderon mewn sawl maes, gan gynnwys diffyg cofnodion manwl ynghylch y defnydd o ataliadau ar gleifion.

Dywedodd y cwmni, Elysium Healthcare, sy'n gyfrifol am Hillview ers Medi 2022, mai diogelwch a lles eu cleifion oedd eu "blaenoriaeth pennaf".

'Effaith andwyol ar les y cleifion'

Yn y gorffennol mae ymchwiliadau BBC Cymru wedi datgelu defnydd gormodol o ataliadau ac arfer gwael yn Ysbyty Hillview.

Gwadodd y perchnogion blaenorol, Regis Healthcare, bob honiad gan ddweud bod Hillview yn un o "wasanaethau mwyaf llwyddiannus" y Deyrnas Unedig.

Er gwaetha'r perchnogion newydd, dywedodd AGIC ei fod wedi parhau i gysylltu ag Elysium Healthcare i sicrhau bod "cynnydd yn cael ei wneud wedi canfyddiadau'r arolygiad blaenorol".

Fis mis Ionawr rhoddodd Elysium Healthcare rybudd y byddai'r gwasanaeth i'r glasoed yn dod i ben ymhen deufis ac y byddai cleifion yn cael eu symud i leoliadau eraill.

Eu bwriad yw agor gwasanaeth oedolion ar y safle.

Dywedodd AGIC ei fod yn poeni am y broses o symud cleifion ac yn sgil hynny fe gafodd arolygiad ei gynnal fis Mai tra bod pedwar claf o Loegr yn parhau i dderbyn gofal yn yr uned.

Yn dilyn hyn dywedodd AGIC fod "pryderon nad oedd y gwasanaeth yn diwallu anghenion gofal yn unol â gofynion ei gofrestriad, ac roedd hyn yn cael effaith andwyol ar les y cleifion".

Mae'r pryderon yn cynnwys diffyg cofnodion manwl ynghylch faint o weithiau a hyd yr ataliadau corfforol ar gleifion, ac anghenion eraill fel diffyg cyfleoedd i fynd allan i gael awyr iach.

Roedd angen gwella cynlluniau asesu risg tân ac roedd diffyg hyfforddiant ymhlith staff mewn technegau achub bywyd.

'Croesawu'r broses o graffu'

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr AGIC, fod y methiannau'n "siomedig iawn".

"Roedd nifer a difrifoldeb y materion a oedd yn gysylltiedig â diogelwch cleifion yn destun pryder a phenderfynodd AGIC y dylid atal cofrestriad y lleoliad ar frys.

Alun Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Jones fod y methiannau'n "siomedig iawn"

"Er bod y lleoliad wedi rhoi'r gorau i ddarparu gofal i bobl ifanc, byddwn yn parhau i ymgysylltu ag Elysium Healthcare mewn perthynas â'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd.

Nododd yr arolygiaeth fod rhywfaint o welliant wedi'i wneud ers arolygiadau blaenorol yn 2021 a 2022.

Roedd y rhain yn cynnwys diogelu ac ymdrin â chwynion, safon cynlluniau gofal cleifion a staff yn cydweithio a chefnogi urddas a phreifatrwydd lle bo modd.

Dywedodd llefarydd ar ran Elysium Healthcare eu bod yn croesawu'r broses o graffu gan AGIC.

"Nid yw Hillview bellach yn darparu gwasanaethau i bobl iau ac ar hyn o bryd mae'n mynd trwy broses o adnewyddu'r lle'n llwyr wrth i ni baratoi i ailagor fel gwasanaeth oedolion yn unig i bobl o Gymru.

"Mae Hillview yn parhau i fod yn ysbyty iechyd meddwl y mae mawr ei angen yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen at ddarparu cymorth gwell a mwy arbenigol i bobl yn y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd canfyddiadau'r adroddiad "o ddifrif".

"Mae gennym weithdrefnau cadarn yn eu lle i fonitro a sicrhau ansawdd a diogelwch ysbytai iechyd meddwl annibynnol ac mae'r gwasanaeth hwn bellach wedi dod i ben."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Russell George AS ei fod yn "hynod o bryderus fod y methiannau hyn wedi'u nodi o ganlyniad i'r arolygiad".

"Rhaid i Lafur ganolbwyntio nawr ar sicrhau bod yr uned yn gallu mynd i'r afael â'r materion hyn ac yn gallu ailymgeisio i gofrestru, i sicrhau bod y lefel orau o ofal ar gael i gleifion ysbyty Hillview yn y dyfodol."

Pynciau cysylltiedig