Cymro 62 oed yn paratoi i hwylio'r byd heb stopio

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Hughes fyddai'r ail Gymro yn unig i hwylio o amgylch y byd heb stopio

Mae dyn o Geredigion yn anelu i fod yr ail Gymro yn unig i hwylio o amgylch y byd heb stopio - a hynny ar ei ben ei hun.

Mae Dafydd Hughes, 62, o Dal-y-bont ger Aberystwyth wedi cofrestru i gymryd rhan yn y Global Solo Challenge (GSC) y flwyddyn nesaf.

Mae'r ras yn mynd â hwylwyr o amgylch y byd, gan ddechrau a gorffen ym mhorthladd A Coruña yng ngogledd Sbaen.

Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr hwylio tua'r de a "gadael rhanbarth yr Antarctig a'r holl iâ" gan basio tri phrif benrhyn cyn gwneud eu ffordd i'r llinell derfyn.

Y tri phenrhyn yw'r Penrhyn Gobaith Da yn Ne Affrica, Cape Leeuwin yn Awstralia a'r Cabo de Hornos yn Ne America.

Yr hwyliwr arall o Gymru i gwblhau taith unigol o gwmpas y byd yw Alex Thomson o Fangor.

Yn ras y Vendee Globe yn 2017, ef oedd y Prydeiniwr cyflymaf i hwylio o amgylch y byd ar ei ben ei hun, yn ddi-stop a heb gymorth.

Fe gymerodd hi ychydig o dan 75 o ddiwrnodau iddo mewn cwch hwylio Hugo Boss.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwch Dafydd - Bendigedig - wedi cael ei adnewyddu ar ôl bod ar dir sych ers 20 mlynedd

Mae'r her yn debygol o gymryd dros 200 o ddiwrnodau i Dafydd, mewn cwch sydd newydd ddychwelyd i'r dŵr ar ôl bod ar dir sych ers bron i 20 mlynedd.

Fe brynodd y cwch gan gyn-feddyg teulu o Aberaeron, Jonathan Price-Jones, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel "y doctor cychod".

Mae Dafydd wedi bod yn gweithio ar y cwch ers dwy flynedd i'w wneud yn addas eto ar gyfer y môr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Dafydd lawer o gefnogaeth wrth iddo baratoi ar gyfer y ras

Dywedodd Dafydd: "Mae hi [y cwch] wedi cael refit llawn.

"Roedd hi'n rhacs pan brynais i hi ac mae hi bellach wedi cael ei hailweirio'n llwyr, ei phlymio'n llawn, tanciau newydd, mastiau newydd, mae'r dec yn hollol newydd, mae'r rigiau yn newydd a'r hwyliau hefyd - cwch newydd yw hi yn y bôn."

Sparkman and Stephens 34 troedfedd yw model y cwch, a Bendigedig yw'r enw mae Dafydd wedi'i roi iddo - y "cwch delfrydol ar gyfer y gwaith", meddai.

Roedd Dafydd yn rhan o griw'r morwr chwedlonol Syr Robin Knox-Johnston a hwyliodd o amgylch y byd yn 2007.

Ond mae ymgymryd â'r daith ar ben ei hun yn her ar lefel hollol newydd.

Ofn ac ymrwymiad

"Pan ddarllenais i am y ras am y tro cyntaf, llenwais y ffurflen gais o fewn awr a'i hanfon mewn," meddai.

"Yna feddyliais i, 'O diar, beth ydw i wedi'i wneud nawr?', ond dwi ddim wedi colli'r ymrwymiad ers y diwrnod hwnnw.

"Yr ofn mwyaf sydd gen i yw ton yn torri ar ochr y cwch. Bydd hynny'n eich rholio chi drosodd.

"Y tonnau mawr i lawr yng nghefnfor y de, maen nhw'n gallu bod yn 60 neu 70 troedfedd. Ond maen nhw'n hir iawn felly chi'n gallu syrffio lawr.

"Ond os cewch chi don yn torri ar ochr y cwch, dyw hynny ddim yn beth da iawn!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwch wedi ei adnewyddu a'i ddychwelyd i'r harbwr yn Aberaeron

Ar ôl dwy flynedd o adnewyddu Bendigedig mae wedi ei osod yn ôl yn y dŵr yn harbwr Aberaeron.

Bydd Dafydd nawr yn dod i'w adnabod ar y môr, cyn ymgymryd â phrawf a fydd yn caniatáu iddo gymryd rhan yn y GSC.

"Maen nhw'n ei alw fe'n rhagbrawf - mae'n rhaid i fi wneud 2,000 o filltiroedd ar ben fy hun ar y cwch," meddai.

"Dewisais farc rhithiol yng nghanol Môr yr Iwerydd i wneud hyn, a bydd yn cymryd 16 i 18 diwrnod i mi, dwi'n meddwl.

"Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi a'r cwch yn gyfforddus gyda'ch gilydd a dy'ch chi ddim yn mynd i golli'ch marblis yn llwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Sian Campion - chwaer Dafydd - ddim yn synnu fod ei brawd wedi cofrestru ar gyfer y ras gan ei fod yn hoff o her

Dywedodd Sian Campion, chwaer Dafydd, fod ei brawd wastad wedi chwilio am heriau ac yn hoff o "adrenaline rush".

"Roedd o'n keen ar Formula 1 ac roedd ganddo go-kart ei hun ac yn mynd i rasys, roedd e wastad ar ei feic neu'n dringo coed, roedd ganddo ryw ysfa i fynd ar speed o hyd," meddai.

"Mae Dafydd yn benderfynol - os yw e'n cael syniad yn ei feddwl fe wnaiff e weld hwnnw allan.

"Mae ganddo fe ben am fanylion ac mae e'n focused dros ben ac yn rhoi oriau ac oriau i mewn i rywbeth mae o eisiau ei wneud.

"Pan 'dan ni'n meddwl am y fenter sydd ganddo o'i flaen, wrth gwrs da ni'n excited drosto fe ond wrth gwrs byddwn ni'n bryderus hefyd."

Mae'r GSC yn ras newydd a fydd yn dechrau ym mis Medi 2023.

Dywed Dafydd mai dim ond tua 180 o bobl sydd erioed wedi hwylio o gwmpas y byd ar ben eu hunain - llawer llai na'r 600 sydd wedi bod yn y gofod - felly mae'n dweud ei fod yn wynebu "tipyn o her."

'Her anodd iawn'

Ni fydd Dafydd yn cael cymorth, ond bydd yn cadw mewn cysylltiad â thîm ar y tir trwy ffôn lloeren.

Bydd hefyd yn cael llawer o gefnogaeth gan aelodau Clwb Hwylio Aberaeron yn ôl yr ysgrifennydd, Julian Driver.

"Mae'n her anodd iawn," meddai. "Mae'n 24 awr y dydd, yn ddi-stop, felly ychydig iawn o gwsg.

"A phan fyddwch chi'n cyrraedd y môr deheuol fe allech chi gael tonnau 60-70 troedfedd a gwyntoedd o 50 milltir yr awr.

"A all e ei wneud? Gall, yn bendant. Os gall unrhyw un, mae Dafydd yn gallu!"

Pynciau cysylltiedig