Dau athro i fynd i Batagonia wedi trafferthion recriwtio

  • Cyhoeddwyd
Llinos Howells a Thomas DoorFfynhonnell y llun, Dewi Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Llinos Howells a Thomas Door yn mynd i'r Ariannin rhwng Medi a Rhagfyr eleni

Mae'r Cyngor Prydeinig wedi llwyddo i benodi dau athro i ddysgu Cymraeg ym Mhatagonia eleni, yn dilyn trafferthion recriwtio sylweddol ar ôl y pandemig.

Bydd Llinos Howells o Ferthyr Tudful a Thomas Door o Aberpennar yn mynd i'r Ariannin rhwng Medi a Rhagfyr eleni.

Ym mis Chwefror dywedodd Cydlynydd Dysgu Cymraeg y Wladfa ei bod yn "siom" a "phryder" eu bod wedi gorfod ailagor ceisiadau ar gyfer y swyddi.

Mae'r Cyngor Prydeinig wedi gweithredu cynllun ers dros 20 mlynedd i anfon tri o athrawon o Gymru i weithio mewn ysgolion yno.

Roedden nhw wedi gobeithio gyrru athrawon yno am naw mis eleni, ond dim ond cyfnod o dri mis y bydd y ddau athro yn treulio yno oherwydd y trafferthion recriwtio.

Daw wrth i'r Cyngor Prydeinig lansio eu hymgyrch i geisio denu tri o siaradwyr Cymraeg i'w gyrru i Batagonia am naw mis y flwyddyn nesaf.

Ffynhonnell y llun, Ysgol y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Mae tair ysgol gynradd Gymraeg yn y Wladfa - yn Nhrevelin, Gaiman a Threlew

Bydd Llinos - sy'n dysgu yn Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful ar hyn o bryd - yn dysgu yn ysgolion cynradd Gaiman a Threlew, tra bydd Thomas yn dysgu yn Ysgol y Cwm yn Nhrevelin.

Dywedodd Llinos ei bod wedi ymweld â'r Wladfa ddwywaith o'r blaen, a'i bod yn edrych ymlaen at ei hymweliad diweddaraf.

"Tra yno, rwy'n edrych ymlaen yn enwedig at hyfforddi'r plant ar gyfer cystadlaethau'r Eisteddfod," meddai.

"Rwy'n mwynhau gweld hyder a brwdfrydedd plant yn datblygu, a fi ffaelu disgwyl i ymroi fy hun yn llawn yn y gymuned a dysgu mwy am y diwylliant, y ffordd o fyw, a hefyd i wella fy Sbaeneg."

'Breuddwyd ers sawl blwyddyn'

Roedd Thomas ar ei ffordd i Batagonia i wirfoddoli yn Ysgol y Cwm yn 2020, ond dim ond i Buenos Aires y cyrhaeddodd, wrth i'r wlad fynd i gyfnod clo oherwydd y pandemig.

"Mae cymryd rhan yn y prosiect yma wedi bod yn freuddwyd ers sawl blwyddyn," meddai.

"Mae gweld diwylliant Cymraeg yn ffynnu mewn amgylchedd anarferol yn rhywbeth rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at ei weld a'i brofi."

Ffynhonnell y llun, Dewi Wyn
Disgrifiad o’r llun,

"Hyd yn oed ar ochr arall y byd, mae'n deimlad mor neis bod o amgylch pobl sy'n siarad Cymraeg," meddai Marian Brosschot

Fe gymrodd Marian Brosschot o Fotwnnog ran yn y prosiect yn 2020, ac mae hi bellach yn datblygu adnoddau digidol ar gyfer y rhaglen.

"Un o'r pethau oedd fwyaf o syndod i fi oedd pa mor gartrefol ro'n i'n teimlo allan yno," meddai.

"Hyd yn oed ar ochr arall y byd, mae'n deimlad mor neis bod o amgylch pobl sy'n siarad Cymraeg.

"I unrhyw un sy'n meddwl am ymgeisio, cerwch amdani."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Esyllt Nest Roberts de Lewis ei fod yn "newyddion rhagorol"

Ychwanegodd Esyllt Nest Roberts de Lewis, arweinydd Cymru a'r Byd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, sy'n dysgu Cymraeg yn Gaiman, ei fod yn newyddion da bod y prosiect wedi llwyddo i ddenu dau athro eleni.

"Dwi mor falch - mae'n newyddion rhagorol," meddai wrth Cymru Fyw.

"Fel un a ddaeth i ddysgu yma am flwyddyn i ddechrau, ond sydd wedi bod ym Mhatagonia am bron i 20 mlynedd, alla i ddweud bod e'n brofiad ffantastig.

"Mae rhai sydd wedi treulio cyfnod yma yn teimlo ei fod wedi bod yn brofiad sydd wedi agor eu meddyliau ac mae pawb wedi cael swydd yn dilyn y profiad. Heb os mae'n rhywbeth sy'n edrych yn dda ar y CV.

"Dwi'n teimlo bod y profiad yn datblygu ac yn aeddfedu pobl, ac wrth gwrs mae'r croeso yma'n fawr.

"Dyw rhywun byth ar ben ei hun - maen nhw'n rhan o gymuned agos a chefnogol iawn. Ry'n ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i groesawu'r athrawon newydd."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Prydeinig
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cyngor Prydeinig fod y cynllun yn "cryfhau'r berthynas rhwng Cymru a Phatagonia"

Mae'r Cyngor Prydeinig ar hyn o bryd yn chwilio am dri athro i dreulio naw mis yn y Wladfa rhwng Mawrth a Rhagfyr 2024.

Bydd y rheiny sy'n llwyddiannus yn derbyn £750 y mis, llety am ddim, ac yswiriant teithio ac iechyd.

Mae'r ceisiadau ar agor tan 9 Hydref.

"Ers y pandemig ry'n ni wedi'i gweld hi'n fwyfwy anodd recriwtio ar gyfer y rhaglen, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd ag angerdd am ddysgu Cymraeg i wneud cais," meddai cyfarwyddwr Cyngor Prydeinig Cymru, Ruth Cocks.

"Nid yn unig mae'r cynllun yn parhau i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a Phatagonia, ond mae'n rhoi cyfle unigryw, unwaith-mewn-oes, i'r rheiny sy'n cymryd rhan."

Pynciau cysylltiedig